Ganwyd 10 Gorffennaf 1736, yn Aberceiliog, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, mab Richard a Gwenllian Jones. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Caerfyrddin. Ef, ond odid, yw'r ' David Jones of Llanvernach' a ordeiniwyd yn ddiacon gan esgob Tyddewi yn 1758; gwyddys ei fod yn gurad Tydweiliog, Llyn, yn 1758-9, a gwasnaethai yn Llanafan Fawr, Brycheiniog yn 1759-60. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1760, a cheir ef yn gurad Trefddyn a Caldicot, Mynwy, yr un flwyddyn. Aeth wedyn i ryw blwyf gerllaw Bryste, a symudodd i Crudwell, Wiltshire, yn 1764. Daeth i gyswllt â'r arglwyddes Huntingdon yno, ac yn 1767 cafodd fywoliaeth Llan-gan, Morgannwg, gan yr arglwyddes Charlotte Edwin.
Priododd, (1), Sinah Bowen, Gwaunifor (bu farw 1792), (2) Mrs. Bowen Parry, Maenorowen, Sir Benfro. Rhannodd ei amser rhwng Morgannwg a Phenfro ar ôl ei ail briodas. Bu farw ym Maenorowen, 12 Awst 1810.
Dechreuodd gyfathrachu â'r Methodistiaid pan oedd ym Mynwy, a daeth yn ŵr blaenllaw yn eu plith ar ôl ymsefydlu yn Llan-gan. Bu Llan-gan yn gyrchfan poblogaidd gan Fethodistiaid Morgannwg; heidient yno wrth y cannoedd i gymuno. Adeiladodd gapel i'w ddilynwyr ym mhlwyf Llangrallo, sef Salem, Pen-coed, yn 1771. Yr oedd yn bregethwr melys iawn; yn ôl 'Pantycelyn' medrai doddi'r 'cerrig â'i ireidd-dra' a gwneuthur 'i'r derw mwyaf caled blygu'n ystwyth fel y brwyn.' Dywedir ei fod yn erbyn mudiad yr ordeinio ymhlith y Methodistiaid, ond bu farw pan oeddid yn trefnu ar gyfer hynny.
Cyhoeddodd ddau lyfryn: (a) Llythyr oddi wrth Dafydd ab Ioan y Pererin, at Ioan ab Gwilim (Trefeca, 1784), a gynnwys gofiant byr i Christopher Bassett; (b) A Funeral Sermon … of the Late Countess Dowager of Huntingdon (Llundain, 1791).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.