Ganwyd yn Great Sutton, gerllaw Llwydlo, mab Matthew Evans, offeiriad Penegoes, gerllaw Machynlleth. Cawsai Matthew Evans, a oedd yntau'n fab i un a fu'n rheithor yno o'i flaen, ei droi o'i fywoliaeth yn 1650 gan Gomisiynwyr Taenu'r Efengyl yng Nghymru. Yr oedd y mab yn y cyfamser wedi ymaelodi yng Ngholeg Balliol, Rhydychen (6 Mawrth 1647), eithr fe'i trowyd allan o'r coleg gan yr Ymwelwyr Piwritanaidd â'r brifysgol ym mis Mai. Fe'i hordeiniwyd yn ddirgel ym mis Tachwedd yr un flwyddyn gan Roger Mainwaring, esgob Tyddewi, a oedd yntau wedi cael cymryd ei swydd fel esgob oddi arno. Newidiodd John Evans ei syniadau - er gofid i'w dad - ac fe'i dewiswyd, 23 Mawrth 1653, i ofalu am yr ysgol a sefydlasid gan y comisiynwyr yn y Bala, gyda chyflog o £35 a thrwydded i bregethu. Oblegid ei fod yn tueddu i feirniadu llywodraeth Cromwell - fe lofnododd 'Remonstrances' 1654 a 1655 - cafodd beth trafferth i gael y cyflog a oedd yn ddyledus iddo; yn 1656, fodd bynnag, gorchmynnodd Cyngor y Wladwriaeth fod cyflog dwy flynedd i'w dalu iddo, ac yn 1657 fe'i hetholwyd gan feiliaid a bwrdeisiaid Croesoswallt (ar arch Cromwell ei hunan) yn brifathro'r ysgol drefol yno - swydd y cawsai ei ragflaenydd ei droi allan ohoni oblegid na chydffurfiai. Eithr cafodd y rhagflaenydd ei swydd yn ôl yn 1660 ac ymunodd Evans gyda Rowland Nevett, y ficer Piwritanaidd a gollodd ei le adeg yr Adferiad, i weinidogaethu i'r Anghydffurfwyr a oedd yn addoli yno. Bu hefyd, gyda Vavasor Powell, yn gofalu am gynulliadau cyffelyb yn Llanfyllin a Llanfechain; oherwydd hyn cyhuddwyd ef yn 1669 o dan y ' Conventicle Act.' Dywed Palmer, Nonconformists' Memorial, 1775, ii, 645, ei fod hefyd yn fugail eglwys yr Independiaid yn Wrecsam o 1668 ymlaen. Bu'n gyfeillgar iawn â Vavasor Powell a phan fu hwnnw farw (1670), ac wedi i'w wraig gyntaf ei hun farw, priododd weddw Powell.
O dan y ' Declaration of Indulgence ' cafodd drwydded (Mai 1672) i bregethu i gynulleidfa'r Independiaid yn Wrecsam a gasglasai ynghyd gyntaf o dan Morgan Llwyd. Pan ddiddymwyd y ' Declaration ' aeth Evans yn dlawd a gorfu iddo werthu rhan helaeth o'i lyfrgell a gweithredu fel athro teulu i blant rhai o foneddigion pwysig y cylch. Bu cefnogaeth y bobl hyn - yn enwedig Lady Eyton (gweddw Syr Kenrick Eyton, Eyton Isaf) - yn foddion i'w gadw rhag cael ei erlid. Yn 1681 gwnaeth William Lloyd, esgob Llanelwy, ymdrech gref i'w gael i gydymffurfio, gan ei herio i ddyfod i ddadleuon cyhoeddus; pan wrthododd cafodd ei ddirwyo a'i anfon o'r cylch. Parhaodd, fodd bynnag, i weinidogaethu i'w gynulleidfa; o 1689 hyd 1691 yr oedd y Presbyteriaid (a fu'n addoli ar wahân o dan y Declarasiwn Caniatâd) yn gyswllt â'r gynulleidfa. Pan ymadawodd y Presbyteriaid yn 1691 a ffurfio y ' New Meeting,' yr oedd cynulliad Evans yn cynnwys Independiaid a Bedyddwyr; yn ôl un adroddiad yr oedd yn tueddu fwy at y Bedyddwyr yn ei flynyddoedd diwethaf. A'i iechyd yn gwanhau a'i gof yn pallu bu raid iddo adael rhan helaeth o'i waith bugeiliol i gynorthwywyr.
Bu farw 19 Gorffennaf 1700 a chladdwyd ef ym mynwent yr Anghydffurfwyr yng Ngwrecsam. O'i ail wraig gadawodd fab, John Evans, ac o'i wraig gyntaf ferch a briododd Timothy Thomas, cyfaill Matthew Henry; daeth mab Timothy Thomas, o'r un enw a'i dad, yn weinidog Independiaid yn Pershore.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.