OWEN, Syr, JOHN (1600-1666), llywiawdr ym myddin y Brenhinwyr

Enw: John Owen
Dyddiad geni: 1600
Dyddiad marw: 1666
Priod: Janet Owen (née Vaughan)
Plentyn: Anne Vaughan (née Owen)
Plentyn: Katherine Anwyl (née Owen)
Plentyn: William Owen
Rhiant: Ellin Eure (née Maurice)
Rhiant: John Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llywiawdr ym myddin y Brenhinwyr
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Mab hynaf John Owen, Bodsilin, ysgrifennydd Walsingham, ac Elin (arglwyddes Eure wedi hynny), wyres Syr William Maurice. Ganwyd yn y Clenennau, gerllaw Dolbenmaen, Sir Gaernarfon, cartref ei fam. Priododd Jonet, merch Griffith Vaughan, Corsygedol, Sir Feirionnydd. Cafodd beth profiad fel milwr cyn etifeddu Clenennau ar farw ei fam yn 1626 (gweler N.L.W. Brogyntyn 3/46). Yr oedd yn siryf Sir Gaernarfon yn 1630/1 a Sir Feirionnydd y flwyddyn ddilynol. Pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan, dodwyd ef ar y comisiwn rhyfel (10 Awst 1642) - parodd Siarl I iddo godi tair catrawd, ar gost arian y sir, o dair sir Gwynedd a darparu iddynt wisgoedd ac offer rhyfel. Oherwydd rhwystrau a achosid iddo gan deuluoedd lleol - Glyniaid Glynllifon, teulu Madryn, etc. - ni allodd gael ei ddynion yn barod i'r gad hyd yr haf dilynol. Mewn ymladdfeydd yng nghyffiniau Rhydychen y buont i gychwyn (Mai 1643), ac wedyn yng ngwarchae Bryste; yno, ac yntau'n bennaeth y chweched gatrawd o dan y tywysog Rupert, fe'i clwyfwyd yn ei wyneb (18 Gorffennaf), ond ymladdodd eto gerllaw Newbury (20 Hydref). Y flwyddyn ddilynol galwyd arno i ddychwelyd a bod yn siryf Sir Gaernarfon am yr ail dro; bu yn y swydd hyd nes peidiodd awdurdod y brenin yn Sir Gaernarfon. Ar ôl ymgyrch lwyddiannus Syr Thomas Myddelton yng Nghymru, gwysiwyd Owen i Rydychen; yno gwnaeth y brenin ef yn llywiawdr yr hyn a ddaeth yn 'ffrontiere garrison' Conwy (10 Rhagfyr 1644), a'i wneuthur yn farchog wythnos yn ddiweddarach. Ar 17 Chwefror 1645, gwnaethpwyd ef yn ' sergeant major general of foot,' a'r arglwydd Byron (llywiawdr Caer) yn bennaeth uniongyrchol arno. Ei dasg gyntaf ydoedd gwrthwynebu'r bygythion i siroedd Dinbych a'r Fflint a oedd wedi datblygu yn ystod y gaeaf (N.L.W. Rhual MSS., llythyr 95), eithr oblegid i gyrch yn Lancashire fynd â'r goresgynwyr i ffwrdd ym mis Mai cafodd gyfle i roi sylw i gyflwr amddiffynfeydd ardal Eryri. Yr oedd bwyd ac adnoddau eraill yn brin a'r boneddigion yn yr ardaloedd hynny yn hwyrfrydig i gydweithio, a hynny, i raddau, am fod arnynt ofn llywodraeth filwrol o'r tu allan - ofn a fynegid gan yr archesgob John Williams; yr oedd ef wedi gwario ei arian mewn modd hael i ddod â chynlluniau lleol i rym, a threfnu i Gonwy, ei fangre ef ei hun, fod yn fath o bencadlys offer rhyfel, a bu'n protestio (Ionawr 1645) oblegid bod gwr o'r tu allan, o rannau gwylltion Eifionydd, yn dyfod i gymryd ei le. Ceisiodd Byron gymodi rhyngddynt; ym mis Mai, fodd bynnag, gydag awdurdod a roddwyd iddo gan Rupert, aeth Owen i mewn i gastell Conwy trwy rym arfau, cymerodd feddiant o gynnwys