Ychydig a wyddys am ei flynyddoedd cynnar. Mab ydoedd i Rys ap Gwilym ap Llywelyn ap Rhys Llwyd ab Adam, o Frycheiniog, a Gwenllian, ei wraig, merch Hywel Madog. Yr oedd felly o'r un gwehelyth â'r bardd Hywel ap Dafydd ap Ieuan ap Rhys [Llwyd], ac yng nghanol prysurdeb ei fywyd cymharol fyr, cadwodd yntau'n agos at y traddodiad barddol Cymreig. Y mae'n bur sicr mai ef oedd y John Pryse a gafodd radd B.C.L. yn Rhydychen, 29 Chwefror 1523/4, a'r Apprise a dderbyniwyd i'r Middle Temple, 5 Tachwedd 1523. Erbyn tua 1530 yr oedd yn un o swyddwyr Thomas Cromwell, a thrwy hynny daeth i sylw Harri VIII. Cafodd wasnaethu yng ngwledd briodas y brenin ac Anne Boleyn. Fel notari a phrif gofrestrydd y brenin mewn achosion eglwysig, cawn ef yn ystod y blynyddoedd nesaf yn prysur ysgrifennu ac ardystio dogfennau ynglŷn â diddymu awdurdod y Pab (e.e. ef a gofnododd y llw a gymerodd Thomas Cromwell, fel canghellor Prifysgol Caergrawnt, i gydnabod y brenin yn bennaeth yr Eglwys, 23 Hydref 1535), adroddiadau dirprwywyr ac ymwelwyr y mynachlogydd, yntau'n un ohonynt, a threfniadau'r diddymu, cyffesiadau a thystiolaethau yr esgob John Fisher, Syr Thomas More, ac arweinwyr gwrthryfel yn nwyrain a gogledd Lloegr, gweithrediadau ysgar y frenhines Ann, a phriodas y frenhines Jane. Er mor fawreddog ei theitl, ni ddygai ei swydd fawr elw iddo, ond yr oedd mewn safle i sicrhau rhoddion oddi ar law'r brenin. Penodwyd ef yn gofrestrydd eglwys gadeiriol Salisbury yn 1534. Cafodd brydles ar reithoraeth Llanfihangel Ioreth yn 1536-7, priordy Aberhonddu, 1537-8, a phrynodd hefyd briordy S. Guthlac yn Henffordd, a gwnaeth ei gartref yno. Gwnaethpwyd ef yn ysgrifennydd materion y Goron yng Nghymru a'r gororau yn 1540, a daliodd y swydd hyd ei farw. Cododd anhawster ynglŷn â'r swydd a phenderfynodd y Cyngor Cyfrin mai ef oedd i fod yn ysgrifennydd y cyngor yng Nghymru a'r gororau. Fe'i gosodwyd ar gomisiynau heddwch sir Fynwy a holl siroedd y goror, ar gomisiynau siantrïau Gogledd a De Cymru, 1546, ac ar gomisiynau llestri ac eiddo eglwysig yn Henffordd, 1552-3. Bu'n siryf Brycheiniog, 1543, a Henffordd, 1554, yn aelod seneddol dros ddinas Henffordd, 1553, a Llwydlo, 1554. Urddwyd ef yn farchog ar ddydd Mawrth Ynyd, 1546/7, yn fuan wedi coroni Edward VI. Gwnaethpwyd ef yn aelod o gyngor y gororau, 1551. Bu farw yn Hereford 15 Hydref 1555. Tybir iddo briodi ddwywaith, gan ei fod yn ei ewyllys yn enwi merch, Elisabeth, a oedd yn briod yn 1555. Cofnodir ei briodas â Johan, merch John Williamson a'i wraig Johan, chwaer Elizabeth, gwraig Thomas Cromwell. Yn nhŷ Cromwell yn Islington, 11 Hydref 1534, y bu'r briodas, ef yn 32 a hithau'n 18 oed. Ganwyd iddynt 11 o blant. Enwyd yr etifedd, GREGORY (ganwyd 6 Awst 1535), ar ôl mab Thomas Cromwell. (Bu ef yn aelod seneddol dros sir Henffordd, 1557-8, a thros y ddinas, 1572, 1584-97, ac yn siryf yno deirgwaith, 1567, 1576, 1596, ac ym Mrycheiniog ddwywaith, 1588, 1595.) Ail ŵr Johan, un o'r merched (ganwyd 14 Tachwedd 1542), oedd Thomas Jones ('Twm Sion Cati').
Ymddiddorai Syr John Price yn hen hanes a llenyddiaeth Cymru; ef oedd un o'r rhai cyntaf i gasglu llawysgrifau Cymraeg a Chymreig; gadawodd ei lyfrau Cymraeg i Thomas Vaughan o Sir Forgannwg, ei lawysgrifau diwinyddiaeth i eglwys gadeiriol Henffordd, a'i lawysgrifau hanes a dyneiddiaeth i'w fab RICHARD. Ceir llawysgrifau a fu'n eiddo iddo yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn yr Amgueddfa Brydeinig, a llyfrgelloedd eraill; ac yn llyfrgell Coleg Balliol y mae llawysgrif o waith y beirdd, gramadeg cerdd dafod, diarhebion, a mângofion yn ei law. Ceir ynddi gywyddau ac awdlau moliant iddo gan Lewis Morgannwg, Thomas Fychan, a Gruffudd Hiraethog. Yn ôl yr esgob Richard Davies, ef a osododd y Pader a'r Credo a'r Deg Gorchymyn mewn print, h.y. ef oedd yn gyfrifol am gyhoeddi Yn y Lhyvyr hwnn , 1546/7. Cymerodd ran yn y ddadl a gododd oddi ar ymosodiad Polydore Vergil yn ei Anglica Historia, 1534, ar draddodiad Sieffre o Fynwy. Safai ef yn gadarn dros gywirdeb yr hanes am Frutus a tharddiad y Brythoniaid o Droea, ac am Arthur a'i ymerodraeth. Erys drafft cynnar (cyn 1545) o'i amddiffyniad yn B.M. Titus MS. F. iii, ond yr oedd wedi ysgrifennu ateb llawnach cyn marw Edward VI, a siarsodd ei fab Richard i gyhoeddi hwnnw, yr hyn a wnaeth yn 1573 o dan y teitl Historiae Britannicae Defensio. Ysgrifennodd hefyd yn Lladin ddisgrifiad o Gymru a gyfieithwyd gan Humphrey Llwyd ac a gynhwyswyd gan Dafydd Powel yn Historie of Cambria , 1584 Priodolir iddo hefyd draethawd ar adfer arian bath a ysgrifennwyd yn 1553.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.