WYNN (TEULU), Gwydir, Sir Gaernarfon

Perthynai Wyniaid Gwydir i linach a oedd yn sefydlu, yn y 14eg ganrif a'r 15fed ganrif, gnewyllyn stadau bychain yn nhrefgorddau rhyddion Penyfed a Pennant yn Eifionydd. Tua dechrau y 14eg ganrif priododd Dafydd ap Gruffydd, Nantconwy, a oedd yn hawlio ei fod yn disgyn o Owain Gwynedd, ag Efa, ferch ac aeres Gruffydd Fychan, un o gydetifeddion ' Gwely Wyrion Gruffydd ' ym Mhenyfed; ceir disgynyddion yr uniad hwn yn y Gesail Gyfarch, Ystumcegid, Clenennau a Bryncir. Yn ystod gwrthryfel Owain Glyndwr bu Ieuan ap Maredudd ap Hywel ap Dafydd ap Gruffydd, Cefn y Fan (a elwid yn Ystumcegid yn ddiweddarach) a Chesail Gyfarch, yn pleidio'r Goron, gan farw yn 1403 wrth amddiffyn castell Caernarfon yn erbyn lluoedd Glyndwr; yr oedd Robert, ei frawd, yn un o bleidwyr Glyndwr a derbyniodd bardwn gan Harri, tywysog Cymru, yn 1408.

Oblegid, o bosibl, rhannu fel hyn ar wrogaeth aelodau'r teulu, parhaodd rhan helaethaf tiroedd y teulu yn llinell Ieuan ap Maredudd hyd 1463; yn y flwyddyn honno, rhannwyd y tiroedd a daeth Gesail Gyfarch i feddiant Ieuan ap Robert ap Maredudd (1437 - 1468). Pleidiwr plaid Lancaster ydoedd ef a bu farw yn y Gesail Gyfarch yn 1468 o'r pla. Er mwyn osgoi cymryd rhan yng nghwerylon ei geraint yn Eifionydd prynodd ei fab, Maredudd, les ar gastell Dolwyddelan, c. 1489; yn ddiweddarach adeiladodd Penimnen ac, yn nes ymlaen, prynodd Gwydir gan Dafydd ap Hywel Coetmor c. 1500.

JOHN (WYN) ap MAREDUDD (bu farw 9 Gorffennaf 1559)

Mab Maredudd ap Ieuan. Etifeddodd diroedd ei dad yn Gwydir, Nantconwy, Dolwyddelan, a Llanfrothen; aeth y Gesail Gyfarch i'w hanner-brawd, Humphrey. Ailadeiladodd Gwydir yn 1555. Yr oedd yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon, 1551-3, a'i siryf yn 1544-5, 1553-4, a 1556-7. Yr oedd gyrfa ei fab, MAURICE WYNN (bu farw 18 Awst 1580), yn gyffelyb. Efe oedd y cyntaf o'r teulu i fabwysiadu'r cyfenw Wynn. Bu'n aelod seneddol sir Gaernarfon yn 1553, 1554, 1559, a 1563-7, ac yn siryf yn 1555, 1570, a 1578.

Syr JOHN WYNN (1553 - 1627)

Mab Maurice, ac aelod mwyaf adnabyddus y teulu. Yr oedd yng Ngholeg All Souls, Rhydychen, yn 1570, yn Furnival's Inn yn 1572, ac yn yr Inner Temple yn 1576. Ymddengys iddo fyw yn Llundain hyd adeg marw ei dad (yn 1580); efallai, serch hynny, iddo fod yn trafaelio yn Ewrop. Wedi iddo etifeddu Gwydir penderfynodd chwarae ei ran ym mywyd cyhoeddus Gogledd Cymru gydag awch. Bu'n aelod seneddol sir Gaernarvon, 1586-7, yn siryf y sir honno, 1587-8 a 1603, yn siryf Meirionnydd, 1588-9, 1600-01, ac yn siryf sir Ddinbych, 1606-7. Cafodd ei urddo'n farchog yn 1606, ei ddewis yn aelod o Gyngor y Goror yn 1608, a'i ddyrchafu'n farwnig yn 1611.

O ran ei natur yr oedd yn ddihidio o deimladau a hawliau pobl eraill, yn wancus am diroedd a dylanwad, yn hoff o ymgyfreithio, ac yn wyllt ei dymer. Efe oedd arweinydd y blaid a oedd oruchaf yn Sir Gaernarfon - yn ei flynyddoedd olaf yn unig yr oedd goruchafiaeth ei deulu ef a'i blaid yn cael bygwth arni gan eiddigedd teulu Griffith, Cefnamwlch, arweinydd ysgwieriaid ceidwadol Lleyn - gweler dan Syr Richard Wynn, yr ail farwnig. Ceisiodd Syr John Wynn gychwyn gwneuthur brethynnau Cymreig ('friezes') yn nyffryn Conwy; yr oedd iddo ddiddordeb yng ngwaith copr Mynydd Parys, sir Fôn; ac yn y flwyddyn 1625 awgrymodd i Syr Hugh Myddelton y buddioldeb o sychu rhannau o'r Traeth Mawr, sydd yn rhannu Sir Gaernarfon oddi wrth Sir Feirionnydd (ac a oedd yn ymestyn bron hyd at dy'r Wyniaid yn Llanfrothen). Sefydlodd ysgol ac elusendai yn Llanrwst yn 1610. Yr oedd yn un o'r petisiynwyr am gomisiwn brenhinol i gynnal eisteddfod yn 1594, a bu'n bleidiol i weithgarwch llenyddol ei gâr, Thomas Wiliems, Trefriw.

