LLOYD, WILLIAM (1627 - 1717), esgob Llanelwy

Enw: William Lloyd
Dyddiad geni: 1627
Dyddiad marw: 1717
Plentyn: William Lloyd
Rhiant: Richard Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd 18 Awst; mab i glerigwr pur enwog (Richard Lloyd, Sonning), ŵyr i'r bardd Dafydd Llwyd o'r Henblas ac aelod o deulu Cymreig a rifai nifer anghyffredin o esgobion a chlerigwyr yn ei dablau achau. Daeth yn gymrawd o Goleg Iesu, Rhydychen, M.A. yn 1646, D.D. yn 1667. Yn ystod y Weriniaeth, go anodd oedd ei yrfa, a rhoddodd olwyn ffawd aml i dro go ryfedd; wedi'r Adferiad cododd o ris i ris, un o brebendariad S. Paul's, caplan i'r dywysoges Mary, a phregethu pregeth, yn llawn o syniadau gwrth-Babyddol, yn angladd Syr Edmund Berry Godfrey yn 1678. Nid oedd Brotestant mwy nag ef yn y wlad, nac Eglwyswr mwy digymrodedd, fel y profodd pan ddaeth yn archddiacon Meirionnydd yn 1668, deon Bangor yn 1672, ac yn enwedig pan benodwyd ef yn esgob Llanelwy yn 1680. Cafodd gynadleddau, mae'n wir, gyda phrif Anghydffurfwyr yr esgobaeth (1680-2), gyda John Evans yr Annibynwr, Thomas Lloyd y Crynwr, a Philip Henry a James Owen, Presbyteriad, ond dengys ei lythyrau at yr archesgob Sancroft ei fod yn dal yn stond at ei ddaliadau eglwysig digamsyniol; a dengys ei lythrau at yr arglwydd ganghellor Jeffreys fel y cythruddid ef yn arw gan ystyfnigrwydd rhai o'r sectariaid, arafwch ysgafala siryddion sir Ddinbych, awdurdod wan ysbeidiol y Sesiwn Fawr, a'r gwritiau 'supersedeas' a ddeuai allan o lys y siawnsri. Nid oes ddadl nad oedd yn esgob manwl a llym; yn 1680 archodd i'r clerigwyr gadw 'notitia' am bopeth pwysig ynghylch eu plwyfi, a daliwyd ymlaen gyda'r gwaith hyd 1686; credai mewn pregethu cryf effeithiol, ac aeth yn bur bell i sicrhau hynny; ac er nad oes sicrwydd ei fod ef ei hun yn medru siarad Cymraeg, mynnodd weled Cymry da yn gwasanaethu plwyfi Cymreig, a dywedodd eiriau chwyrn iawn wrth Saeson uniaith fel Thomas Clopton, rheithor Castell Caereinion. Nid oedd yn syn bod Protestant mor eiddgar ag ef, ac Eglwyswr mor selog, yn un o'r Saith Esgob yn 1688; yn wir, o law yr esgob Lloyd y derbyniodd y brenin gopi o'r petisiwn enwog. Yr oedd ef gyda'r blaenaf yn fforddoli chwyldro 1688-9; yn 1692 codwyd ef i Lichfield, ac yn 1700 i Worcester. Bu farw 30 Awst 1717, ei flynyddoedd olaf yn flin a phiwus oherwydd gormod ymwneud â phroblemau lleol, a chred rhy lythrennol ym mhroffwydoliaeth Daniel ac yn adnodau dyrys llyfr y Datguddiad. Dyn dysgedig, heb ddim amheuaeth, a dadleuwr miniog barod; yr oedd yn awdur cyfres o bamffledau sylweddol yn erbyn Pabyddiaeth, a gwaith mwy uchelgeisiol, Historical Account of Church Government, a gyhoeddwyd yn 1684. Weithiau troai ei feddwl at faterion tu allan i gylch yr Eglwys, fel y gwelir oddi wrth y llythyr hir dysgedig a ysgrifennodd at Thomas Price o Lanfyllin ynghylch Historia Sieffre o Fynwy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.