GRUFFUDD HIRAETHOG (bu farw 1564), bardd ac achyddwr

Enw: Gruffudd Hiraethog
Dyddiad marw: 1564
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac achyddwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

Canodd gywyddau i uchelwyr Dinbych, Môn, Arfon, a Meirionnydd. Dywedir ei fod yn ddisgybl cerdd dafod i Dudur Aled. Cafodd drwydded i glera yn y flwyddyn 1545-6 o dan law James Vaughan, Hugh Lewis, a Lewys Morgannwg. Y mae'r drwydded ei hun ar gael heddiw (Reports, i, 1021). Yr oedd yn enwog fel athro beirdd, a disgyblion iddo ef oedd rhai o feirdd amlycaf hanner olaf yr 16eg ganrif, fel Simwnt Fychan, Wiliam Llŷn, Wiliam Cynwal, Siôn Tudur, a Raff ap Robert, ac etifeddodd rhai o'r gwŷr hyn ei lyfrau pan fu farw. Yn Gruffudd Hiraethog yn anad neb y gwelir amlycaf ddiddordeb mawr beirdd y cyfnod hwnnw mewn achyddiaeth, ac erys amryw o gasgliadau mawr o achau a wnaed ganddo, fel Peniarth MS 132 , Peniarth MS 133 , Peniarth MS 134 , Peniarth MS 135 , Peniarth MS 136 , Peniarth MS 139i , Peniarth MS 139ii , Peniarth MS 139iii , Peniarth MS 176 . Dengys y rhain ei fod yn gwybod achau teuluoedd Cymru benbaladr. Ond arbenigrwydd pennaf Gruffudd Hiraethog yw mai arno ef o'r holl feirdd traddodiadol y gwelir amlycaf ddylanwad y Dadeni Dysg. Yr oedd ganddo flas at bethau heblaw hel achau a chanu mawl yn y dull traddodiadol. Ysgrifennodd eiriadur Cymraeg, gyda dyfyniadau o weithiau'r beirdd i egluro'r ystyron (Peniarth MS 230 ). Casglodd ddiarhebion (Llanstephan MS 52 ). Yn ei ragair i'r casgliad y mae'n moliannu'r iaith Gymraeg ac yn lladd ar y sawl sy'n ei bwrw heibio ac na fynnant ei choledd. Dyna'r un sêl yn union dros yr iaith a'i diwylliant ag a welir gan y Dyneiddwyr. Copïwyd y casgliad diarhebion gan William Salesbury, a'i argraffu a'i gyhoeddi dan y teitl Oll Synnwyr Pen Kembro y gyd (ymddangosodd y llyfr yn 1546 neu 1547; nid oes sicrwydd). Yn 1552 cyfieithodd Salesbury lyfr ar retoreg i'r Gymraeg, a'i gyflwyno gyda llythyr annerch i Gruffudd Hiraethog. Yn y llythyr dywedir fod Gruffudd 'mor hiraethog am gywair yr iaith ag ydd wyt … yn cymryd gormodd baich ar dy ysgwydd unigawl, nid amgen na'th fod yn ceisio ymhel o yma ac o acw am bob hen gwrach o lyfr brycheulyd i'w ddarllen ac i chwilio drosto, er cael peth cymorth tuag at gynnal yr iaith sydd yn cychwyn ar dramgwydd.' Hefyd geilw Salesbury ef 'fy mhrif gydymaith yn y cyfryw bethau hyn.' Yn ei ragair i Oll Synnwyr Pen y mae Salesbury yn annog y Cymry yn daer i werthfawrogi gwaith Gruffudd Hiraethog am ei fod 'yn achub yr iaith … rhag difancoll tragyfythawl.' Yn ei ymryson â Wiliam Cynwal dywed Edmwnd Prys fod Gruffudd 'yn llawn dysg, yn well na dau,' a'i restru gyda Wiliam Salesbury. Y mae'n amlwg fod y dyneiddwyr yn edrych arno fel un ohonynt hwy eu hunain. Canwyd marwnad iddo gan Wiliam Cynwal, ac un arall enwog ar ffurf ymddiddan rhwng y byw a'r marw gan Wiliam Llŷn, ond awgrymir mewn un man mai marwnad i ddyn byw yw honno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.