HERBERT (TEULU), ieirll Pembroke (o'r ail greadigaeth)

WILLIAM HERBERT iarll Pembroke 1af (o'r ail greadigaeth) (c. 1501 - 1570)

Mab hynaf Syr Richard Herbert ('ddu') o Ewyas, mab anghyfreithlon William Herbert (bu farw 1469), iarll Pembroke o'r greadigaeth gyntaf, ei fam yn ferch Syr Matthew Cradock, Abertawe, ' Receiver of Glamorgan.' Wedi llencyndod a oedd braidd yn wyllt ac ym mha un y bu'n ymladd yn Ffrainc ac ennill ffafr brenin y wlad honno, aeth i wasanaethu Syr Charles Somerset, yr iarll Worcester 1af wedi hynny, y gŵr y trosglwyddasid iddo y rhan fwyaf o diroedd iarllaeth Pembroke pan briododd ferch yr iarll 1af; trwy ddylanwad ei noddwr cafodd swydd yn llys Henry VIII, a'i ddyrchafu'n gyflymach wedi i Henry briodi Catherine Parr, chwaer-yng-nghyfraith Herbert (1543) - cafodd ei wneuthur yn farchog a daeth yn fuan i feddiannu tiroedd a swyddi yn Ne Cymru, yn eu plith arglwyddiaethau Usk, Trelech, a Caerleon (a fuasai gynt yn rhan o iarllaeth March ac yn un o roddion Harri VIII i Anne Boleyn); rhoddwyd iddo hefyd diroedd mynachty Wilton, Wiltshire. Bu'n ymladd yn y cyrch o gwmpas Boulogne yn 1544, a chael yr hawl i gadw 30 o weision lifrai. Yr oedd yn ysgutor ewyllys Harri VIII, ac felly daeth yn llywodraethwr ar y brenin ieuanc Edward VI, yn ' chief gentleman of his privy chamber,' yn un o 12 aelod ei Gyfrin Gyngor (Ionawr 1547), ' Master of the King's Horse ' (1548-52), ac yn farchog o Urdd y Gardys (Rhagfyr 1548).

Cododd 2,000 o Gymry i wrthsefyll y gwrthryfel yn y gorllewin, eithr gwrthododd eu defnyddio i gynorthwyo dug Somerset, pan oedd hwnnw'n ' Protector,' yn erbyn ei gydymgeisydd Warwick (Northumberland yn ddiweddarach), gŵr yr oedd iddo ddiddordeb arbennig yn y ffin rhwng Lloegr a Chymru ac elfen Gymreig gref yn gwasanaethu arno yn ei gartref (un o'r Herbertiaid yn eu plith) (L. & P. Henry VIII, xv, 355, etc., Addenda, 415). Cymerodd ran ym mhrawf Somerset (Rhagfyr 1551), gan gael yn dâl stadau hwnnw yn Wiltshire. Ar 8 Ebrill 1550 fe'i gwnaethpwyd yn llywydd y Cyngor yn Llwydlo, ac, ym mis Hydref 1551, yn farwn Herbert Caerdydd, ac yn iarll Pembroke. Cefnogodd gynllwyn Northumberland (Gorffennaf 1553) i goroni Lady Jane Grey (efallai mai efe a gychwynnodd y cynllwyn) - eithr tynnodd yn ôl mewn pryd, a bu'n helpu cyhoeddi Mari yn frenhines, a thrwy hynny enillodd ei hymddiriedaeth yn llwyr a chadwodd ei ddylanwad, eithr ymddiswyddodd o lywyddiaeth y Cyngor yn Llwydlo. Yr oedd o blaid y briodas gyda Philip II, brenin Sbaen, efe oedd arweinydd y llu a ddarostyngodd wrthryfel Wyatt (1554), aeth ar negesau llysgenhadol i Ffrainc a'r Iseldiroedd, fe'i gwnaethpwyd yn llywodraethwr Calais (22 Tachwedd 1556), a bu'n llwyddiannus fel pennaeth ymgyrch y Prydeinwyr i Ffrainc (1557). Yn ystod ei ail dymor fel llywydd yn Llwydlo, 1555-8, gweithredai trwy ddirprwy; yn Awst 1588 ymddiswyddodd gan ei fod yn teimlo bod annhrefn yn cynyddu o ddiffyg rheolwr cryf yn cartrefu yno. Parhaodd mewn ffafr pan ddaeth Elisabeth i'r orsedd; gwnaeth hi ef yn ' Custos Rotulorum ' Morgannwg (1567) ac yn ' Lord Steward of the Household ' (1568).

