Ganwyd yn Roath-Dogfield ger Caerdydd yn fab i fasnachwr (Brasenose Coll. Reg. I, 139). Enillodd ei B.A. o Goleg Brasenose, Rhydychen, 29 Hydref 1623 (Alumni Oxonienses); fe'i derbyniwyd i Goleg Queens ', Caergrawnt, yn 1624, a chafodd ei M.A. yno yn 1626. Tanysgrifiodd am urddau diacon ym Mryste, 23 Rhagfyr 1626 (Alumni Cantabrigienses) ac ar ôl bod yn gurad yng Nghasnewydd apwyntiwyd ef yn ficer eglwysi'r Santes Fair a Sant Ioan, Caerdydd. Bu yno o 7 Awst 1633 hyd Gorffennaf 1638 (Foster, Index, N.L.W.).
Daeth ef a Walter Cradoc i wrthdarawiad ag esgob Llandaf am eu gweithgarwch Piwritanaidd yn 1634. Ar 20 Hydref 1635 ymddangosodd Erbery gyda William Wroth gerbron Llys yr Uchel Gomisiwn (gweler Richards, Cymru a'r Uchel Gomisiwn, 39). Ildiodd Wroth i'r esgob ond ymddiswyddodd Erbery.
Yn ystod y Rhyfel Cartrefol bu'n gaplan yng nghatrawd Skippon (Ch. Love, Vindication, 36). Ar ôl cwymp Rhydychen, ceir ef yno yn gwrthwynebu'r Presbyteriaid, ac ar 11 Ionawr 1646-7 yn dadlau â Francis Cheynell yn eglwys y Brifysgol. Yn Ionawr 1648 cymerodd ran yn y dadleuon ar yr ' Agreement of the People ' (Clarke Papers, II, 171-5).
Gyda phasio Deddf y Taenu dychwelodd i Gymru gan weithio ym Morgannwg a derbyn £225 am ei lafur (Walker MS. c. 13, f. 17), ond yn niwedd 1651 gwrthododd dderbyn ychwaneg o dâl gwladwriaethol (The Sword Doubled, 3). Mewn athrawiaeth gogwyddai at ddaliadau cyfriniol ac yr oedd yn ddisgybl (beirniadol) i Jacob Boehme. O ganlyniad gwŷsiwyd ef gerbron y 'Committee for Plundered Ministers,' 8 Chwefror 1652, i ateb am ei heresïau (Clarke Papers, ii, 233).
Yr oedd cysylltiadau agos rhyngddo a'r Piwritaniaid Cymreig, a chyfrifai Morgan Llwyd ef yn athro iddo. Beirniadai ei gydgrefyddwyr yn llym, ac ni fynnai ledaenu addysg y prifysgolion. Ar 12 Hydref 1653 yr oedd Erbery a John Webster yn dadlau'n gyhoeddus yn erbyn addysg ffurfiol yn Lombard Street, Llundain. (Wood, Athenae Oxonienses, iii, c. 361).
Bu Erbery farw yn Llundain yn Ebrill 1654, ond ni wyddys fan ei gladdu. Trodd ei ferch Dorcas at y Crynwyr a bu'n dilyn James Nayler (Mercurius Politicus, Rhif. 350 (7624)).
Y mae ysgrifeniadau pwysicaf Erbery wedi eu crynhoi yn y gyfrol The Testimony of William Erbery left upon Record for the Saints of Succeeding Ages … (London, 1658). Nid yw Apocrypha … (London, 1652) yn y casgliad hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.