Ysgrifennodd 'The history of the Gwydir family ' a gyhoeddwyd yn 1770 (gol. Daines Barrington), 1827 (gol. Angharad Llwyd), 1878 (gol. Askew Roberts), a thrachefn yn 1927 (gol. John Ballinger). Ysgrifennodd hefyd arolwg ar Benmaenmawr (cyhoeddwyd 1859, gydag adargraffiad yn 1906, gol. W. Bezant Lowe). Bu farw 1 Mawrth 1626/7.

O'i wraig Sydney, merch Syr William Gerrard, bu i Syr John Wynn 10 mab a dwy ferch.

JOHN WYNN (c. 1584 - 1614)

Mab hynaf Syr John Wynn, a gafodd ei addysg yn ysgol Bedford ac yn Lincoln's Inn. Bu ef yn siryf Meirionnydd, 1611-2, a chafodd ei urddo'n farchog yn 1613. Nid ymddengys i'w briodas â Margaret, merch Syr Thomas Cave, fod yn un hapus, a bu'n trafaelio yn Ffrainc a'r Eidal, 1613-4, gan farw yn Lucca yn yr Eidal, 1614, o bosibl yn Babydd.

RICHARD WYNN (1588 - 1649)

Brawd iau John Wynn, a ddilynodd eu tad yn ail farwnig yn 1627. Wedi cael ei addysg yn Lincoln's Inn, dechreuodd Richard Wynn wasnaethu y Lord Chamberlain yn 1608, yr oedd yn was yr ystafell wely i Siarl, tywysog Cymru, 1617-25, a bu gyda'r tywysog yn Sbaen yn 1623. Dewiswyd ef yn drysorydd i'r frenhines Henrietta Maria yn 1625; yn 1629 yr oedd yn was yr ystafell wely i'r brenin a'r frenhines. Bu'n aelod seneddol sir Gaernarfon, 1614, Ilchester, 1621-2 a 1624, Andover, 1640, a Lerpwl, 1640-9. Pan fethodd yn ei ymgais i gael ei ethol yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon yn 1620 ac y dewiswyd John Griffith, Cefnamwlch, dechreuodd dylanwad gwleidyddol teulu Gwydir yn y sir edwino o ddifrif. Adeiladodd Gapel Gwydir yn eglwys Llanrwst yn 1633. Er mor agos oedd ei gysylltiadau personol â'r teulu brenhinol ni fu iddo ddangos ei fod yn awyddus i wastraffu ei stadau yng ngwasanaeth y brenin yn ystod y Rhyfel Cartrefol. Bu farw 18 Gorffennaf 1649.

Ni fu plant o briodas (1618) Syr Richard Wynn ag Anne, ferch ac aeres Syr Francis Darcy.

OWEN WYNN (1592 - 1660)

Disgynnodd y farwnigiaeth a'r stadau i Owen, brawd Richard Wynn. Cafodd Owen ei addysg yn ysgolion Westminster ac Eton a bu yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt. Prentisiwyd ef i un o farsiandwyr y Staple, 1608. Yn ddiweddarach cafodd nawdd John Williams, arglwydd-geidwad y sêl fawr, a phriododd â Grace, nith hwnnw, yn 1624. Fel ei frawd hyn, ni chymerodd unrhyw ran yn y Rhyfel Cartref. Serch iddo ofni colli ei diroedd yn 1656 ('sequestration') ymddengys iddo ddianc rhag y golled honno; yn 1653, pan oedd yn siryf Sir Gaernarfon, efe a gyhoeddodd Cromwell yn ddiffynnwr. Bu'n siryf sir Ddinbych yn 1656. Cymerai ddiddordeb mewn alcemi a meteloedd, a bu'n gohebu â John Davies o Fallwyd. Bu farw 15 Awst 1660.

RICHARD WYNN (c. 1625 - 1674)

Mab Syr Owen Wynn oedd y 4ydd barwnig. Bu'n siryf Sir Gaernarfon, 1657-8, ac yn aelod seneddol y sir, 1647-53 a 1661-75; bu iddo hefyd gysylltiad â llywodraeth leol bwrdeisdref Dinbych. Yn 1659 ymddengys fod iddo ran a chyfran yn y gwrthryfel brenhinol a drefnwyd gan Syr George Booth a Syr Thomas Myddelton - yr oedd wedi priodi â Sarah, ferch Syr Thomas, yn 1654 - a bu yn garcharor yng Nghaernarfon. Pan fu farw, 30 Hydref 1674, aeth ei stad i'w ferch, MARY WYNN (1661 - 1689), a briododd, yn 1678, â Robert Bertie, barwn Willoughby de Eresby, ardalydd Lindsey a dug Ancaster wedi hynny, yn nheulu yr hwn y parhaodd Gwydir hyd 1895. Aeth y farwnigiaeth i John Wynn, Wattsay (1628 - 1719), unig fab Henry Wynn, degfed mab y barwnig cyntaf, a phan bu John Wynn farw daeth i ben.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.