Ychwanegodd at ei stadau trwy brynu tiroedd mynachty Llantarnam (rhoes rai o'r rhain ar brydles i William Morgan, sylfaenydd Morganiaid Llantarnam); prynodd arglwyddiaeth Castellnedd hefyd (1561). Eithr collodd ffafr y frenhines pan gefnogodd y briodas a awgrymid rhwng dug Norfolk a Mari o Sgotland (1569).

Bu farw 17 Mawrth 1570 a chladdwyd ef yn S. Pauls. Er nad ydoedd yn anllythrennog, fel y dywedid weithiau, ni allai ysgrifennu'n rhwydd, ni wyddai ddim o ieithoedd Ewrop, ac yr oedd yn fwy cartrefol yn y Gymraeg nag yn Saesneg. O ran ei wleidyddiaeth a'i grefydd yr oedd yn ŵr a achubai ei gyfle, eithr ceir tystiolaeth i'w gariad at Gymru yng nghyflwyniad Gramadeg Gruffydd Robert iddo ac yn ei nawdd i Syr John Price, arloesydd argraffu llyfrau Cymraeg a hanesydd, ac ysgrifenwyr Cymreig eraill (Athenae Oxonienses, i, 216, 418).

HENRY HERBERT, ail iarll Pembroke (c. 1534 - 1601)

Mab hynaf yr iarll Pembroke 1af. Cafodd ei addysg yn Peterhouse, Caergrawnt. Cydolygai â chynlluniau ei dad ynglŷn â Lady Jane Grey a phriododd Catherine ei chwaer hi (25 Mai 1553), eithr ysgarodd â hi (1554) pan fethodd y cynllwyn; cafodd ei wneud yn farchog (1553) ac yn aelod o lu teulu Philip, a bu'n gwasnaethu gyda'i dad yn Ffrainc (1557). Ar ôl dilyn ei dad yn yr iarllaeth daeth hefyd i etifeddu stadau brawd ei fam, William Parr, ardalydd Northampton (1571), a gwnaeth hyn ef yn un o'r arglwyddi cyfoethocaf yn y deyrnas; cafodd hefyd rai o swyddi ei dad yng Nghymru (Ebrill-Mai 1570), fe'i gwnaethpwyd yn ustus heddwch yn siroedd Morgannwg a Mynwy (1576), ac yn Farchog Urdd y Gardys ar 2 Ebrill 1574; yn y flwyddyn honno dechreuodd adnewyddu castell Caerdydd, lle yr oedd lletygarwch a chroeso ar raddfa helaeth a chostus. Cymerodd ran ym mhrawfion Norfolk (1572), Mari frenhines Sgotland (1586), ac Arundel (1589). Ym mis Mawrth 1586 dilynodd Syr Henry Sidney fel llywydd y Cyngor yn Llwydlo - a daeth hefyd yn is-lyngesydd De Cymru; Mary, merch Sidney, oedd ei drydedd wraig. Cynhaliai ei lys yn gyson, gan wella llawer o gamarferion, a cheisio cael gan fonedd Cymru gydnabod bod iddynt ddyletswyddau a rhwymedigaethau yn eu bywyd cyhoeddus; dechreuodd ymgyrch gref yn erbyn Pabyddion, a dadleuai'n gryf a blaid gosod amddiffynfeydd yn Hafan Deugleddau rhag goresgyniad gan wŷr Sbaen (1595). Eithr dechreuodd ei iechyd wanhau yn 1590 a gwaethygu'n fawr o 1595 ymlaen, ac oblegid ei fod yn absennol o'r Cyngor yn aml dechreuwyd cynllwynio yn erbyn ei awdurdod, daeth camarferion yn ôl, ac ymlusgodd llacrwydd i mewn i lywodraeth leol. Bu farw 19 Ionawr 1601 a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Salisbury. Yr oedd yn noddwr i anturiaethau diwydiannol, i'r ddrama, ac i lenyddiaeth Lloegr a Chymru; oblegid ei wybodaeth drylwyr o fywyd Cymru a'i gariad at ei hiaith galwodd Thomas Williems, Trefriw, ef yn 'llygad holl Gymru.'

