JONES, PHILIP (1618 - 1674), cyrnol ym myddin y Senedd ac aelod o Ail Dŷ Cromwell

Enw: Philip Jones
Dyddiad geni: 1618
Dyddiad marw: 1674
Plentyn: John Jones
Plentyn: Oliver Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyrnol ym myddin y Senedd ac aelod o Ail Dŷ Cromwell
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd yn y Great House, Abertawe, ond ym Mhenywaun, plwyf Llangyfelach, yr oedd ei dreftadaeth. Ymunodd ag ochr y Senedd yn nechrau'r Rhyfel Cartre ', yn 1645 wele ef yn ben ar warchodlu Abertawe, cyrnol yn 1646, ac amlwg iawn fel gŵr deheulaw Horton ym mrwydr ffyrnig Sain Ffagan (8 Mai 1648); daeth yn llywodraethwr castell Caerdydd, a gwestywr i Cromwell pan oedd y gŵr mawr ar ei ffordd i Benfro yn 1649. Nid fel cyrnol na chadfridog, serch hynny, y cofir am Philip Jones ond fel gŵr sad ei ffordd, sownd ei farn, o ddoethineb tuhwnt i'r cyffredin, a'i wybodaeth am bobl a phethau Cymru yn ddwfn ac eang ryfeddol. Parod iawn oedd pwyllgorau'r Senedd - pobl yn byw yn Llundain, gan amlaf - i fanteisio ar y farn a'r wybodaeth honno; gofynnwyd iddo gan Bwyllgor y Gweinidogion Llwm i ddatrys yr anawsterau a gododd ynghylch ficeriaeth Meidrim a bywoliaeth Llangunllo ym Maesyfed (Awst 1649), ac i wneud cyfiawnder ag offeiriad helbulus Llangadog ym Mrycheiniog (Mawrth 1650). Cyn hynny yr oedd Jones wedi dod ei hun yn aelod o bwyllgorau pwysig, nid llai na'r pwyllgor a gydiai yn nhiroedd y Brenhinwyr a phennu dirwyon arnynt (Rhagfyr, 1648), y ' Committee for Compounding,' a'r pwyllgor arbennig i ofalu bod y gweinidogion Piwritanaidd yn cael teilwng dâl (Chwefror 1650). Pan ddaeth Deddf y Taeniad yng Nghymru i rym yn yr un flwyddyn, Philip Jones oedd prif ysgogydd ei gweithrediadau yn y De - safai ei enw yn ail ar restr y 71 comisiynwyr - ac ar ei gefn ef y syrthiodd pwysau mwyaf casineb Brenhinwyr, offeiriaid, a phamffledwyr; 'whoever his creatures might be,' meddai Cafalir ffrom o Frowyr, ' Collonel Jones was always beside the curtain '; a dywedid yn groyw ei fod wedi adeiladu ffortiwn fawr â'r degymau a fforffetiwyd. Saernïwyd deiseb gan gyhuddwyr Jones a'i chyflwyno i Senedd y 'Rump ' yn 1652; ond daeth y Senedd honno i derfyn cyn i ddim effeithiol ddigwydd. Yn 1654 aeth Jones â'r gwynt o hwyliau ei elynion drwy gael deddf ('ordinance') drwodd i alw i gyfrif bob ceiniog a dderbyniwyd ac a wariwyd yn ystod y Taeniad; cyflewyd adroddiad y De o flaen pump o ddirprwywyr yng Nghastellnedd, a chafwyd ef yn gywir, 10 Awst 1655 (dyma'r adroddiad enwog a ddiogelir yn y MS. J. Walker, c. 13, yn llyfrgell y Bodleian). Llarieiddiodd yr hela dros dro, ond ail-ddechreuwyd cyfarth ym Mai 1659, a chodi hynt wedyn ym Mawrth 1660; anghofiwyd pethau yn natgorfforiad y Senedd a miri'r Adferiad; er gwneud trydedd ymgais i agor y sachaid cyhuddiadau, parlyswyd dwylo'r ymyrwyr gan ddedfrydau'r llysoedd a Thŷ'r Arglwyddi.

