CONWY neu CONWAY (TEULU), Botryddan, Sir y Fflint.

Saeson oedd y Conwyaid o ran cyff, disgynyddion Syr William Coniers, ' Knight of War ', uchel gwnstabl Lloegr dan William Goncwerwr. Syr HENRI CONWY, mab-yng-nghyfraith Syr Huw Crevecœur, arglwydd Prestatyn, oedd y cyntaf i ymsefydlu yng Nghymru, ac etifeddwyd yr arglwyddiaeth honno gan ei fab, Richard. Yn wahanol i'w ragflaenwyr cafodd wyr hwnnw, SIANCYN CONWY (c. 1415 - ?1445,) mab Siôn Aer y Conwy a fu farw 21 Medi 1431, wraig o Gymraes yn Marsli (neu Mallt) ferch Maredudd ap Hywel ap Dafydd, Cefn-y-fan, cyndad Wynniaid Gwydir ac erbyn dyfod Elisabeth I i'r orsedd yr oedd y teulu wedi bwrw ei wreiddiau'n ddwfn yn naear Sir y Fflint. Mab Siancyn a Marsli oedd SIÔN AER HEN (?1435 - Medi 1486). Bu Siôn yn briod ddwywaith. Mab o'r wraig gyntaf, Alis Minshull o swydd Gaer, oedd Syr HUW CONWY (1453 - 1517/8) a benodwyd yn drysorydd Calais gan Harri VII yn 1504 (Cal. Pat. Rolls, Hy. VII, ii, 365). O'r ail wraig Sioned Ystanlai y cafodd SIÔN AER IFANC (c. 1457 - 1523/4). Priododd ef Sioned ferch Thomas Salbri, Llewenni. Bu hi farw yn 1526/7. Cawsant ddau fab, SIÔN, a fu farw yn 1491/2, a THOMAS (c. 1473 - 1524/5). Drwy Thomas, a briododd Alis ferch Robert Chauntrell, yr aeth yr etifeddiaeth ac i ddrysu hynt y teulu bu pedwar Siôn yn olynol. Ganwyd SIÔN CONWY I tua 1518. Dichon mai ef oedd y gwr a fu'n Aelod Seneddol dros sir y Fflint yn 1558. Bu ef farw o flaen ei wraig Elisabeth Hanmer, felly cyn 1560, blwyddyn ei marw hi. Ganwyd eu hetifedd SIÔN CONWY II tua 1538. Bu ef yn briod ddwywaith (1) â Siân Salbri, Rug a Bachymbyd, (2) ag Ann Gruffudd. Bu'r Siôn hwn yn siryf sir y Fflint yn 1558-9. Y mae'n fwy na thebyg mai ef oedd yr A.S. dros fwrdeisdref y Fflint yn 1562-7. Bu farw yn 1578. Ganwyd ei etifedd o'r briodas gyntaf, SIÔN CONWY III, cyn 1558. Priododd ef Margaret, ferch Piers Mostyn, Talacre. Yr oedd yn siryf Fflint yn 1584-5 ac yn 1599-1600. Yr oedd ganddo ddiddordebau llenyddol a chyfieithodd ddau draethawd cyfoes i'r Gymraeg - Apologia Musices John Case, 1588, sef klod kerdd dafod ai dechryad, ac - A Summons for Sleepers, gwaith gwrth-Biwritanaidd gan Leonard Wright, 1589, Definiad i Hennadirion. Bu farw yn 1606 a'i weddw ar 20 Ebrill 1627. Eu mab hwy oedd SIÔN CONWY IV (ganwyd 21 Mehefin 1575) a urddwyd yn farchog 14 Mawrth 1603/4. Yr oedd yntau yn llengar ac yn noddwr i feirdd. Cymerai ddiddordeb mewn casglu llyfrau ac yr oedd ganddo feddwl mawr o'i lyfrgell. Ar 23 Gorffennaf 1589 priododd Mari, ferch Edward Morgan, Gwylgre. Bu ef farw yn ddi-blant yn (?Awst) 1641 gan adael yr etifeddiaeth a'i lyfrau i'w frawd WILLIAM. Cl. ei weddw ar 22 Ionawr 1642.