y castell, a dywedodd bethau mor gas am yr archesgob nes i'r brenin orfod dwrdio Owen. Oherwydd fod y Pengryniaid yn pwyso yno gorfu i Owen fynd i Sir Feirionnydd ym mis Awst; ym mis Medi, fodd bynnag, yn union ar ôl i fyddin y brenin gael ei gorchfygu ym mrwydr Rowton Heath, gwysiwyd Owen gan y brenin i ddyfod ato i Ddinbych er mwyn cael cadarnhau ei gomisiwn, a oedd yn cynnwys gofalu am y castell. Wedi i Byron geisio fwy nag unwaith, ar ôl i Gaer gwympo (1 Chwefror 1646), eu cael i ymgymodi, anfonodd yr archesgob lythyr caredig at Owen (24 Ebrill); serch hynny, o dan orchymyn Byron y bu i Owen weithredu yn y fath fodd ag i achosi y rhwyg terfynol - sef trwy beri gafael ('impounding') ar bob adnoddau rhyfel, gan gynnwys gwartheg, etc., o Wydir, ac felly adael nith fwyaf hoff yr archesgob a'i gwr Syr Owen Wynne at drugaredd y Pengryniaid. A'i amynedd bron ar ben, cynorthwyodd Williams Thomas Mytton i ddyfod i Gonwy ym mis Awst, eithr parhaodd Owen i ddal y castell hyd 9 Tachwedd, pryd y gwnaethpwyd telerau anrhydeddus a'i gwnaeth yn bosibl iddo ymneilltuo i Glenennau ar ôl iddo gymryd y ' Covenant ' a'r ' Negative Oath ' (26 Ebrill 1647).

Bythefnos cyn hyn yr oedd Rupert wedi ysgrifennu o Ffrainc yn gwahodd Owen i ddod â brigâd o Gymry drosodd i wasnaethu yn y wlad honno, eithr bu raid iddo, o'i anfodd, wrthod y gwahoddiad oherwydd prinder moddion cludo. Adnewyddwyd ei gomisiwn yn yr ail Ryfel Cartrefol (31 Mawrth 1648). Llwyddodd i gael Sir Feirionnydd i godi o blaid y brenin ac arfaethai ymuno â Rowland Laugharne yn Sir Benfro, eithr dewisodd yn hytrach warchae tref Caernarfon ar adeg pan oedd hi'n rhy hwyr i wneuthur hynny. Gorfu iddo gilio'n ôl trwy Fangor o flaen lluoedd cryfach, gyda siryf y Senedd, William Lloyd, a glwyfasid, yn garcharor yn ei ddwylo; gwasgwyd arno ef a'i wyr ar lan y môr yn y Dalar Hir, Llandegai (5 Mehefin), lle y gwasgarwyd ei filwyr gan Mytton a'i gymryd yntau ei hunan yn garcharor gan capten Edward Taylor (gweler dan Kenrick), a gafodd ei wobrwyo'n dda gan y Senedd; bu'r siryf farw oherwydd treialon y siwrnai. Taflwyd Owen i garchar yng nghastell Dinbych, aethpwyd ag ef i Lundain i sefyll ei brawf am deyrnfradwriaeth yn erbyn y Senedd, am beidio â chadw at delerau ei ymostyngiad, ac am achosi marwolaeth y siryf. Symudwyd ef i Windsor (26 Mehefin), ac yna daethpwyd ag ef yn ôl i Lundain i'w brofi wedi i Dyr Arglwyddi atal gorchymyn i'w alltudio ef a Laugharne (14 Tachwedd) ac i Senedd y 'Rump' benderfynu, ddau ddiwrnod wedi dienyddio 'r brenin (1 Chwefror 1649), ei brofi ef a phrif gynllwynwyr eraill yr ail Ryfel Cartrefol o flaen yr un llys. Wedi iddo ei amddiffyn ei hun mewn modd cadarn, heb gymorth pleidydd (9 Chwefror - 6 Mawrth), condemniwyd ef i farwolaeth; drannoeth, fodd bynnag, gwnaeth betisiwn i gael ei ollwng yn rhydd - y mae amryw gopïau mewn drafft ohoni ar gael - a llwyddodd; credai ef ei hunan mai Cromwell neu James Challenor a gyfryngodd ar ei ran; credai Clarendon mai Ireton oedd y cyfryngwr; tra y dywed adroddiadau eraill