WILLIAMS (TEULU) o Gochwillan

Disgynyddion o'r un gwraidd â Griffith o'r Penrhyn.

ROBIN AP GRIFFITH (bu farw c.1445)

Brawd Gwilym ap Griffith, y gwr a osododd sylfeini ffyniant teulu'r Penrhyn, oedd sylfaenydd y teulu. Hwyrach i Robin ymsefydlu ym Modfeio mor gynnar â 1389. Priododd (1) Angharad, merch Rhys ap Griffith, a (2) Lowri, merch Grono ab Ifan. Bu'n cynorthwyo Owain Glyndwr ar ddechrau ei wrthryfel, ond erbyn 1408 yr oedd wedi cefnu arno, oherwydd yn y flwyddyn honno, ceir ef yn un o swyddogion y goron yn Sir Gaernarfon. Yr oedd yn fyw yn 1443 a bu farw, yn ôl pob tebyg, c. 1445. (J. R. Jones, ' The development of the Penrhyn estate to 1431 ', traethawd gradd M.A., Prifysgol Cymru, heb ei gyhoeddi; Min. Acc., 1153/5; Griffith, Pedigrees, 186).

GRIFFITH AP ROBIN (bu farw c. 1475), swyddog brenhinol a ffermwr

Mab Robin ap Griffith o'r briodas gyntaf. Priododd Mallt, ferch Griffith Derwas ap Meurig o Nannau. Dienyddiwyd hanner brawd iddo, Thomas, yng Nghonwy yn 1468, gan William Herbert, iarll Penfro, fel Lancastriad. Ymddengys i Riffith ei hun ddilyn esiampl ei berthnasau o'r Penrhyn mewn hyblygrwydd. Nodir ef yn gyson fel swyddog brenhinol a ffermwr tan y goron yn Sir Gaernarfon o 1459 i 1475, ac yn 1466 yr oedd yn aelod o gomisiwn a benodwyd i archwilio adroddiadau fod cyllidau heb eu talu o Fôn a Sir Gaernarfon er esgyniad Edward IV, (The history of the Gwydir family , arg. 1927, 19; Min. Acc., 1180/1-1181/5; Cal. Pat. Rolls, 1461-7, 529). Yr oedd ei fab,

WILLIAM AP GRIFFITH (bu farw c. 1500), milwr a siryf Sir Gaernarfon

Mab Griffith ap Robin. Yr oedd yn bleidiol iawn i'r Tuduriaid. Priododd Angharad ferch Dafydd ab Ifan ab Einion, a gadwodd Harlech ar ran y Lancastriaid rhwng c. 1460 a 1468. Dywedir iddo ddyfod â thrwp o wyr meirch i gynorthwyo Harri Richmond ym mrwydr Bosworth. Penodwyd ef yn siryf Sir Gaernarfon am ei oes yn 1485, a derbyniodd fraint dinasyddiaeth yn 1486. Bu farw, yn ôl pob tebyg, yn 1500 (Breese, Kalendars, 50; Cal. Pat. Rolls., 1485-94, 55). Ei fab,

WILLIAM WILLIAMS (bu farw c. 1559), comisiynwyr, a siryf Sir Gaernarfon

Mab William ap Griffith, a'r cyntaf o'r teulu i fabwysiadu'r cyfenw Williams. Priododd ef Lowri, merch Henry Salesbury o Lanrhaeadr, ac fe'i ceir yn ei ddisgrifio'i hun fel hen wr cyn 1559. Yr oedd yn un o'r comisiynwyr a benodwyd yn 1535 i archwilio ynglyn â degymau ac eiddo ysbrydol yn esgobaethau Bangor a Llanelwy. Yr oedd yn siryf Sir Gaernarfon yn 1542, 1547 a 1553. Gwnaeth ei ewyllys ar 24 Mehefin 1558 a phrofwyd hi 3 Mehefin 1559. (Ei drydydd mab, Thomas, oedd sylfaenydd teulu Williams y Faenol. Gweler Griffith, Pedigrees, 190).

WILLIAM (WYNN) WILLIAMS (bu farw 1557)

Mab hynaf William Williams. Priododd Dorothy, merch Syr William Griffith o'r Penrhyn. Ymddengys iddo farw o flaen ei dad, oherwydd profwyd ei ewyllys 14 Mai 1557. Rhaid felly mai'r tad, ac nid y mab, oedd y William Williams a etholwyd yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon yn 1558. Sylfaenwyd teuluoedd o beth bri gan ddau fab ieuaf William (Wynn) Williams - ARTHUR, cyndad teulu Williams o Feillionydd, ac EDMUND WILLIAMS o Gonwy, tad John Williams, archesgob Efrog (Cal. Wynn Papers, 30; llsgrau'r Penrhyn 63; Breese, Kalendars, 51; L. and P. Henry VIII, viii, rhif 149 (66a 67); Williams, The parliamentary history of the principality of Wales, 58; Peniarth MS 289 . Y mae'r dyddiadau a roddir yn Griffith, Pedigrees, 186 yn anghywir).

