CRADOC, WALTER (1610? - 1659), diwinydd a Phiwritan

Enw: Walter Cradoc
Dyddiad geni: 1610?
Dyddiad marw: 1659
Priod: Catherine Cradoc (née Langford)
Plentyn: Lois Creed (née Cradoc)
Plentyn: Eunice Cradoc
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwinydd a Phiwritan
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Tudur Jones

Ganwyd yn Nhrefela, Llangwm, Mynwy, o deulu da. Etifeddodd ystad gwerth £601 y flwyddyn, a thybir iddo gael ei addysg yn Rhydychen. Fe'i penodwyd yn gurad yn Llanbedr-ar-Elai ac wedi hynny yn gurad i William Erbury yn eglwys y Santes Fair, Caerdydd. Yno tynnodd wg yr awdurdodau arno'i hun â'i dueddiadau piwritanaidd ac ataliwyd ei drwydded yn 1634. Yna symudodd i Wrecsam lle y gwnaeth ddigon o argraff i'r Piwritaniaid yng Ngogledd Cymru gael eu bedyddio â'r enw 'Cradociaid.' Am y pum mlynedd nesaf yr oedd yn dra gweithgar yn y gororau. Yn 1635-6 treuliodd beth amser gyda Richard Symonds a Richard Baxter yn yr Amwythig. Ar 8 Mai 1638 fe'i daliwyd yn addoli yn nhy un Mrs. De Lamars Veasy yn Llundain a'i wysio gyda thri arall i ymddangos o flaen Llys yr Uchel Gomisiwn. Efallai iddo ffoi o Lundain i'r gororau gan mai yn Llanfair Waterdine, dan nawdd Syr Robert Harley, y bu o Chwefror hyd Tachwedd 1639 yn aelod o'r cylch piwritanaidd a gasglai yno. Nid oes gofnod iddo ymddangos o flaen yr Uchel Gomisiwn. Rhwng 5 Tachwedd a 6 Rhagfyr 1639 yr oedd yn Llanfaches yn helpu i gychwyn yr achos yno, a sonnir amdano fel y gweinidog effeithiol ar yr eglwys. Pan gychwynnodd y rhyfel cartrefol ffodd eglwys Llanfaches i Fryste (1642) ac wedi cwymp y ddinas honno i Lundain (Gorffennaf 1643); ymunodd ag eglwys All-Hallows the Great yn Thames Street, a Cradoc gyda hi. Ar 26 Mehefin 1641 cefnogodd betisiwn i'r Senedd yn gofyn am fwy o bregethwyr i Gymru, ac yn ystod y pum mlynedd nesaf dadleuodd yn daer iawn gyda'r Senedd a Chynhadledd Westminster dros gael effeithiolach gweinidogaeth yn y Dywysogaeth. Ar 19 Hydref 1646 trwyddedwyd Cradoc i bregethu yng Nghymru - bedwar mis ar ôl iddo draddodi ei bregeth ' The saints fulnesse of joy ' o flaen y Ty Cyffredin. (21 Gorffennaf).

Yr oedd yn un o'r prif symudwyr o blaid pasio An Act for the Better Propagation of the Gospel in Wales (1649). Dan y ddeddf hon yr oedd yn un o'r pum profwr ar hugain a chwiliai addaster pregethwyr a fynnai wasanaethu yng Nghymru. Mynwy oedd prif faes ei lafur o hyn hyd ei farw, ac fe'i ceir yn rhannu arian i 'amryw bobl dduwiol' yn y sir honno yn ôl trefniant y ddeddf. Ar 25 Mawrth 1652-3 ymsefydlodd Cradoc ym Mryn Buga, gan ddangos wrth hynny ei gymedroldeb ar bwnc y degwm. Dangosodd ei gymedroldeb drachefn pan gynhyrfwyd Vavasor Powell, gan fethiant Senedd y Saint, i gyhoeddi'r petisiwn A Word for God a thrwyddo ddatguddio ei wrthwynebiad i Cromwell. Ymddangosodd Cradoc fel arweinydd cefnogwyr Cromwell yng Nghymru, a lluniwyd y petisiwn teyrngarol, The Humble Representation and Address, wedi ei arwyddo gan fwy na 700 o wyr De Cymru, gan mwyaf, fel ateb i betisiwn Powell. Fe'i cyflwynwyd gan Cradoc i Cromwell ar 4 Chwefror 1655-6. Parodd hyn i Vavasor Powell gyda rhai o aelodau eglwys Wrecsam anfon llythyr cryf ond boneddigaidd at Cradoc yn ei gyhuddo o fradychu'r gwirionedd. Ar ôl hyn tawelodd Cradoc, ac ym Mai 1655 fe'i sefydlwyd yn ficer Llangwm, Mynwy. Bu farw 24 Rhagfyr 1659, ac fe'i claddwyd yng nghangell eglwys Llangwm. Dyddiwyd ei ewyllys 9 Rhagfyr 1659 ac fe'i profwyd 28 Tachwedd 1661 gan Richard Creed.

Ei wraig oedd Catherine Langford, merch Richard ac Elisabeth Langford o Drefalun, Wrecsam; bu ganddo ddwy ferch, Eunice a Lois - yr olaf yn wraig i Richard Creed.

Fel pregethwr yr adnabyddid Cradoc, a phregethau yw'r rhan helaethaf o'i waith cyhoeddedig. Dyma ei weithiau: (i) The Saints fulnesse of joy in their Fellowship with God… London, 1646; (ii) Gospel-Libertie in the Extensions/Limitations of it… Whereunto is added good Newes from Heaven… London, 1648; (iii) Mount Sion or the Privilege and Practice of the Saints… London, 1649; (iv) Divine Drops Distilled from the Fountain of Holy Scriptures… 1650; (v) Gospel-Holinesse or The Saving Sight of God… London, 1651.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.