WILLIAM HERBERT, 3ydd iarll Pembroke (1580 - 1630)

Cafodd ei addysg yn New College, Rhydychen, lle yr ymaelododd ar 8 Mawrth 1593. Dymunai Cecil iddo ddilyn ei dad yn Llwydlo eithr methodd â threchu rhagfarn Elisabeth yn erbyn llacrwydd ei fywyd moesol. Pan ddaeth Iago I i'r orsedd, fodd bynnag, yr oedd pethau'n wahanol; bu'r brenin yn ymweld ag ef yn Wilton yn gynnar ar ôl ei esgyniad a dwywaith yn ddiweddarach, gwnaeth ef yn ' custos rotulorum ' Morgannwg (Gorffennaf 1603), yn stiward a chwnstabl amryw arglwyddiaethau a chestyll yn sir Faesyfed (1616), ac yn aelod o'r Cyngor yn Llwydlo erbyn 1617 (Cal. Wynn Papers, 809). Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 1611 (29 Medi) ac yn Arglwydd Siambrlen yn 1615 (28 Rhagfyr). Yr oedd yn byw y rhan fwyaf o'i amser yn Llundain ac yn Wilton, gan ddefnyddio ei gyfoeth mawr i noddi Shakespeare a'r rhai a oedd mewn cysylltiad ag ef - ysgrifennai beth barddoniaeth ei hunan - ac i gynorthwyo anturiaethau diwydiannol a rhai yn y trefedigaethau. Eithr nid esgeulusodd ei stadau yn Ne Cymru fel y dangosir gan ei 'water-works' yn Nhrelech a'r modd yr hoffai ymgydnabyddu ag arweinwyr cymdeithasol Cymru (Cal. Wynn Papers, 598, Clarendon, Hist, i, 174, Hist. MSS. Comm., Cecil, xvi, 190-1); trwy hyn oll daeth i feddu dylanwad cryf mewn etholiadau, yn enwedig yn siroedd a bwrdeisdrefi Mynwy, Morgannwg, Maesyfed, a Trefaldwyn, a daeth i gael twr o bleidwyr o Gymru yn Westminster i'w bolisi Protestannaidd a seneddol, ac yn erbyn Buckingham, gyda Syr William Herbert (y barwn Powis 1af yn ddiweddarach) yn mynegi ei farn drosto yn Nhŷ'r Cyffredin. Rhoes Siarl I ef ar y ' Committee on Foreign Affairs ' (9 Ebrill 1625) a'r ' Council of War ' (3 Mai 1626) a gwnaeth ef yn is-lyngesydd De Cymru (1625) ac yn arglwydd-stiward (3 Awst 1626); eithr fel rheol ni dderbyniai'r brenin mo'i gynghorion fel gwladweinydd ac nid oedd gan Herbert ddigon o nerth ewyllys i'w rhoddi mewn gweithrediad. Oblegid ei natur hynaws fe'i cyfrifid ' the most universally belov'd and esteem'd of any man of that age ' (Clarendon); geilw Rhys Prichard ef yn ' golofn y deyrnas.' Bu farw o ergyd y parlys ar 10 Ebrill 1630, ' after a full and chearful supper.'

PHILIP HERBERT, 4ydd iarll Pembroke (1584 - 1650)