Disgynnodd yr ystad i

WILLIAM WILLIAMS (bu farw 1612),

Mab hynaf William (Wynn) Williams, a'i daliodd hyd ei farw yn 1612.

Priododd (1) Agnes, merch John ap Meredith o Wydir, a (2) c. 1569, Barbara, merch George Lumley, mab John, Arglwydd Lumley, a gweddw Humphrey Llwyd, yr hynafiaethydd. Yr oedd yn siryf Sir Gaernarfon yn 1571 a 1592, a Sir Drefaldwyn yn 1589 a 1596 (Breese, Kalendars, 51 a 53; Lloyd, Sheriffs of Montgomeryshire, 232 a 269).

Dywedir yn gyffredin i'w fab o'r briodas gyntaf, OWEN WILLIAMS, gael ei ddietifeddu, ac i'w fab o'r ail briodas, HENRY WILLIAMS, gael ei wneud yn aer. Nid yw'r ffeithiau cywir mor syml â hyn. Ar ryw ddyddiad anhysbys, trosglwyddasai William Williams ei ystad i Owen Williams, gan gyfyngu'r etifeddiaeth i etifeddion gwryw, ond bu Owen farw cyn 1590, gan adael merch yn unig, sef Dorothy, a briododd Henry Needham o Thornsett, sir Derby (Edwards, Star Chamb. Procs., 152 a 155). Yn 1590, trosglwyddodd William Williams ei diroedd mewn ymddiriedaeth ar ran ei ail wraig, Barbara, a'u mab, Henry Williams. Disgrifir yr ystadau fel yn gorwedd ym Môn, ac yn siroedd Caernarfon, Meirionnydd, Trefaldwyn, Amwythig a Chaer (llsgrau'r Penrhyn 77; am ei fuddiannau yng Nghroesoswallt gweler E. G. Jones, Exchequer Procs., 345). Fel canlyniad i'r cam hwn, bu cyngaws rhyngddo ef a'i wyres o'r briodas gyntaf yn y Cwrt Gward (Calendar of State Papers, Domestic Series, 1603-10, 642). Yr oedd wrth natur yn chwannog i gyfreithia, ac nid oes amheuaeth na ddioddefodd yr ystad o'r herwydd.

Ymddengys iddo gynnal cweryl â'i berthynas, John Wynn o Wydir, drwy ei oes. Yn 1592 cyrhaeddodd y cweryl ei uchafbwynt pan gyhuddwyd Wynn gan Williams, yn llys Siambr y Seren, o'i daro mewn cyfarfod ynadon yn eglwys Conwy. Dirwywyd Wynn am y trosedd hwn (Cal. Wynn. Papers, 114, 132, 134, 727; Clenennau L. and P., 45, 46, 48; Edwards, Star Chamb. Procs., 37, 38; Calendar of State Papers, Domestic Series, 1603-10, 456). Dug Williams achosion yn llys Siambr y Seren yn erbyn Syr Richard Bulkeley o Fiwmares ac amryw unigolion o siroedd Caernarfon a Threfaldwyn (Edwards, Star Chamb. Procs., 37, 38; E. G. Jones, Exchequer Procs., 345).

Bu cweryl rhyngddo hefyd a'i berthynas, Syr Rhys Griffith o'r Penrhyn, a'i fab, Pirs Griffith o'r Penrhyn; llawysgrifau Penrhyn 239-41, 245-7, 249).

Yr oedd yn un o'r nifer mawr o ysgwieriaid Cymreig a fenthycodd arian oddi wrth Syr Thomas Myddelton, ac yr oedd yn morgeisio tiroedd yn 1612. Dinoddwyd ef am ei ddyledion, yn ôl pob tebyg, a rhoddwyd ei eiddo i Dr. John Craig, meddyg y brenin, a ddaeth i delerau â'r aer, Henry Williams, yn ddiweddarach. Bu farw Chwefror 1612 (gweler yr erthygl ar Myddelton; Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i, 85; llsgrau'r Penrhyn 276; T. I. J. Jones, Exchequer Procs., James I, 51-3; Cal. S. P. Dom., 1611-18, 132).

HENRY WILLIAMS (ganwyd c. 1570)

Mab William Williams (bu farw 1612). Priododd Jane, merch Thomas Salusbury o Ddinbych, trydydd mab Syr John Salusbury o Lewenni. Ymddengys fod iddo ran yng nghwerylon ei dad o'i ieuenctid. Yn 1587 cyhuddwyd ef yng nghwrt y Sesiwn Fawr dros Sir Gaernarfon o derfysg a thresmasiad ar diroedd ym meddiant Pirs Griffith o'r Penrhyn. Yn union ar ôl marw ei dad ym mis Chwefror 1612, addawodd werthu Cochwillan a thiroedd yn Sir Gaernarfon i Syr William Herbert o Sir Drefaldwyn am £1,000 er mwyn talu ei ddyledion. Ymddengys i'r arwerthiad gael ei rwystro oherwydd i Henry Needham, ar ran ei fab gan Dorothy Williams, wrthod trosglwyddo hawl ei wraig i ran o'r ystad. Yr oedd Henry Williams yn morgeisio tiroedd yn y Creuddyn yn 1613, a threthwyd ei adnoddau ymhellach gan gyfres o achosion cymhleth rhyngddo a Henry Needham. Ymddengys iddo fod yn garcharor oherwydd ei ddyledion rhwng 1616 a 1618.

