Teulu gwreiddiol Llanfihangel, ac adeiladwyr y plas Tuduraidd sydd yno, oedd y THOMASIAID - arnynt gweler G. T. Clark, Limbus Patrum, 272-3. Rhywbryd cyn 1687 gwerthwyd y stad i Lundeiniwr goludog iawn o'r enw HUMPHREY EDWIN (1642 - 1707), yr adroddir ei hanes yn llawn yn y D.N.B. - fe'i hurddwyd yn farchog, ac fe fu'n siryf Morgannwg hefyd, yn 1687, a bu'n arglwydd faer Llundain yn 1697. Ymneilltuwr oedd Syr Humphrey, ac achosodd gryn stŵr gan fynd i'w dŷ-cwrdd yn ei lifrai a chyda'i osgordd swyddogol (gweler T. Richards, Piwritaniaeth a Pholitics, 39-40, 47-8, 141). Dyn o Henffordd oedd ef; nid rhy argyhoeddiadol yw'r ymgais i olrhain ei achau'n ôl i yswain o'r 13eg. ganrif, a llai argyhoeddiadol fyth fu iddo arddel pais arfau Edwin, arglwydd Cymreig Tegeingl. Yn ôl Ewenny MS. 2 yn N.L.W., mab oedd Syr Humphrey i ffeltiwr o Gymro yn Llandeilo Fawr, a symudodd i dre Henffordd i werthu hetiau. Prentisiwyd y bachgen i deiliwr yn Henffordd, ond cyn gorffen ei brentisiaeth aeth i fyny i Lundain. Bu farw yn Llanfihangel 14 Rhagfyr 1707. Cafodd bum mab a phedair merch; gweler hanes y tylwyth yn gyflawn (gan James Edwin-Cole, aelod ohono) yn The Herald and Genealogist, vi (1871), 54-62; ond ar wahân i enwi ei ail ferch, Mary, a briodwyd â Robert Jones o Fonmon (gweler dan Jones, Philip, 1618? - 1674), ni bydd a fynnom ni yma ond â llinach uniongyrchol Llanfihangel. Mab hynaf Syr Humphrey oedd SAMUEL EDWIN, a fedyddiwyd 12 Rhagfyr 1671 ac a fu farw yn Llanfihangel 27 Medi 1722; ei wraig oedd Lady Catherine Montagu, merch i ail iarll Manchester, a chawsant dri o blant. O'r rhain, daeth CATHERINE EDWIN yn etifedd i un o'i hewythredd; ganwyd hi yn Llanfihangel, 27 Tachwedd 1702, a bu farw'n ddibriod yn Bedford 23 Gorffennaf 1773 (ar garreg ei bedd y mae'r dyddiadau hyn); ymunodd yn 1756 â chynulleidfa'r Morafiaid yn Bedford, a bu'n hael iawn wrthynt, a chladdwyd hi yn eu mynwent. Mab Samuel Edwin oedd CHARLES EDWIN, ganwyd 1699? Helaethodd ef y stad, a bu'n aelod seneddol dros Westminster o 1742 hyd 1747 a thros Forgannwg o 1747 hyd ei farwolaeth, 29 Mehefin 1756. Yr oedd ei briod, Lady Charlotte Edwin (merch i'r 4ydd dug Hamilton - bu hi farw 5 Chwefror 1774), yn ffigur amlwg yn hanes Methodistiaeth, ac fe welir ei henw yng nghofiannau Lady Huntingdon a George Whitefield, ac yn nyddlyfrau John Wesley. Hi a benododd David Jones (1735 - 1810) i fywoliaeth Llan-gan (N.L.W., Llandaff papers, No. VIII). Mewn ffynhonnell Forafaidd priodolir y 'penodiad' i'w chwaer-yng-nghyfraith (uchod) Catherine Edwin (gweler Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1935, 19-22), ond y mae'n sicr mai cymysgu sydd yma. Gadawodd Charles Edwin stad Llanfihangel i'w chwaer ANN (EDWIN), a briododd â THOMAS WYNDHAM, o Clearwell yn sir Gaerloyw. Yr oedd y Wyndhamiaid hyn wedi pwrcasu (1642) castell 'Dunraven' (Dwnhrefn) gan ei berchnogion y FYCHANIAID, olynwyr y BWTLERIAID Normanaidd. Cafodd Thomas ac Ann Wyndham fab, CHARLES, a gymerth y cyfenw EDWIN, a fu'n aelod seneddol dros Forgannwg o 1780 hyd 1789, bu farw 16 Mehefin 1801. Ailgydiodd ei fab THOMAS yn y cyfenw 'Wyndham'; ail-adeiladodd gastell Dwnrhefn, a bu'n A.S. dros Forgannwg o 1789 hyd ei farwolaeth 8 Tachwedd 1814. Gadawodd aeres, CAROLINE - priodwyd hon yn 1810 â WILLIAM HENRY WINDHAM QUIN a ddaeth wedyn yn ail iarll DUNRAVEN. Yn y modd hwn yr unwyd Edwiniaid Llanfihangel â thylwyth arglwyddi Dunraven.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.