Nid oedd yn y wlad ŵr mwy pwerus na Philip Jones yn ystod dyddiau'r ddau Ddiffynnydd. Yr oedd yn un o brif aelodau'r Cyfrin Gyngor ('Council of State') ac ar fyrdd o is-bwyllgorau; yr oedd ar y pwyllgor i ddelio ag areithiau pryfoclyd pobl fel Vavasor Powell yn niwedd 1653, ac i ddraftio deddf newydd i gadw'r fath rysedd o fewn terfynau rheswm; ef oedd prif aelod y ddirprwyaeth yn 1655 i ddwyn heddwch rhwng marsiandwyr Llundain â brenin Portugal. Ei weled ef yn dod i mewn gyda thrysorydd y Taeniad yng Ngogledd Cymru a lonyddodd feirniadaeth 'accountants' Llundain ar y gŵr hwnnw; ac y mae mor sicr â dim mai ei air ef yn y cyngor a gadwodd ysgol ramadeg Botwnnog rhag cael ei symud i Bwllheli. Annhebyg iddo anghofio ei dref enedigol; drwy ei ddylanwad ef cafodd Abertawe ddwy siarter, un yn 1655 a'r llall yn 1658, drwy'r hon y daeth y dref yn fwrdeisdref.

Nid oedd iddo ddim cydymdeimlad â'r eithafwyr penboeth; hyn a eglura iddo eistedd yn Nhŷ Arall Cromwell fel Philip Lord Jones, iddo wneud ei orau i ddarbwyllo Oliver i fod yn frenin, iddo gael ei benodi'n ben ar lys y Diffynnydd i lywio'r trefniadau teuluol (ef a drefnodd yr angladd urddasol yn Nhachwedd 1658). Wedi ymneilltuo o Richard Cromwell, daeth Jones ar unwaith yn darged i'r pamffledwyr brenhinol ac i eithafwyr y fyddin; a gwelodd cyn gynted â neb nad oedd fodd cadw'r brenin allan, ac mai da oedd dod i gymrodedd â'r awdurdodau newyddion. Bu moment beryglus yn Senedd biwus y ' Convention ' (Mehefin 1660) pan enwyd ef fel un a haeddai gosb am y rhan amlwg a gymerth yn nhymor y Weriniaeth, ond gofalodd ei gyfeillion am fygu'r bwriad, gyda chymorth geiriau o edifeirwch a arwyddwyd gan Jones ei hun. Yn 1661 daeth llys 'consistory' Tyddewi â chyhuddiad yn ei erbyn o ddwyn ymaith (flynyddoedd yn ôl) organau Eglwys Fair yn Abertawe, ond erys yn gofnod moel ar y llyfrau, ac ni chlywyd gair pellach amdano. O ran hynny, beth bynnag am sen offeiriaid a dygasedd rhai Brenhinwyr, yr oedd Philip Jones wedi paratoi gwely plu iddo ei hun o dan y drefn newydd drwy garedigrwydd a chymwynas i Frenhinwyr eraill yn nyddiau ei nerth (enghraifft dda o hynny yw ei ddedfryd yn 1656 o blaid Ann, merch un o Fanseliaid Sir Gaerfyrddin, a nith i brifathro difuddiedig Coleg Iesu). Ymneilltuodd i'r tiroedd a brynasai yn Ffonmon ym Mro Morgannwg; bu'n uchel siryf yn 1671, a bu farw ar 5 Medi 1674, oed 56. Un o dystion ei ewyllys olaf oedd Robert Thomas o Lanfihangel ger y Bont-faen, aelod seneddol dros Gaerdydd, un o'r pum boneddwr a dystiodd yng Nghastellnedd yn 1655 fod cyfrifon Philip Jones a'i gymrodyr yn gywir i'r geiniog. Ac yr oedd enw ei fab ieuengaf, OLIVER JONES, a anwyd yn 1654, yn atgof byw o'r hen gyfeillgarwch gynt â theulu Cromwell.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.