GRIFFITH (TEULU), Cefn Amwlch, Penllech, Llŷn

Honnai'r teulu hwn ei fod yn disgyn o Rys ap Tewdwr Mawr trwy Drahaearn Goch, arglwydd Cymydmaen. Gellir olrhain ei gyswllt â Phenllech yn ôl i flynyddoedd cynnar y 14eg ganrif, ond Dafydd Vychan (fl. 1481) yw'r cyntaf o'r teulu y cyfeirir ato'n bendant fel o Gefn Amwlch.

Am gyfnod yn ystod oes Elisabeth drwgdybid y Griffithiaid o fod yn wrthodwyr Catholigaidd ('recusants'), ac am hynny, efallai, ni roddwyd iddynt unrhyw swydd o bwys yn y sir hyd 1589, pryd yr etholwyd GRIFFITH AP JOHN GRIFFITH yn uchel siryf. Bu farw Griffith yn Rhydychen yn 1599, gan adael y stad i'w fab hynaf, JOHN GRIFFITH I, a fu'n siryf Caernarfon yn 1604 a 1618, ac yn aelod seneddol dros Gaernarfon o 1604 hyd (?) 1611. Bu farw cyn Mawrth 1628. Dyrchafwyd mab arall, Edmund Griffith, yn ddeon Bangor yn 1613 ac yn esgob yn 1633.

Yn nyddiau John Griffith I ac yn enwedig ei fab, JOHN GRIFFITH II, y daeth Cefn Amwlch i fri yn Sir Gaernarfon, a hynny trwy ei ymosodiad beiddgar ond llwyddiannus ar uchafiaeth y teulu Wyn Gwydir. Graddiodd JOHN GRIFFITH II yn B.A. yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen, yn 1609, ac wedi tymor fel efrydydd yn Lincoln's Inn, dewisodd fyned yn gyfreithiwr yn rhai o lysoedd Llundain. Priododd Margaret, merch Syr Richard Trevor, Trefalun, gŵr a chanddo trwy ei wraig gysylltiadau agos â'r Llys. Bu hyn yn sicr yn fantais fawr i John Griffith; yr oedd, drachefn, yn gyfeillgar iawn â iarll Northampton, arglwydd lywydd cyngor y gororau. Yn 1620, wedi cryn helbul, gorchfygodd Syr Richard Wynn o Wydir yn etholiad sir Gaernarfon, a thrwy hynny amharu cryn dipyn ar fri a dylanwad y Wyniaid. Dilynwyd y fuddugoliaeth hon gan un arall yn 1622, pan lwyddodd Griffith i gael ei wneud yn gwnstabl castell Caernarfon, a chan eraill wedyn yn 1626 a 1628, pryd yr etholwyd ef am yr ail a'r trydydd tro yn aelod seneddol dros y sir. Yn y Senedd amlygodd ei hun fel un o bleidwyr selog dug Buckingham, gan ddisgwyl ffafrau ar ei law. Dychwelodd i Westminster am y bedwaredd waith yn 1640, y tro hwn fel aelod dros Biwmares; ond ymddengys ei fod wedi gadael y Tŷ cyn diwedd 1642 i ymuno â'r brenin Siarl yn Rhydychen. Ac yno y bu farw o'r pla, fe dybir, ym mis Gorffennaf, 1643. Cafodd un o'i frodyr, EDMUND GRIFFITH II (bu farw cyn 1660), yrfa lwyddiannus fel brethynnwr yn Llundain; yr oedd un arall, OWEN GRIFFITH (bu farw 1671), yn ' King's Attorney.'

Aer Cefn Amwlch ydoedd ei fab, JOHN GRIFFITH III, a adwaenid gan ei gyfeillion mynwesol fel ' Prince Griffith.' Etholwyd ef yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon yn 1640, ond fe'i trowyd allan o'r Tŷ yn 1642 am ymosod - yn bur ffiaidd yn ôl yr hanes - ar foneddiges o'r enw Elizabeth Sedley. Am y chwe mlynedd nesaf yr oedd beunydd mewn rhyw helynt neu'i gilydd. Cafwyd ef yn euog o ladd gŵr o sir Gaerlleon yn 1648, ond llwyddodd i ffoi i Ffrainc, a bu farw'n ddibriod ym Mharis cyn 1650.

Yna daeth Cefn Amwlch i feddiant ei frawd, WILLIAM GRIFFITH I, a fuasai ar un adeg â'i fryd ar swydd uchel yn y gyfraith yn Llundain. Gwnaed ef yn uchel siryf yn 1661, a bu farw yn 1688, flwyddyn ar ôl ei fab, JOHN GRIFFITH IV. Gadawyd y stad yn nwylo gweddwon y ddau, ac ar y pryd yr oedd Elisabeth, gweddw John Griffith, yn fam i ddau blentyn bach, William a John.

Bu WILLIAM GRIFFITH II, yr aer, yn aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Arfon, 1708-13, a thros y sir o 1713 hyd ei farwolaeth ym mis Mawrth, 1714-5. Dilynwyd ef yng Nghefn Amwlch ac yn y Senedd hefyd gan ei frawd, JOHN GRIFFITH V, a fu farw ym mis Mehefin 1739, gan adael mab, WILLIAM GRIFFITH III, a briododd Sidney Wynne o'r Voelas, sef yr enwog Sidney Griffith, y cysylltir ei henw â Howel Harris. Eu mab, JOHN GRIFFITH VI, a etifeddodd y stad ar farw ei dad yn 1752, oedd yr olaf o linach y Griffithiaid. Ymladdodd pan yn ieuanc ym mrwydr Minden (1759), a bu farw'n ddibriod ym mis Rhagfyr 1794, gan adael Cefn Amwlch i'w gyfnither, JANE WYNNE o'r Voelas. Priododd hi Charles Finch, brawd i iarll Aylesford, a'r diwedd fu i Gefn Amwlch a'r Voelas dodd i'w mab hynaf a gymerodd yr enw CHARLES WYNNE GRIFFITH -WYNNE. Yr oedd ef yn ŵr gradd o Goleg y Trwyn Pres, ac yn gymrawd o Goleg yr Holl Eneidiau; bu hefyd yn astudio'r gyfraith yn Lincoln's Inn. Gwnaed ef yn uchel siryf Sir Gaernarfon yn 1814 a sir Ddinbych yn 1815; bu'n aelod seneddol dros sir Gaernarfon, 1830-1, a bu farw yn 1865.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.