POWELL, VAVASOR (1617 - 1670), diwinydd Piwritanaidd

Enw: Vavasor Powell
Dyddiad geni: 1617
Dyddiad marw: 1670
Priod: Katherine Powell (née Gerard)
Priod: Joan Quarrel
Rhiant: Penelope Powell (née Vavasor)
Rhiant: Richard Powell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwinydd Piwritanaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Tudur Jones

Ganwyd yn 1617 yn y Cnwcglas, plwyf Heyop, sir Faesyfed, yn fab Richard Powell a'i wraig Penelope, merch William Vavasor y Drenewydd (Grazebrook a Rylands, Visitation of Shropshire, ii, 324, 407, 468-9; C. B. Northcliffe, Visitation of Yorkshire, 329-31). Treuliodd beth amser yn Clun fel ysgolfeistr (Examen, 16), ac efallai fel curad (Life, 6. 124) gyda'i or-ewythr Erasmus Powell. Dywed Anthony Wood fod Vavasor Powell yn fyfyriwr yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, o 1634 ymlaen (Athenae Oxonienses, 1692, ii, 343), ond nid ymddengys ei enw ym mhapurau'r coleg. Fe'i trowyd yn Biwritan tra yn Clun trwy ddarllen The Bruised Reede (Richard Sibbes) a thrwy bregethu Walter Cradoc (Life, 1-4, 116).

Cyhuddwyd ef yn 1640 o beri cythrwfl trwy bregethu (Life, 126-7, 10-11), ac yn 1642 fe'i cyhuddwyd yn 'Assizes' Llanandras o ymneilltuo o'r Eglwys, ond fe'i dyfarnwyd yn ddieuog (Examen, 10).

Erbyn 1642 yr oedd yn Llundain (Life, 11), ac yn 1644 fe'i henwyd yn ficer Dartford, Caint (G. A. Tait, The Church and Vicars of Dartford 1909, 26). Ymddiswyddodd 7 Ionawr 1646 (E. Hasted, History of Kent, 230). Ar 11 Medi 1646 rhoddwyd iddo dystysgrif teilyngdod gan gymanfa Westminster, ar ôl ei enwi fel pregethwr yng Nghymru gan y Committee for Plundered Ministers (Bodl. MS. 325 (68)). Bu gyda byddin Thomas Mytton yn ymosod ar Fiwmares yn yr Hydref, 1648 (Phillips, Civil War in Wales, ii, 382-401). Ar 2 Rhagfyr 1649 pregethodd gerbron Thomas Foot, arglwydd faer Llundain, ac ar 28 Chwefror 1650 gerbron y Tŷ Cyffredin. Fe'i hapwyntiwyd yn brofwr tan Ddeddf y Taenu, a chysylltid ei enw'n arbennig â'r pregethwyr teithiol (Strena, wynebddalen). Gwadai'n gyson y cyhuddiadau iddo gam-ddefnyddio'r arian degwm i ddibenion personol. Oherwydd iddo ymlynu wrth y ddysgeidiaeth am y Bumed Frenhiniaeth, daeth i wrthdrawiad â'r Ddiffynwriaeth. Ar 21 Rhagfyr 1653 fe'i carcharwyd am iddo ymosod yn hallt ar Cromwell mewn araith ar 18 a 19 Rhagfyr. Fe'i rhyddhawyd 24 Rhagfyr, a ffôdd i Gymru yn Ionawr i drefnu gwrthwynebiad i'r Arglwydd Amddiffynnydd. Anghofiodd ei wrthwynebiad pan ymunodd â gwŷr Cromwell i chwalu'r gwrthryfel brenhinol yn 1655 (A true and full Relation of the great Rising, 1655, 4). Ond penllanw'r gwrthwynebiad oedd y ddeiseb 'A Word for God,' a arwyddwyd gan 322 o bobl ac a gyflwynwyd yn Nhachwedd 1655. Bu hon yn foddion i belláu Vavasor Powell oddi wrth ei gydweithwyr Piwritanaidd, yn ogystal â'r awdurdodau llywodraethol.

Carcharwyd ef ar 23 Ebrill 1660 (Life, 129) a thrachefn 30 Gorffennaf (Calendar of State Papers, Domestic Series, 1660-1, 123, 135). Erbyn Medi 1661 yr oedd yng ngharchar y Fleet, Llundain, ond fe'i symudwyd ym Medi 1662 i gastell Southsea (ibid., 1661-2, 463; Life, 132). Nis rhyddhawyd tan Tachwedd 1667 (Life, 132, 134). Ym Mawrth 1668 pregethodd yn Blue Anchor Alley, Llundain (Calendar of State Papers, Domestic Series, 1667-8, 318-9) ac ymwelodd eto â Maldwyn (G. Lyon Turner, Original Records, i, 4). Fe'i cymerwyd i'r ddalfa eto yn Hydref 1668, ar ôl pregethu ym Merthyr Tydfil. Fe'i croesholwyd ddwywaith yn y Bontfaen (Life, 135-41, 177-82) ac yna yn neuadd y dref, Caerdydd, 13 Ionawr 1669 (Life, 182-8). Symudwyd ei achos i'r Court of Common Pleas, ac ymddangosodd yno 22 Mai. Ar 24 Mai 1669 (Life, 188-9) fe'i carcharwyd yn y Fleet. Bu farw wedi salwch poenus 27 Hydref 1670, yn 53 oed (Life, 189-90), a chladdwyd ei weddillion yng nghladdfa Bunhill Fields.

Ei wraig gyntaf oedd Joan Quarrel, gweddw Paul Quarrel, Llanandras; a'i ail wraig oedd Katherine, pumed ferch Gilbert Gerard, Crewood, Caer, a'i goroesodd (G. Ormerod, History of Chester, ii, 132), ac a ddaeth wedyn yn wraig i John Evans (1628 - 1700) Ni bu iddo blant.

Dyma restr o weithiau Vavasor Powell : 1, The Scriptures Concord (London, 1646); 2, God the Father Glorified (London, 1649); 3, Christ and Moses Excellency (London, 1650); 4, Saving Faith (London, 1651); 5, Christ Exalted, 1651 (arg. gyda rhif 4); 6, Three Hymnes [sic] (London, 1650); 7, Common-Prayer-Book No Divine Service (London, 1660); 8, The Bird in the Cage (London, 1661); 9, The Sufferers-Catechism, 1664; 10, A New and Useful Concordance (London, 1671); 11, The Life and Death of Mr. Vavasor Powell , 1671 (yn cynnwys ei hunangofiant), 1-19; 12, Divine Love (London, 1677); 13, The Golden Sayings … of Mr. Vavasor Powell (d.d. un ddalen; wedi eu cynnull gan John Conniers); gweler hefyd NLW MS 366A: Vavasor Powel and others: Poetry a NLW MS 1961A: Vavasor Powell, &c. .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.