Yr oedd y teulu hwn, a oedd wedi ymsefydlu yn Rhufoniog yn gynnar, yn hawlio disgyn o Marchweithian. Y mae yn eglwys Ysbyty Ifan gofddelwau alabastr o gyrff RHYS AP MEREDYDD (a elwid hefyd yn RHYS FAWR), Plas Iolyn, a fu'n ymladd ym mrwydr maes Bosworth (1485), a'i wraig Lowry. (Mae cofddelw alabastr o gorff Syr Robert ap Rhys, mab Rhys ap Meredydd a Lowry, yn yr un eglwys; bu Syr Robert yn gwasnaethu'r cardinal Wolsey fel caplan; ef oedd tad Ellis ap Rhys, sef Dr. Ellis Price.) Gweler hefyd deulu Vaughan, Pant Glas.
Mab hynaf Rhys ap Meredydd a Lowry oedd MAURICE GETHIN, stiward abaty Aberconwy. Priododd ef Ann, ferch David Myddelton ' Hen,' Gwaynynog, ' Receiver-General ' Gogledd Cymru yn adeg y brenin Edward IV, a chael ohoni deulu mawr. Aer Maurice oedd CADWALADR WYNNE I, siryf sir Ddinbych, 1548. Yn ôl dogfen gyfreithiol a wnaethpwyd (8 Chwefror 1546) rhwng Cadwaladr Wynne I a'i frawd Robert Wynne (gweler cofeb mewn efydd iddo ef a'i wraig yn eglwys Ysbyty Ifan; buont farw ill dau yn 1598) cafodd Cadwaladr Voelas a chafodd Robert Cerniogau. Aer Cadwaladr Wynne I oedd ROBERT WYNN I stiward y frenhines Elizabeth dros diroedd abaty Aberconwy; priododd ef â Grace, aelod o deulu Salsbriaid Llewenni, a daeth yn dad CADWALADR WYNNE II (bu farw 1612). Bu'r ail Gadwaladr hwn yn siryf sir Ddinbych (1605). Efe, a'i wraig Anne Holland, Berw, sir Fôn, oedd rhieni ROBERT WYNNE II (ganwyd 1607), siryf sir Ddinbych yn 1631, a briododd (1645) â Jane Thelwall, o deulu Plas y Ward, Rhuthyn, a chael ohoni CADWALADR WYNNE, III (claddwyd yng Nghonwy 6 Chwefror 1719/20). Mab o'i ail wraig, sef Sidney Thelwall (hithau hefyd o deulu Plas y Ward), oedd aer Cadwaladr Wynne III, sef CADWALADR WYNNE IV. Ei wraig ef oedd Jane, ferch Edward Griffith, Garn, gerllaw Henllan. O'r briodas hon y cafwyd Sidney Griffith (bu farw 1752). Mab iddi hi a'i gŵr William Griffith (gweler dan Griffith, Cefn Amwlch) oedd JOHN GRIFFITH, siryf Sir Gaernarfon yn 1765, a fu farw heb aer ac a adawodd Gefn Amwlch i'w gyfnither, JANE WYNNE, Voelas.
Aer Cadwaladr Wynne IV oedd WATKIN WYNNE (1717 - 1774), siryf sir Ddinbych yn 1755; efe a adeiladodd eglwys gyntaf Pentrefoelas (1766). Efe a'i wraig Jane, ferch Richard Clayton, Leon Hall, Sir Amwythig, oedd rhieni JANE WYNN (bu farw 3 Hydref 1811), unig aeres Voelas; yn unol ag ewyllys ei chefnder, John Griffith (uchod), hyhi oedd aeres Cefnamwlch hefyd. Priododd Jane (28 Rhagfyr 1778) â'r anrhydeddus CHARLES FINCH (1752 - 1819), ail fab Heneage, 3ydd iarll Aylesford. (Yr oedd i Jane Wynne chwaer, Elizabeth, a ddaeth yn wraig Thomas Assheton [ Smith ], Vaynol, Sir Gaernarfon). Mab hynaf y briodas rhwng Wynne a Finch oedd CHARLES WYNNE FINCH (1780 - 1865), gŵr y daethpwyd i'w alw maes o law wrth yr enw CHARLES WYNNE GRIFFITH WYNNE; efe a adeiladodd eglwys bresennol Pentrefoelas. Dilynwyd ef gan ei fab CHARLES WYNNE (CHARLES WYNNE FINCH yn ddiweddarach) (bu farw 1874); cafodd ef ei addysg yn Christ Church, Rhydychen, a bu'n aelod seneddol bwrdeisdrefi sir Gaernarfon. Ei fab hynaf ef oedd CHARLES ARTHUR WYNNE FINCH (1841 - 1903) a ddilynwyd yn y Voelas gan ei ail fab ac yng Nghefnamwlch gan y trydydd mab (bu'r mab hynaf farw yn 1890).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Dywedir yn yr erthygl mai yn 1607 y ganed Robert Wynne II, ond sonnir amdano yn llawysgrif B.M. Addl. 14879, yn llaw Siôn Tudur a bu hwnnw farw yn 1602.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.