DAVIES, RICHARD (1501? - 1581), esgob a chyfieithydd yr Ysgrythur

Enw: Richard Davies
Dyddiad geni: 1501?
Dyddiad marw: 1581
Priod: Dorothy Davies (née Woodforde)
Rhiant: Sioned wraig Dafydd ap Gronw
Rhiant: Dafydd ap Gronw
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob a chyfieithydd yr Ysgrythur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Glanmor Williams

Mab Dafydd ap Gronw, curad y Gyffin, a Sioned ei wraig, ill dau o waed bonheddig. Ymaelododd yn Neuadd y New Inn yn Rhydychen, a graddio yn M.A. ar 28 Mehefin 1530 ac yn B.D. ar 28 Mehefin 1536. Yn ôl pob tebyg dan ddylanwad Protestaniaeth Rhydychen, fe'i gwnaed ar gymeradwyaeth y brenin yn 1549 yn rheithor Maidsmorton ac yn 1550 yn ficer Burnham - dau le yn sir Buckingham. Priododd Dorothy Woodforde, Burnham.

Pan ddaeth Mari i'r orsedd, galwyd Davies gerbron y Cyngor Cyfrin a chollodd ei fywiolaethau. Aeth ar ffo gyda'i deulu i Frankfort yn 1555, ac yno y bu mewn alltudiaeth hyd 1558.

Yn 1559 yr oedd yn bennaeth y comisiwn brenhinol a ddewiswyd i ymweled â Henffordd, Caerwrangon, ac esgobaethau Cymru. Etholwyd ef yn esgob Llanelwy ar 4 Rhagfyr 1559, a'i gysegru yn Lambeth ar 21 Ionawr 1560, ac oherwydd tlodi'r esgobaeth (£187 11s. 6ch.) cafodd ganiatâd i ddal 'in commendam' ei ddwy fywoliaeth yn sir Buckingham a dwy arall yn Llanelwy. Yn gynnar yn 1560 anfonodd restr o'i offeiriaid i'r archesgob Parker.

Etholwyd ef yn esgob Tyddewi ar 21 Mawrth 1561, yn olynydd i Thomas Young, a chymerth y llw ar 18 Mai, ond nid oes yn ei gofrestr ddim cofnod cyn Medi 1561. Byddai'n bresennol yn gyson yn y Confocasiwn a Thŷ'r Arglwyddi, ond ni wnaeth enw iddo ei hun yno. Pwysodd yr awdurdodau gwladol ac eglwysig yng Nghymru fel ei gilydd ar ei ddoniau gweinyddol. Yr oedd yn aelod o Gyngor y Gororau ac yn aml yn gomisiynydd arbennig iddo, ac i'r Cyngor Cyfrin yn ogystal. Rhoes ei gyngor yn etholiad esgobion Llandaf a Bangor yn 1566. Yr oedd yn llym ei feirniadaeth ar swyddogion uchelgeisiol, ond cyhuddwyd yntau gan Fabian Phillips o anghyfiawnder a phleidgarwch dybryd. Y mae ei gofrestr, ei adroddiadau (1563, 1570, 1577), a'i bregeth angladdol (Funeral Sermon) ar farwolaeth iarll Essex (1577) yn llawn gwybodaeth werthfawr am ei weithgarwch yn ei esgobaeth. Ei anawsterau pennaf yn ei berthynas â'i offeiriaid oedd eu tlodi, eu hamlfywiolaethau, eu hanwybodaeth, a'u ceidwadaeth, a phrinder pregethwyr ac ymgeiswyr. Fe'i poenwyd hefyd gan olion y grefydd Gatholig, mewn credo ac arfer, a chan glaerineb crefyddol a thrachwant y boneddigion. Yn arbennig, bu'n frwydr cherw o 1566 hyd ei farw i brofi ei hawliau ar eglwys Llanddewibrefi. Cyhuddwyd ef gan ei olynydd ac eraill o gyflwyno bywiolaethau a rhannu tiroedd yr esgobaeth yn anystyriol neu ynteu er budd iddo ef ei hun a'i deulu, ond er nad yn gwbl ddieuog y mae'n amlwg oddi wrth dystiolaeth cofnodion y cabidwl nad oedd yn gymaint pechadur ag yr awgrymwyd.

Daeth Davies i fri fel ysgolhaig. Iddo ef yr ymddiriedodd yr archesgob Parker y gwaith o gyfieithu Ioshua - 2 Samuel ym ' Meibl yr Esgobion ' (1568). Cadwodd safon uchel o ddysg a chroeso yn ei gartref, bu'n noddwr hael i feirdd, a chanodd ei hun rai englynion canolig. I hwyluso cyfieithiad Cymraeg y Beibl wedi Deddf 1563, gwahoddodd William Salesbury i Abergwili, a ffrwyth eu cydlafur yno oedd Llyfr Gweddi a Thestament Newydd 1567. Priodolir y cyntaf o'r ddau fel rheol i Davies, ond y mae ei arddull yn fwy nodweddadol o Salesbury. Davies biau'r Epistol at y Cembru a'r cyfieithiad o 1 Timotheus a Hebreaid - 2 Pedr o'r Testament. Dywedir mai ffrae a'u cadwodd rhag gorffen yr Hen Destament yn ôl eu bwriad, ond dengys ei lawysgrifau iddo ddechrau aildrosi rhannau o'r Testament Newydd. Bu farw 7 Tachwedd 1581.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.