Ganwyd 24 Awst 1631 o dras Cymreig; ganwyd ei dad yn Llansawyl ym Morgannwg, mudodd i Lundain, a daeth yn warchodwr gerddi'r brenin yn Whitehall; yno daeth Philip ieuanc i gyswllt â dau fab Siarl I ac â'r archesgob Laud. Ei dad bedydd oedd Philip, 4ydd iarll Penfro; yn 1643 daeth yn un o ddisgyblion Busby yn Westminster; yn 1647 cyrhaeddodd Rydychen, Coleg Christ Church, gydag ysgoloriaeth. Digamsyniol Anglicanaidd oedd awyrgylch bore oes Philip Henry; er hynny, argyhoeddwyd ef o ffordd y Presbyteriaid o drefnu pethau, yn niffyg trefn esgobol ystwyth a rhyddfrydig. Ar ôl graddio yn B.A. (1651), M.A. (1652), daeth yn athro ar blant y barnwr Puleston yn Emral, Maelor Saesneg, ac yn bregethwr yng nghapel eglwysig Worthenbury, ym mhlwyf Bangor Iscoed; tueddwyd ef i ymuno â henaduriaeth Sir Amwythig oedd agosaf ato (Bradford North), ac ym Medi 1657 ordeiniwyd ef yn y dull Presbyteraidd. Yn anffodus, nid oedd y dyddiau anodd hynny'n ffafriol iawn i ddatblygiad llawn y system Bresbyteraidd o weithio, ac ni welai wrthwynebiad o gwbl i ddilyn esiampl Baxter ac eraill drwy gydweithio yn wirfoddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ag Annibynwyr, a hyd yn oed â phobl Eglwysig eu hosgo. Pan ddaeth adfer y brenin yn 1660 daeth hefyd law farw ar bob trefniadau Presbyteraidd ac ar gweithgarwch gwirfoddol; cyn diwedd y flwyddyn 1661 yr oedd Henry wedi ei droi allan o gapel Worthenbury oherwydd Deddf 1660, y 12 Charles II c. 17 (nid o dan Ddeddf Unffurfiaeth 1662). Fel pregethwr Piwritanaidd a ddistawyd gan y gyfraith, cafodd Philip Henry ei ran o brofedigaethau Anghydffurfwyr dyddiau'r cosbi; y mae ei ddyddiaduron yn llawn o'r ystrywiau, rhai cymharol ddiniwed a rhai'n dibynnu ar ganfod tyllau yn y cyfreithiau, i geisio myned y ffordd arall heibio i'r ' Clarendon Code.' Daliodd yr amser caled yn ei lawn nerth hyd 1687, ar wahân i ryddid byr 1672-5. Fel Presbyteriad egwyddorol nid oedd i Henry fawr gydymdeimlad â declarasiynau o ryddid ac amodau goddefiad; yn 1672 ni ofynnodd am drwydded i bregethu o gwbl, ond derbyniodd un i bregethu yn ei dŷ ei hun yn Broad Oak pan sicrhawyd hi iddo gan un o'i gyfeillion; am Ddeclarasiwn 1687 ei farn oedd mai bwriad Duw oedd gwneud daioni drwyddo. Pan ddaeth y Goddefiad yn 1689, go anniddig oedd Henry am fod yn ofynnol iddo deithio yn bur bell am drwydded. Daeth ei fywyd trafferthus i ben ar 24 Mehefin 1696. Gedy'r Diaries yr argraff ei fod yn ŵr rhy ryw glyfar a chywrain ar faterion cydwybod, ond nid oes ddadl am safonau uchel ei fywyd - manwl a duwiolfrydig.
Daeth ei ail fab a aned yn Broad Oak, 18 Hydref 1662, yn enwocach yng Nghymru nag ef, oherwydd ei esboniadau ar y ddau Destament a gyhoeddwyd 1708-10, yn bum cyfrol, gan ddwyn y gwaith i lawr i ddiwedd yr efengylau; yr oedd wedi cwpláu yr Actau cyn ei farw, yn barod i'r chweched gyfrol (bu diwinyddion eraill yn gyfrifol am esbonio'r epistolau a'r Datguddiad). Cyhoeddwyd crynodeb Cymraeg o'r gwaith yng Nghaerfyrddin, 1728, a chyfieithiad llawnach mewn pedair cyfrol yn Abertawe, 1828-35. Am weithiau llai a ysgrifennwyd ganddo, cyfieithwyd amryw yn Gymraeg, rhai gan James Davies ('Iaco ap Dewi'). Yn y Salesbury Library, Coleg Caerdydd, ceir casgliad cyfoethog o wahanol argraffiadau ei lyfrau. Bu'n fyfyriwr mewn academïau Anghydffurfiol, ac yn aelod o Gray's Inn yn 1685. Yng Nghaerlleon, a henaduriaeth y sir honno, y cyflawnodd ei waith mawr fel awdur a phregethwr. Symudodd i Hackney yn 1712, a bu farw ar ymweliad â Nantwich, 22 Mehefin 1714.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.