HUGHES, STEPHEN (1622 - 1688), un o'r Anghydffurfwyr bore

Enw: Stephen Hughes
Dyddiad geni: 1622
Dyddiad marw: 1688
Priod: Catherine Hughes (née Daniel)
Rhiant: John Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o'r Anghydffurfwyr bore
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Griffith John Williams

Mab John Hughes, sidanydd yn nhref Caerfyrddin. Ni wyddys odid ddim am ei hanes yn ei ieuenctid, ond y mae'n bosibl iddo fod yn ysgol ramadeg Caerfyrddin. Cafodd fywoliaeth Meidrum yn 1654, a dywedir iddo gael bywoliaeth Merthyr (yn Sir Gaerfyrddin) cyn hynny. Yr oedd yn ŵr o ddylanwad yng nghyfnod Cromwell.

Tua 1658 fe'i cawn yn dechrau ar waith mawr ei fywyd, sef cyhoeddi llyfrau Cymraeg i'r werin. Cyhoeddodd ran gyntaf gwaith Ficer Prichard yn 1659, a daeth yr ail allan yn fuan wedyn (er nad oes gopi ohoni ar glawr). Daeth pen ar y cyhoeddi pan adferwyd y brenin, a gorfu iddo ymadael â Meidrum. Ychydig a wyddom amdano yng nghyfnod yr erlid, ond dywedir iddo barhau i bregethu yn Sir Gaerfyrddin ac iddo gadw ysgolion.

Priododd â Catherine merch John Daniel, ail faer Abertawe, ac yno y cartrefodd o hynny ymlaen.

Tua 1670 llwyddodd i ailddechrau ar y gwaith o gyhoeddi llyfrau Cymraeg, a daeth y drydedd ran o waith yr ' Hen Ficer ' allan y flwyddyn honno. Cafodd gefnogaeth Eglwyswyr yn ogystal ag Anghydffurfwyr, a chyhoeddodd bedair rhan o waith Ficer Prichard yn un gyfrol, yn 1672, yn ogystal â Lyfr Psalmau, ynghyd â Thestament Newydd ein Harglwydd, a Catechism Mr. Perkins. Yr oedd yn Llundain yn y cyfnod hwn, a chyfarfu â Thomas Gouge a Charles Edwards. Bu'n cydweithio â hwy am dros ddeng mlynedd. Yr oedd yn Llundain drachefn yn 1677, a chyhoeddodd ddwy gyfrol gyfansawdd, sef Tryssor i'r Cymru a Cyfarwydd-deb i'r Anghyfarwydd. Yna, yn 1677-8, gwelodd sylweddoli un o'i freuddwydion, sef dwyn allan argraffiad rhad o'r Beibl. Cyhoeddodd argraffiad arall o waith Ficer Prichard yn 1681, a'r waith hon rhoddwyd iddo'r teitl, Canwyll y Cymru. Yn 1683 parodd argraffu llyfryn tebyg i waith y Ficer, sef Cynghorion Tad i'w Fab gan Henry Evans. Bu ef a thri eraill wrthi'n cyfieithu llyfr enwog Bunyan, a chyhoeddwyd ef yn 1688 o dan y teitl, Taith neu Siwrnai y Pererin. Y mae'n eglur iddo wneuthur llawer iawn i hyrwyddo cynlluniau Gouge yng Nghymru tra parhâi i bregethu i gynulleidfaoedd gwasgaredig Sir Gaerfyrddin a'r cyffiniau.

Bu farw yn Abertawe yn 1688, a phrofwyd ei ewyllys ar 16 Gorffennaf. Y mae Stephen Hughes yn bwysig nid yn unig fel apostol Anghydffurfiaeth ond fel un o'r gwŷr a ddechreuodd droi gwerin Cymru yn geidwaid yr iaith.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.