Brawd iau'r 3ydd iarll. Cafodd ei addysg gyda'i frawd yn New College, Rhydychen, a chyfranogai o'i chwaeth lenyddol - noder gyflwyniad argraffiad cyntaf gwaith Shakespeare ('the first folio'), 1623, i'r ddeufrawd; cyfranogai hefyd yn niddordebau ei frawd mewn anturiaethau diwydiannol a threfedigaethol, gan gynnwys y diwydiant gwydr (yn Hafan Deugleddau a gogledd Lloegr) a'r monopoli oedd ynghyswllt ag ef - daeth yn bartner yn y gwaith hwn yn 1615 eithr gwerthodd ei gyfran yn fuan wedi hynny i Syr Robert Mansel. Oblegid ei serch arbennig tuag at helwriaeth, pasiantri, ac adeiladu (gwnaeth lawer o adeiladu yn Wilton), ynghyd â harddwch ei gorff, enillodd ffafr Iago I a pharhaodd yn ffefryn 'in the Second place' (ys dywed Clarendon) pan ddaeth Carr yn fwy o ffefryn gan y brenin. Cafodd ei dderbyn i'r Cyfrin Gyngor yn gynnar (Mai 1603) ac yn aelod o'r ' Order of the Bath ' (28 Gorffennaf), rhoddwyd tiroedd eang iddo (arglwyddiaeth Dinbych yn eu mysg) yn 1604 (Cecil, xvi, 439), a'r flwyddyn ddilynol fe'i gwnaethpwyd yn iarll Montgomery (4 Mai) a rhoddwyd iddo gastell Trefaldwyn, a hawlid, am iddo fod yn cael ei ddal am ganrif yn y teulu, gan Edward Herbert, arglwydd Herbert (Cherbury) wedi hynny; ceisiasai Philip cyn hyn, eithr yn ofer, ennill serch merch Syr William Herbert, St. Julians (bu farw 1593), cyn iddi ddyfod yn wraig i Edward Herbert - a bu'r anghydwelediad hwn heb ei derfynu hyd nes y prynodd yr arglwydd Herbert y castell yn ei ôl yn 1617. Ar 16 Mehefin 1605 dewiswyd Philip Herbert yn ganghellor a siamberlen Môn, Caernarfon, a Meirionnydd, ac erbyn 1617 yr oedd yn aelod o Gyngor y Goror. Hyd ei ddychafu'n farwn bu'n eistedd dros sir Forgannwg yn Senedd gyntaf Iago I. Parhaodd mewn ffafr o dan Siarl I; bu 'r brenin hwnnw yn ymweled ag ef yn flynyddol yn Wilton, rhoes iddo swyddi ei frawd (arglwydd-siamberlen, 3 Awst 1626, ac islyngesydd De Cymru, 23 Ebrill 1631) a dychwelodd iddo y stiwardiaethau teuluol ym Maesyfed a roddasid dros dymor i'r arglwydd Powis 1af (Calendar of State Papers, Domestic Series, 1629-31, 530, 1631-3, 94); rhoes hefyd iddo addurn Urdd y Gardys (23 Ebrill 1638). Eithr oblegid ei ymwneud â'r Sgotiaid yn y ' Bishops Wars ' (yr oedd gyda'r brenin yn y rhai hyn) a'i ymarweddiad yn y Senedd Faith, collodd ei swydd fel siamberlen (17 Ebrill 1641); o hyn ymlaen fe'i ceir yn ymbleidio mwy gyda pharti'r wrthblaid - yn fwy felly nag y golygai fod - a methodd, er ymdrechu'n galed fwy nag unwaith, setlo pethau trwy gytundebu yn ystod y rhyfel, a diweddodd trwy fod yn aelod o'r ' Council of State ' (14 Chwefror 1649). Yn rhinwedd ei swydd fel canghellor Prifysgol Rhydychen (4 Awst 1647) efe a lywyddai pan oeddid yn troi allan y Piwritaniaid yno ('the Puritan purge') eithr cyfryngodd i adael Philip Henry yn llonydd yn Christ Church. Fe'i dewiswyd gan y Senedd yn arglwydd raglaw siroedd Mynwy, Morgannwg, Brycheiniog (29 Gorffennaf 1642), a Cheredigion (4 Rhagfyr 1646) eithr nid oedd ei ynni yn y lleoedd hyn gymaint ag ydoedd pan oedd yn dal yr un swydd yng Nghaint (1642), lle hefyd yr oedd ganddo diroedd. Mewn gwirionedd, serch ei alw 'the Welsh lord' pan oedd yn ieuanc a dannod iddo fod arno eisiau cyfieithydd (Cecil, xvi, 439) ac er iddo ddewis George Herbert a Griffith Williams (esgob Ossory wedi hynny) yn gaplanau iddo'i hun ac Evan Lloyd Jeffrey o Palé yn was teulu (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1948, 405), yr oedd ei gysylltiadau uniongyrchol â Chymru yn llai nag eiddo ei ragflaenwyr. Profodd y Rhyfel Cartrefol na allai dylanwad teulu'r Herbertiaid gystadlu mwyach ag eiddo Catholigiaid a Brenhinwyr Raglan. Bu farw 23 Ionawr 1650. Bu ei fab iau WILLIAM HERBERT yn eistedd dros sir Fynwy yn y Senedd Faith ac yn ymladd ym mhlaid y brenin.

