Mab Robert Edwards o Rhydycroesau yn nhref ddegwm Lledrod ym mhlwyf Llansilin. Ni wyddom odid ddim am ei hanes yng nghyfnod ei ieuenctid, ond yn 1644 fe'i hetholwyd yn 'Bible Clerk' yng ngholeg All Souls yn Rhydychen. Yn 1648, fe'i halltudiwyd o'r coleg hwnnw oherwydd ateb anfoddhaol a roesai i'r gwŷr a ymwelai â'r brifysgol i ofyn i aelodau'r gwahanol golegau a oeddynt yn barod i ymostwng i awdurod y Senedd. Ym mis Hydref 1648 cafodd ysgoloriaeth yng Ngholeg Iesu, ac enillodd ei radd, B.A., yn 1649. Yn y flwyddyn ddilynol, y mae'n gwasanaethu fel pregethwr teithiol o dan Ddeddf Lledaenu'r Efengyl yng Nghymru, a gellir bwrw mai dyna fu ei waith hyd 1652-3, pan gafodd fywoliaeth segur Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Collodd y lle hwnnw yn 1659, ac anodd olrhain ei gamre yn y blynyddoedd wedi adferiad y brenin yn 1660. [Dengys Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1961, 82, ei fod eto yn Llanrhaeadr yn 1660.] Aeth i Rydychen tua 1666 neu 1667 i argraffu ei lyfr cyntaf, Y Ffydd Ddi-ffuant (1667). Tebyg iddo fwrw'r blynyddoedd nesaf yn ei hen gartref yn Llansilin, ond fe'i gwelir drachefn yn Rhydychen yn 1670 a'r flwyddyn ddilynol yn arolygu'r gwaith o argraffu dau lyfr, sef Dad-seiniad Meibion y Daran (1671), sef adargraffiad o gyfieithiad Morris Kyffin o lyfr yr esgob Jewel, Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr (1595), a'r ailargraffiad o Y Ffydd Ddi-ffuant (1671), sy'n cynnwys ychwanegiad pwysig, sef 'Hanes y ffydd ymhlith y cymru.' Rywbryd rhwng 1673 a 1675 daeth i gysylltiad a Stephen Hughes a Thomas Gouge a'r Saeson hynny a ffurfiodd y 'Welsh Trust' gyda'r amcan o sefydlu ysgolion elusennol ac o gyhoeddi llyfrau Cymraeg a'u rhannu'n rhad ymhlith y tlodion. Ac yn Llundain, yn arolygu'r gwaith o argraffu'r llyfrau hyn, y bu hyd 1684. Cyhoeddodd hefyd rai llyfrau o'i waith ei hun, gan gynnwys trydydd argraffiad Y Ffydd Ddi-ffuant (1677), cyfieithiadau o lyfrau crefyddol, a hefyd Lyfr Plygain gydag Almanac (1682). Rywbryd wedi 1686 dychwelodd i gyffiniau Croesoswallt, lle y buasai'n gwasanaethu fel pregethwr yn 1672 wedi i'r Anghydffurfwyr gael rhyddid i gyfarfod mewn tai a oedd wedi eu trwyddedu. A gellir barnu iddo fod yn weinidog yno drachefn tua 1690-1. Ond ni allai aros yn hir yno, ac yn 1691 fe'i gwelir drachefn yn Llundain yn argraffu'r llyfr rhyfedd hwnnw, An Afflicted Man's Testimony concerning His Troubles, math o hunangofiant. Nid croniclo ffeithiau ydoedd ei amcan wrth ysgrifennu'r llyfr hwn, eithr cwyno yn herwydd gormes ei elynion. Y mae'n eglur fod y gorthrymderau a ddioddefasai wedi dechrau gormesu ar ei farn, a gellir canfod yma rai o arwyddion cyntaf gorffwylledd. Gorffennodd ysgrifennu'r hunangofiant ar 1 Gorffennaf 1691, ac ni wyddom beth fu ei hanes wedi hynny.
Y mae Y Ffydd Ddi-ffuant wedi ennill ei le ymhlith y clasuron Cymraeg. Ni ellir amau nad Charles Edwards ydyw'r prif feistr ar ryddiaith Gymraeg rhwng dyddiau Morgan Llwyd ac Ellis Wynne.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.