ROBERTS, ROBERT (1762 - 1802), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Robert Roberts
Dyddiad geni: 1762
Dyddiad marw: 1802
Rhiant: Catherine Thomas (née Jones)
Rhiant: Robert Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Thomas

Ganwyd 12 Medi 1762, mab Robert Thomas a Catherine Jones, y Ffridd, Baladeulyn. Aeth yn fachgen i weithio i chwarel y Cilgwyn. Er bod cadw ysgol Sul ac ymgynnull i addoli yn ei gartref, yr oedd bryd Robert ar oferedd. Pan oedd tuag 16 oed ducpwyd ef gan ei frawd John (1753 - 1834) i oedfa gan David Jones o Lan-gan yng nghapel Brynrodyn, a newidiodd ei gwmni a'i ffordd o fyw. Gadawodd y chwarel hefyd, ac wedi iddo fod beth amser yn gwasnaethu ar fferm Cefn Pencoed symudodd i Goed-cae-du, cartref Richard Jones, y Wern'. Siom a cholled fu i'r llanc cydnerth gael adwyth i'w gorff; yn wir fe danseiliwyd ei iechyd am ei oes gan grydcymalau poenus, a gŵr eiddil a chrwca a safai o flaen cynulleidfaoedd Cymru. Gan na fedrai bellach ateb i'r gwaith ar fferm Coed-cae-du, cymerth gyfnod byr o ysgol dan Evan Richardson ym Mrynengan ond odid, ac wedi iddo briodi cafodd fynd i breswylio i le o'r enw Ynys Galed. Pan ddaeth ton o ddiwygiad crefyddol yn ardal Brynengan teimlodd ysgogiad i bregethu, a bu am gyfnod yn cadw ysgol mewn mannau yn Eifionydd. Gwelodd yn y man mai gormod gorchwyl iddo oedd cyfarfod â gwaith y ddwy swydd, a derbyniodd wahoddiad i wasnaethu'r achos yng Nghapel Uchaf, Clynnog, a phreswylio yn y tŷ-capel. Daeth Robert Roberts yn un o'r sêr disgleiriaf ym mhulpud Cymru. Er eiddiled ei gorff, yr oedd yn llefarwr croyw a naturiol, ac yr oedd ei ddawn areithyddol yn rhyfeddol. Siaradai yn angerdd ei ysbryd megis o fyd arall, ac yr oedd ei sylwadau bachog a thrydanol ynghyd â'i ddisgrifiadau dramatig yn gyfryw nas anghofid hyd byth gan y neb a'i clybu. Bu farw 28 Tachwedd 1802.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.