Wedi ei farw ef daeth y cysylltiad â Chymru yn eiddilach fyth. Bu ei fab

PHILIP HERBERT, 5ed iarll Pembroke (1619 - 1669)

yn eistedd (fel arglwydd Herbert) dros sir Forgannwg yn y Senedd Faith, gan ddilyn ei dad mewn materion gwleidyddol a chael ei ddewis gan y Senedd yn arglwydd raglaw Mynwy, Morgannwg, a Brycheiniog - eithr cymerwyd ei le yn y sir honno yn gynnar iawn gan ei dad; daeth hefyd yn llywydd ' Council of State ' y Werinlywodraeth yn 1652. Wedi'r Adferiad daeth yn ' custos rotulorum ' ym Morgannwg a Penfro, yn aelod o'r ' Committee for Trade and Navigation,' ac, yn rhinwedd ei swydd fel ' Ymwelydd Etifeddol ' Coleg Iesu, Rhydychen, galwyd arno (eithr gwrthododd) i ddatgan dedfryd ar gwestiwn cymrodoriaeth Dr. Michael Roberts - mater yr oedd anghyd-ddealltwriaeth yn ei gylch; gweler Cal. Wynn Papers, 2660, lle y mae'r cyfeiriad, ar gam, at y 7fed iarll. Yr oedd ei aer yn aelod seneddol dros sir Forgannwg o 1661 hyd 1669 a bu ei ddilynwyr yn parhau i ddal swyddi'r Goron yn Ne Cymru hyd 1733, eithr yn Wiltshire yr oedd eu gwir ddiddordebau a dechreuasant gael gwared o'u tiroedd yn Ne Cymru yn gynnar ar ôl yr Adferiad. Daeth yr hyn a adawsant yn weddill yn eiddo Thomas, yr is-iarll Windsor 1af (ail fab iarll 1af Plymouth), ar ei briodas (1703) â Charlotte, merch PHILIP HERBERT, 7fed iarll Pembroke (meddwyn ag ynddo dueddiadau dynleiddiad) a gweddw John, ail farwn Jeffreys. Gwerthodd Windsor arglwyddiaethau Caerleon, Usk, a Trelech (1722); trosglwyddwyd y tiroedd ym Morgannwg (1766) trwy ei ŵyres Charlotte Jane i'w gŵr John Stuart (aer iarll Bute, prif-weinidog Siôr III); gwnaethpwyd John Stuart yn farwn Cardiff (castell Caerdydd) Mai 1776, etifeddodd yr iarllaeth yn 1792 gan ddyfod yn iarll Windsor ac ardalydd Bute yn 1796 - a dyna sydd yn cyfrif am oruchafiaeth ei olynwyr, ardalyddion Bute, yn wladwriaethol, yn wleidyddol, ac yn ddiwydiannol, yn y cylch hwn (gweler Bute, Ardalyddion). Eithr y rhai a etifeddodd yr oruchafiaeth ym Morgannwg ar y cyntaf (sef dylanwad yr Herbertiaid) ydoedd ieirll Plymouth, cangen hŷn teulu Windsor; yr oedd y 4ydd iarll yn arglwydd-raglaw yn 1754 ac fe'i dilynwyd yn y swydd hon gan y 5ed iarll a oedd hefyd yn gyrnol y milisia lleol ac yn is-lywydd y ' Welsh Charity.' Pan adfywiwyd yr iarllaeth yn 1905 - wedi 62 mlynedd o fod heb ei rhoi mewn grym - ym mherson Robert George, 14eg barwn Windsor, daeth ef yn Viscount Windsor o S. Fagans ac yn arglwydd raglaw.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.