mai rhyw lysgenhadon tramor a ddylanwadodd, a bod ar y Llywodraeth ofn y byddai helynt yng Nghymru os na chaniateid y cais. Erbyn Gorffennaf yr oedd yn rhydd ac yn abl i ddiddanu'r dyddiadurwr John Evelyn yn Llundain gyda thelynor Cymreig, ac yr oedd yn ôl yn ei gartref ym mis Medi. Gwnaethpwyd ymdrech i gael arian o'i stad a oedd eisoes wedi ei dirwyo (27 Mai 1647) i'r swm o £771, arian yr oeddid (10 Chwefror 1646) yn edrych arno fel cronfa i ad-dalu ohoni fenthyciadau a wnaethpwyd yn ystod ymgyrch Myddelton eithr lluddiwyd yr ymdrech gan Mytton ac y mae'n ymddangos i Myddelton, yntau, ymddwyn gyda pheth hynawsedd ym mater y 'sequestration.' Ymddiddorodd Owen yr adeg hon yn ei gwn a'i hebogau yn Clenennau. Ni allai fynd i ffwrdd o'i gartref heb ganiatâd arbennig ('pass') ac fe'i rhoddwyd o dan ofalaeth arbennig ('preventive restraint') deirgwaith; yn Ninbych (er iddo gael caniatâd arbennig lawer tro i fynd oddi yno) yn Awst - Medi 1651; yng Nghaer ym mis Gorffennaf 1655 (pryd yr oedd llawer o gynllwynion ar droed) hyd nes y llwyddodd apeliadau drosto at Cromwell a rhai o'i wyr (a John Jones y 'regicide' yn eu plith) i'w gael yn rhydd ar 17 Awst; a thrachefn yn Biwmares am dair wythnos yn 1658. Ar wahân i apêl a wnaeth at Cromwell yn erbyn yr hyn a ofynnwyd ganddo o dreth y degfed ('decimation tax') yn 1655, ni chymerodd unrhyw ran (hyd y gwyddys) mewn materion gwleidyddol hyd nes, pan galonogwyd ef wrth dderbyn llythyr oddi wrth ddug York a oedd yn alltud (7 Gorffennaf 1659), yr ymunodd yng ngwrthryfel Booth; canlyniad hyn ydoedd gorchymyn newydd i gymryd ei eiddo oddi arno ('sequestration'), eithr ni roddwyd y gorchymyn mewn grym oherwydd i'w frawd gyfryngu drosto. Pan ddychwelodd y brenin (Siarl II) apeliodd am gael gwneuthur iawn iddo ac am gael dial am yr hyn a ddioddefodd ar gam (31 Gorffennaf 1660), a rhoddwyd iddo'r swydd o is-lyngesydd ('vice-admiral') Gogledd Cymru; yn rhinwedd ei swydd fel dirprwy-raglaw bu'n cydweithio â William Griffith, Cefnamwlch i chwilio am bleidwyr yr hen Lywodraeth a thalu'n ôl i'r rheini a fu'n brysur bedwar-mis-ar-ddeg yn gynt ym mater cymryd ei eiddo oddi arno ('sequestration'). Bu farw yn Clenennau yn 1666. Y mae'r arysgrif ar ei feddrod yn eglwys Penmorfa bron wedi treulio erbyn hyn; gwelir copi ohoni yn Trans. Shrops. Antiq. Soc., II, iv, 54, a cheir copïau cyfoes ohoni wedi eu cadw mewn drafft yn Lladin, Cymraeg, a Saesneg. Eithr gan ddau fardd yr ysgrifennwyd ei feddargraff orau - a hynny pan ddaeth yn siryf am y tro cyntaf: ' Gwr purffydd … a gwr a nerthai'r Goron,' ac ' Mae rhinwedd ar eich cledd clau ' (N.L.W. Brogyntyn MS. 3/437 (397)); wedi'r cyfan, milwr ydoedd yn anad dim arall, yn fwy hyddysg mewn milwriaeth (yr unig bwnc y bu wiw ganddo ychwanegu at lyfrgell y teulu arno) nag mewn gwleidyddiaeth resymegol neu ddiwinyddiaeth neu'r math o athrylith ddiplomyddol y mae'n rhaid wrthi mewn materion cyhoeddus; mewn materion gwleidyddol a chyhoeddus, fel y dywedodd yr archesgob John Williams, ' Valour will not do the business.'

