Ganwyd 1752, mab Thomas Assheton, Ashley, sir Gaer, a ychwanegodd yr enw Smith at ei gyfenw pan etifeddodd stadau'r Faenol a Tedworth (Hampshire), o dan ewyllys ei ewythr, William Smith, mab John Smith, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, 1705-8.
Y mae'r hanes sut y daeth stad Y Faenol - hen dreftadaeth cangen o Williamsiaid Cochwillan - i ddwylo dieithriaid hollol o Saeson yn un pur anghyffredin. Ni ellir ond dyfalu heddiw pa gymhellion hynod a barodd i Syr William Williams, yr olaf o deulu'r Faenol, gymynnu ei holl diroedd yn ei ewyllys, ddyddiedig 25 Mehefin 1695, i Syr Bourchier Wrey, gŵr o gymeriad pur amheus, i'w ddau fab ar ei ôl, ac ar eu hôl hwythau i'r brenin William III. A thrwy haelioni'r brenin yn 1698 daeth Y Faenol yn eiddo'r John Smith uchod a'i ddisgynyddion am byth.
Felly y daeth i feddiant Thomas Assheton Smith hen faenor Dinorwig, sy'n cynnwys bron y cyfan o blwyfi Llanddeiniolen a Llanberis, ynghyd â stadau eraill yn Sir Gaernarfon a sir Fôn. Adeiladodd blasty newydd iddo'i hun, a thrigai ynddo am ran o bob blwyddyn. Bu'n uchel siryf Sir Gaernarfon 1783-4 ac yn aelod seneddol dros yr un sir o 1774 hyd 1780. Yn 1806 cafodd gan y Senedd basio deddf i gau tiroedd comin Llanddeiniolen - deddf a ychwanegodd at ei stad ychydig dros bedair rhan o bump o'r comin, sef 2,692 acer a rhagor, ac a roes iddo hefyd fel arglwydd maenor Dinorwig hawl i'r llechi ar y comin. Erbyn hyn yr oedd Smith yn dechrau sylweddoli y talai iddo ymgymryd â datblygu'r chwareli a oedd ar ei stad. Yn 1809 ffurfiodd gwmni o bedwar o dan ei lywyddiaeth ef, ond ymhen ychydig digwyddodd anghydfod rhwng y partneriaid, a'r diwedd fu iddo ef yn 1820 afael yn yr awenau ei hun. Gwelodd godi nifer y chwarelwyr o ddau gant yn 1820 i wyth gant yn 1826, pryd y cynhyrchwyd ugain mil o dunelli o lechi. Adeiladodd ffyrdd cymwys i'r pwrpas o gludo'r llechi o Ddinorwig i'r Felinheli, i'w hallforio o'r porthladd newydd ('Port Dinorwic') a gynlluniwyd ganddo yno.
Bu farw yn ei blas, Tedworth, 12 Mai 1828, a dilynwyd ef fel sgwïer Y Faenol gan yr ail fab o'i briodas ag Elizabeth, merch Watkin Wynn o'r Foelas, a oedd o'r un enw â'i dad -
Ganed ef yn Llundain 2 Awst 1776, a chafodd ei addysg yn Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen. Cynrychiolodd Andover yn y Senedd fel Ceidwadwr, 1821-31, a sir Gaernarfon 1832-41. Ond fel heliwr-llwynogod o fri y cofir amdano yn bennaf oll; nid am ddim y gelwid ef gan ei gyfoedion 'the British Nimrod.' Bu'n amlwg hefyd ar un adeg fel chwaraewr criced, a phan ymwelai â'r Faenol ei brif ddiddordeb oedd hwylio'i gychod ar Fenai. Datblygodd gryn dipyn ar ei stad a chwarel Dinorwig; ychwanegodd at borthladd y Felinheli, a rhwng 1834 a 1848 bu wrthi'n adeiladu'r rheilffordd bresennol a red o'r Gilfach Ddu ar hyd glannau Llyn Padarn. Bu farw yn Y Faenol 9 Medi 1858, a chladdwyd ef yn Tedworth. Priododd Matilda, merch William Webber, Binfield Lodge, Berkshire, ond ni bu iddynt blant, ac aeth y stad Gymreig ar ôl marw ei weddw i feddiant George William Duff, mab hynaf ei nith.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.