Ganwyd yng Nghynfal, plwyf Maentwrog, Meirionnydd. Ceir ef yn yr ysgol yn Wrecsam yn 1634-5, a threuliodd dymor yn Brampton Bryan, Llanfair Waterdine, Sir Amwythig, lle enwog am ei nodded i ddysg. Cafodd y profiad o 'dröedigaeth' trwy bregethu Walter Cradoc, curad eglwys Wrecsam ar y pryd. Dilynodd ef i Ddeau Cymru, gan ymdroi ymhlith y gwyr a sefydlodd yr achos Anghydffurfiol cyntaf yng Nghymru, yn Llanfaches, sir Fynwy. Gwasnaethodd blaid y Senedd yn y ddau Ryfel Cartref, a chafodd syniadau'r Pumed Brenhinwyr gryn afael arno. Ymsefydlodd yn Wrecsam yn 1647, a gwnaeth ei gartref ym Mryn-y-ffynnon, gan fwrw'i aden dros 'eglwys gynnull' yn y lle. Dewiswyd ef yn 'Gymeradwywr' ynglyn â Deddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru yn 1650, a llafuriodd lawer fel pregethwr teithiol.
Ysgrifennodd swm mawr o brydyddiaeth sy'n cynnwys troi nifer o'r salmau a rhannau o Ganiad Solomon ar gân, a llunio amryw emynau gwreiddiol. Cyhoeddodd nifer o bamffledau a llyfrau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn eu plith y clasur hwnnw, Llyfr y Tri Aderyn . Argraffwyd ei weithiau hysbys gan Brifysgol Cymru mewn dwy gyfrol, un yn 1899 a'r llall yn 1908. Erys deunydd cyfrol arall mewn llawysgrifau (yn Ll.G.C.). Bu'n rhagredegydd i'r Crynwyr yng Nghymru, ac y mae'n lladmerydd i'w dysg hyd yn oed yn ei weithiau cynharaf. Hefyd, trosodd o'r Saesneg rai o draethodau Jacob Boehme, y cyfrinydd o'r Almaen, gan ddehongli ei ddaliadau i'r Cymry. Bu â rhan amlwg yn nigwyddiadau gwleidyddol cyfnod y Weriniaeth, a chan gymaint ei gythrudd o weld Cromwell yn derbyn y teitl o 'Arglwydd Amddiffynnydd,' mentrwyd rhoi ei enw ar y brotest honno, A Word for God, ond ymwâd yn bendant â'r weithred. Yn 1656 cymeradwyir ef gan y 'Profwyr' fel gweinidog i efengylu yn Wrecsam, a gorchmynnir talu iddo £100 bob blwyddyn.
Bu farw ym Mehefin 1659 a rhoed ei weddillion i orffwys yng ngardd gladdu Rhosddu, Wrecsam, lle y dadorchuddiwyd cofgolofn iddo yn 1912.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.