Yn ystod teyrnasiad Iago I ac hyd drothwy'r Rhyfel Cartref, gogwyddai'r teulu tuag at Babyddiaeth; yn ystod y cyfnod hwn rhestrir Mary, gwraig Syr JOHN CONWAY (1575 - 1641), a'i frawd yntau, William Conway, a'i dilynodd ym Motryddan, ymhlith gwrthodwyr Catholig (recusants) Sir y Fflint, a chyda hwynt Gonwyaid Sychtyn ym mhlwyf Llaneurgain, disgynyddion James Conway, un o feibion John 'Aer Conwy Hen ' o'i ail wraig. Eithr llaciodd yr hen deyrngarwch o dipyn i beth, ac nid oedd dim o'i ôl erbyn i Syr HENRY CONWAY (1630 - 1669) ddod i'w etifeddiaeth. Gwnaed ef yn farwnig gan Siarl II, 25 Gorffennaf 1660, a bu'n aelod o'r 'Pensionary Parliament' dros sir y Fflint o 1661 hyd ei farw cynamserol yn Hydref 1669. Yr ail farwnig oedd ei fab hynaf, Syr JOHN CONWAY (1663 - 1721), a addysgwyd yng ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, ac a fu'n A.S. dros sir y Fflint, 1685-1687, 1695-1701, 1705-1708 a 1713-1715, a thros fwrdeisdrefi'r Fflint, 1702, 1708-13 ac o 1715 hyd ei farw yn 1721. Er mai Tori ydoedd, ac er iddo ymuno â gosgorddlu Duc Efrog (Iago II yn ddiweddarach) pan ymwelodd hwnnw â Rhydychen yn 1683, mynnodd Syr John lynnu wrth drefn sefydlog eglwys a gwladwriaeth yn hytrach nag wrth y Stiwartiaid; yn ddiweddarach rhoes groeso nid yn unig i'r 'Glorious Revolution' ond i'r olyniaeth Hanoferaidd hefyd.

Efo oedd y barwnig olaf: bu farw Henry, ei unig fab o'i wraig gyntaf (Margaretta Maria, neu M. Theophila, yn ôl Pedigrees - merch John Digby ac wyres Syr Kenelm Digby) o'i flaen. Ymbriododd Penelope, ei unig ferch o'i ail wraig (Penelope, merch Richard Grenville - neu Greenould, yn ôl Pedigrees - Wotton Underwood, swydd Buckingham) â James Russel Stapleton, ac o'u pedair merch a chyd-aeresau daeth Frances, yr ieuaf, yn wraig i Syr Robert Salusbury Cotton o Leweni a Combermere Abbey (gweler Cotton, Syr Stapleton). Ymbriododd Penelope, merch a chyd-aeres y ferch hynaf, Penelope, gwraig Ellis Yonge o Acton a Bryn Iorcyn, â William Davies Shipley, deon Llanelwy. Diddorol hefyd yw nodi mai disgynnydd i Elizabeth, merch Syr John Conway o'i briodas gyntaf â gwraig Syr Thomas Longueville, barwnig, ydoedd Harry Longueville Jones, Arolygydd yr Ysgolion yng Ngogledd Cymru.

Perthnasau pell i Gonwyaid Botryddan (trwy Edward Conway, un arall o feibion John ' Aer Conwy Hen ' o'i ail wraig) ydoedd Conwyaid Arrow ac Alcester, swydd Warwick. Dyrchafwyd Edward Conway (bu farw 1631), ' secretary of state ', 1627-1630, yn is-iarll Conway o Gastell Conwy, 25 Mehefin 1627. Prynodd y castell gan y Goron yn 1628, a hwyliodd ei fab Edward Conway (1594 - 1655), yr ail is-iarll, i'w atgyweirio gyda'r bwriad o'i wneud yn drigfan iddo'i hun.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.