Ganwyd 25 Mawrth 1582 yng Nghonwy, mab Edmund a Mary Williams. Yr oedd yn disgyn, o ochr ei dad, o deuluoedd Cochwillan a Phenrhyn, dau deulu a oedd yn prysur golli eu dylanwad, ac o ochr ei fam o deulu Wyniaid Gwydir. O ysgol ramadeg Rhuthyn aeth (1598) i Goleg S. Ioan, Caergrawnt. Arhosodd yng Nghaergrawnt ar ôl cael ei ordeinio; ac wedi iddo, yn 1611, draddodi pregeth o flaen Iago I, enillodd ffafr y brenin hwnnw. Yn 1612 daeth yn gaplan i'r arglwydd-ganghellor Ellesmere, a'i haddysgodd mewn diplomyddiaeth. Yn 1620 cafodd ei ddewis yn ddeon Westminster - yr oedd eisoes â rhai bywiolaethau ganddo; y flwyddyn ddilynol cafodd ei ddewis gan y brenin yn arglwydd-geidwad y sêl fawr - a'i ganiatäu i barhau'n ddeon - ac yn esgob Lincoln.
Pan fu Iago farw, dechreuodd y blynyddoedd blin yng ngyrfa Williams. Gwnaeth Buckingham a Laud yn elynion iddo'i hun ac nid oedd na'i olygiadau na'i gymeriad yn apelio at y brenin Siarl. Am y dywedid mai ar brawf yn unig y dewisasid ef yn arglwydd-geidwad, cymerwyd y sêl fawr oddi arno yn 1625. Dilynwyd yr ystrywiau y bu a fynnai â hwynt, pan gychwynnodd Laud gyngaws yn ei erbyn yn Llys y Seren yn 1628, â dirwy drom yn 1637, ynghyd a'i rwystro i wasnaethu fel gŵr eglwysig a'i daflu yng ngharchar. Bu raid iddo aros yng ngharchar nes i'r Senedd Faith gyfarfod yn 1640; ym mis Tachwedd y flwyddyn honno gorchmynnodd Tŷ'r Arglwyddi ei ryddhau a gofynnodd y brenin am ei gyngor. Y cyngor hwnnw a wnaeth i Siarl benderfynu torri ei enw ar y warant i ddienyddio Strafford. Serch hynny, credai'r hanesydd Gardiner y buasid wedi osgoi y Rhyfel Cartrefol pe derbyniasai Siarl gynghorion Williams. Yn 1641 daeth Williams yn archesgob Caerefrog.
Wedi iddo, a hynny'n fyrbwyll, lunio'r 'Bishops' Remonstrance' ar 30 Rhagfyr 1641, fe'i cafodd Williams ei hunan unwaith eto yn Nhŵr Llundain. Wedi iddo dorri'r amodau y rhyddawyd ef arnynt gan y Senedd ym mis Mai 1642, dilynodd y brenin i sir Gaerefrog; yn ddiweddarach yn y flwyddyn ffodd yn ei ôl i Ogledd Cymru pan aeth Hotham (yr iau) ar gyrch yn erbyn ei Blas.
Ar ôl dyfod i Ogledd Cymru bu'n gweithredu fel cyfryngwr rhwng pobl plaid y brenin, yn Saeson ac yn Gymry, ac Ormond (yn Iwerddon). Atgyweiriodd ac amddirffynnodd gastell Conwy ar ei draul ei hun, gan gael sicrwydd mewn ysgrifen gan y brenin y câi'r castell barhau yn ei ofal hyd nes y telid yn ôl iddo yr arian a wariodd arno. Oblegid natur annerbyniol y cyngor a roddai i'r brenin yr oedd ei ddylanwad gyda hwnnw yn gwanhau ac ym mis Mai 1645 cafodd ei droi allan o'r castell yn ddiseremoni gan Syr John Owen, Clenennau, y Brenhinwr. Wedi ei argyhoeddi bod achos y brenin wedi colli'r dydd a chan deimlo'n ddig oblegid ei droi allan o'r castell, daeth i delerau â Mytton, pennaeth llu'r Senedd a oedd yn goresgyn Gogledd Cymru, a chymerodd ran pan oeddid yn ymosod ar Gonwy yn Awst 1646. Ni faddeuwyd gan Frenhinwyr Cymru byth i Williams am ei wrthgiliad, er bod arwyddion iddo edifarhau o'i blegid wedi i'r brenin gael ei ddienyddio. Bu farw 25 Mawrth 1650 yn Gloddaeth, cartref teulu Mostyn, a oedd yn Frenhinwyr. Claddwyd ef yn eglwys Llandygai, gerllaw Penrhyn, eiddo a brynasai ef yn ôl yng nghyfnod ei lwyddiant. Cyfansoddwyd y beddargraff ar ei gofadail gan Hacket, ei gofiannwr; yn ymyl y mae penffestin Williams, a'i ysbardynau, y cwbl wedi hen rydu, yn hongian. Bu'n noddwr hael i'w goleg yng Nghaergrawnt; efe a gododd adeilad hardd y llyfrgell yno.
gweler hefyd yr ysgrif 'Williams o'r Marl'.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.