Drwy ryw ffordd ddirgel prynwyd Cochwillan a'r tiroedd yn Sir Gaernarfon gan John Williams (1582 - 1650), cefnder Henry Williams, c. 1620. Daeth ystad y Penrhyn i feddiant John Williams tua'r un adeg. Ond, cyn hwyred â 1674, gwerthodd John Williams o Ystumcolwyn, Sir Drefaldwyn, wyr Henry Williams, ddaliad ym Modfeio i Syr Robert Williams o'r Penrhyn, y darn olaf, yn ôl pob tebyg, o'r ystad (llsgrau'r Penrhyn 101, 244, 274-6, 460; Cal. Wynn Papers, 988; Edwards, Star Chamb. Procs., 152, 155, 156; Smith, Cal. Salusbury Corr., 217; T. I. J. Jones, Exchequer Procs., James I, 279; Griffith, Pedigrees, 186).

GRIFFITH WILLIAMS (bu farw 1663), dirprwy islyngesydd gogledd Cymru a siryf Sir Gaernarfon

Pan fu'r archesgob John Williams farw yn 1650, etifeddwyd yr ystadau unedig gan ei nai, Griffith Williams, mab Robert Williams o Gonwy (bu farw cyn 1613; gweler llsgrau'r Penrhyn 420; am anawsterau ynglyn â'i etifeddiaeth gweler Cal. Wynn Papers, 1943-6, 1997, 1999, 2001, 2003, 2017-9, 2025-6). Derbyniwyd ef yn aelod o Lincoln's Inn, Chwefror 1624. Priododd Wen, merch Hugh (Gwyn) Bodwrda, cytundeb a gryfhawyd yn y genhedlaeth nesaf drwy briodas eu merch, Catherine, â'i chefnder John, wyr Hugh Gwyn Bodwrda. Yn 1641, fel dirprwy islyngesydd gogledd Cymru, danfonodd adroddiad iddo glywed am gynllwyn ymhlith reciwsantiaid y Creuddyn i gymryd meddiant o Gonwy. Yn ystod y Rhyfel Cartref a'r Werin lywodraeth dilynodd, fel rheol, arweiniad ei ewythr. Yr oedd yn siryf Sir Gaernarfon yn 1651 a 1662. Gwnaed ef yn farwnig gan Gromwell yn 1658, a chan Siarl II yn 1661. Bu farw yn 1663 (Breese, Kalendars, 55, 56; erthyglau Bodwrda, a Puw (teulu) o'r Penrhyn Creuddyn; Cal. Wynn. Papers, 1695; G.E.C., Complete Baronetage, iii, 6, 212).

Syr ROBERT WILLIAMS ail farwnig (c. 1627 - 1680), aelod seneddol

Mab Griffith Williams (bu farw 1663). Priododd (1) yn 1652, Jane, merch Syr John Glynne o Benarlâg. Adlewyrchid ei syniadau gwleidyddol gan y briodas hon a'u cryfhau. Etholwyd ef a'i dad-yng-nghyfraith yn aelodau seneddol dros sir Gaernarfon yn 1656, ac yn 1658 etholwyd ef dros Gaernarfon. Yr oedd yn siryf Sir Gaernarfon yn 1670. Priododd (2) yn 1671, Frances, gweddw'r Cyrnol Whyte o'r Brodordy, Biwmares, merch Syr Edward Barkham, barwnig (Cal. Wynn Papers, 1982, 2121; llsgrau'r Penrhyn 430; Williams, The parliamentary history of the principality of Wales, 61; G.E.C., Complete Baronetage, iii, 213; Breese, Kalendars, 56).

Dilynwyd ef gan ei ddau fab, Syr JOHN WILLIAMS (bu farw 1682), 3ydd barwnig, a Syr GRIFFITH WILLIAMS (bu farw 1684), 4ydd barwnig, a fu farw yn ddietifedd, Hugh Williams o'r Marl, trydydd mab Syr Griffith Williams, y barwnig cyntaf oedd y barwnig nesaf.

Daeth y Penrhyn a Chochwillan i feddiant Frances, merch hynaf Syr Robert Williams, a'u gadawodd, yn ei thro, i'w dwy chwaer fel cyd-etifeddesau, sef (1) Anne, a briododd Thomas Warburton o Winnington, sir Gaer, a (2) Gwen, a briododd Syr Walter Yonge o Escot yn Nyfnaint.

Rhwng 1765 a 1785 llwyddodd Richard Pennant, drwy briodas a phryniant, i ail uno dau hanner yr ystad.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.