un o Fawnseliaid Motlysgam (Mwdlysgwm, ' Muddlescombe'), Cydweli, disgynyddion Francis Mansell, ail fab Syr Edward Mansel (gweler dan ' Mansel '); y mae papurau'r gainc hon yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ganwyd ef yn 1579 (bedyddiwyd 23 Mawrth 1578/9) yn drydydd mab i'r Francis uchod. O ysgol Henffordd, aeth i Goleg Iesu fis Tachwedd 1607; graddiodd ar 20 Chwefror 1608/9 - graddiodd yn D.D. yn 1624. Etholwyd ef yn gymrawd o Goleg All Souls (ond nid ar y cynnig cyntaf yn 1613). Ddechrau Gorffennaf 1620 penodwyd ef yn bennaeth Coleg Iesu gan ganghellor y brifysgol, yn nannedd gwrthwynebiad rhai o gymrodyr y coleg; diswyddodd yntau bedwar o'r rhain; ond (efallai gan deimlo na byddai ei le'n esmwyth) ymddiswyddodd yn 1621 ac etholwyd Eubule Thelwall yn ei le. Ond ar farw Thelwall (1630) dewiswyd Mansell heb drafferth - ' by far the most picturesque figure in the College history,' meddai E. G. Hardy. Fe'i profodd ei hunan yn bennaeth hynod awdurdodol, ond doeth er hynny; helaethodd adeiladau'r coleg yn ddirfawr, cyfrannodd yn hael at ei reidiau, a chasglodd lawer o roddion iddo. Pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol, yr oedd Mansell yng Nghymru, ac arhosodd yno am flynyddoedd (yr oedd Rhydychen dan warchae) i roi help i blaid y brenin; ond yn 1647, pan ymwelodd dirprwywyr y Senedd â'r brifysgol a'r colegau, brysiodd Mansell yn ei ôl i sefyll ei dir. Ni lwyddodd i atal ei ddiswyddiad, a diswyddiad ei gydgymrodyr, yn 1648, a dychwelodd i Gymru - bu'n byw am beth amser ym Mhlas Llantrithyd. Eithr yn 1651 yn ôl ag ef i Rydychen, i fyw mewn llety; ond yn yr un flwyddyn, gymaint oedd parch ei goleg iddo fel y rhoddwyd ystafelloedd iddo yn y tŵr uwchben porth y coleg; ac yno y bu, dan Michael Roberts a Francis Howell (y ddau bennaeth a gafodd ei le), hyd yr Adferiad, pan adferwyd yntau (1660) i'w hen swydd. Ond yr oedd bellach yn hen, a'i olygon hefyd yn pallu, felly ymddiswyddodd ymhen saith mis (1661); dilynwyd ef gan Leoline Jenkins. Daliai i fyw yn y coleg, a bu farw yno 1 Mai 1665 - ' a man of sternness indeed, and severity, … but one who had gained in a singular degree the love and veneration of every member of his College,' yn ôl Hardy. Gadawodd ei holl eiddo i'r coleg.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.