Bu farw Siôn Tudur nos y Pasg, 3 Ebrill 1602, a chladdwyd ef yn eglwys plwyf Llanelwy y dydd Llun canlynol, 5 Ebrill. Gan y tystiai yn niwedd ei oes ei fod yr hynaf o'r beirdd, a'i fod yn cwyno wrth Rys Gruffudd o'r Penrhyn, rhywdro cyn 1580, ei fod yn heneiddio, awgrymir ei eni cyn 1530. Yn y Wigfair, Llanelwy, yr oedd ei gartref, ac yr oedd yn ŵr bonheddig tiriog, yn hanu o lin Llywarch Howlbwrch. Bu am gyfnod yn y llys yn Llundain, yn ŵr o'r gard i'r frenhines Elisabeth. Canodd fawl a marwnad a gofyn i dros 60 o deuluoedd Gogledd Cymru, ac yn eu plith canodd i bedair cenhedlaeth o Fotryddan, i bedair o Fostyn, ac i dair o Leweni, a'r cyfan bron yn perthyn i'r cyfnod ar ôl 1566. Byddai'n clera ambell dro, cyn belled ag Abergwili at yr esgob Richard Davies. Urddwyd ef yn ddisgybl Penceirddaidd yn eisteddfod Caerwys, 1568. Y mae llythyr yn ei law ei hun yng nghasgliad Wigfair yn Ll.G.C. (gweler Bulletin of the Board of Celtic Studies, vii, 112-7). Ei wraig oedd Mallt, merch i Byrs Gruffudd o Gaerwys, 'Serjeant at Arms to Henry the Eighth.' Bu iddynt dri o blant, Thomas, Elizabeth, a Margaret.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.