Mab Evan Roberts ac Alice ei wraig o blwyf Llanffinan ym Môn - dyddiad ei eni'n anhysbys. Bu am dymor yng Ngholeg Caius, Caergrawnt, a Choleg y Drindod, Dulyn, lle y graddiodd yn B.A. 1620, M.A. 1623; ar sail hyn, corfforwyd ef yn aelod o brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, ill dwy yn 1624; daeth yn gymrawd o Goleg Iesu, Rhydychen, 1625 - yno y bu tan 1638, pan gollodd ei le oherwydd rhyw anghaffael ynghylch torri'r rheolau am radd D.D. Enwir ef fel yn dal bywoliaeth ym Môn, ac yn Llangynwyd ym Morgannwg. Yn ystod y Rhyfel Cartref, ansicr oedd ei rodiad; yn ôl ei elynion bu'n gaplan yng nghastell Caernarfon (byddin y Senedd), ac yn swcwr mawr (os nad dan arfau ei hun) i wrthryfelwr Môn yn 1648 (byddin y brenin). Sut bynnag, pan ddaeth y profwyr Piwritanaidd i Brifysgol Rhydychen yn 1648, a throi allan brifathro Coleg Iesu, Michael Roberts a benodwyd yn ei le, a chafodd D.D. o dan y drefn newydd (1649). Am naw mlynedd aeth y coleg yn nyth cacwn. Edrychai'r Brenhinwyr cudd ymhlith y cymrodyr arno fel bradwr i'w hachos; i'r garfan Biwritanaidd nid oedd yn ddim ond rhagrithiwr. Saernïwyd cŵyn ar ôl cŵyn yn ei erbyn, rhai yn myned yn ôl at ei rawd cyn y rhyfel, eraill yn ei gyhuddo o ddrygu buddiannau'r coleg drwy gamystumio arian a bwnglera gyda thiroedd. Bu apelio at y 'Visitor' (iarll Penfro), at y 'Visitors' Piwritanaidd, ac at y Diffynnwr, ac ef (yn ôl pob tebyg), yn rhinwedd ei swydd fel canghellor y brifysgol, a ddiswyddodd Michael Roberts yn 1657. Daliodd Roberts i fyw yn Rhydychen hyd ei farw, 3 Mai 1679, yn piwus gyfreithio gydag awdurdodau Coleg Iesu, ymgeintach gyda'i berthnasau ym Môn, ac ofer ddisgwyl am ddyrchafiadau yn yr Eglwys. Gŵr ystyfnig, anystywallt, brwd am ei ffordd ei hun, a phur amddifad o egwyddorion uchel. Ond dylid cofio pump o bethau amdano: iddo (gydag un arall) gywiro argraffiad Beibl bach 1630 ar ei ffordd drwy'r wasg; ysgrifennu 'encomium' i Gemma Cambri Richard Jones o Lanfair Caereinion, 1655; talu teyrnged Ladin swyddogol (24 Gorffennaf 1676) i'r ail-argraffiad o Hanes y Ffydd; anfon nodiadau am lawer o Gymry ar gyfer Athenae Oxonienses Anthony Wood; a bod yn bur llawdrwm ar argraffiad 1672 o'r Testament Newydd (am fod Stephen Hughes a'i gymrodyr wedi gadael y Llyfr Gweddi allan ohono).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.