Etifeddodd WILLIAM OWEN (1607 - 1670), brawd Syr John Owen, stad Porkington (Brogyntyn yn awr), Swydd Amwythig. Cafodd yntau gomisiwn cyrnol gan y brenin (15 Mehefin 1643), bu'n cynorthwyo fel siryf Meirionnydd, 1645-6, i drefnu adnoddau o'r sir honno, ac efe oedd llywiawdr Harlech o 16 Mai 1644 hyd y trosglwyddwyd hi i blaid y Senedd, eithr ar amodau anrhydeddus, ar 13 Mawrth 1647 pan nad ydoedd ond Raglan yn unig yn aros yn nwylo plaid y brenin. Yn 1648 aeth i Sgotland gyda Langdale i ymuno yng ngoresgyniad Hamilton, carcharwyd ef yng nghastell Nottingham pan fethodd y goresgyniad, ac ar ôl iddo wneuthur trefniant (a gostiodd £400) ynglyn â'i stadau ('compounding') - fe ryddhawyd y stadau yn 1651 - cafodd ganiatâd i fynd dros y môr. Yr oedd yn ôl yn Porkington erbyn diwedd 1655; llwyddodd yr adeg honno yn ei apêl i ddod yn rhydd o dalu treth y degfed ('the decimation tax'). Wedi'r Adferiad bu'n deisebu dro ar ôl tro am gael ei godi yn ei swydd fel iawndal am ei golledion (Calendar of State Papers, Domestic Series, 1660-1, 90, 249, 442; 1661-2, 169, 180; Hist. MSS. Comm., 2nd R., 87), eithr ni chafodd ddim ond swydd cyrnol ym milisia sir Ddinbych (21 Mawrth 1661). Yr oedd yn noddwr i'r bardd Huw Morys, a bleidiai'r brenin. Priododd Mary, gweddw'r esgob John Hanmer, eithr gan na fu etifedd o'r briodas, ad-unwyd ei stad, ar ei farw ef, â stad Clenennau, a gawsai WILLIAM OWEN (1624 - 1677), pan fu ei dad ef, Syr John Owen, farw. Buasai'r William hwn gyda'i dad yng ngwarchae Bryste; priododd Katherine Anwyl, Parc, Llanfrothen, sir Feirionnydd; a bu'n byw yn ystod yr ' Interregnum ' yn Llanddyn, stad Anwyliaid Parc. Ychwanegwyd at ddylanwad tiriogaethol y teulu yng Nghymru pan briododd ei fab ef, Syr ROBERT OWEN (1658 - 1698), â Margaret, cyd-aeres Owen Wynn, Glyn, Sir Feirionnydd. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Oriel, Rhydychen (ymaelodi ar 20 Ebrill 1674) ac yn yr Inner Temple (1677); cafodd ei wneuthur yn farchog yn 1678 (16 Gorffennaf). Yr oedd yn wleidyddwr pybyr, ac yn frwdfrydig o blaid y Goron ac ailsefydlu Eglwys Loegr; ar 1 Rhagfyr 1687 fe'i dewiswyd yn siryf Meirionnydd yn lle'r gwr a enwyd yn wreiddiol, John Jones, mab y ' regicide.' Bu'n cynrychioli sir Feirionnydd yn Senedd 1681 a Sir Gaernarfon yn Seneddau 1689-97. Cynigiodd godi milwyr dros Iago II yn erbyn William o Orange, fis Tachwedd 1688; ond yn y diwedd cymododd â'r Chwyldro. Er mai yn Sir Amwythig yr oedd yn byw gan amlaf, fe'i cysylltodd ei hun yn bur glos â Chymru; llanwai amryw swyddi lleol. Dilynodd ei hen-ewythr fel noddwr Huw Morys, a ganodd farwnad iddo yn 1698. Er gwaethaf cyfres o briodasau â theuluoedd Seisnig, ac i'r stadau fynd o'r diwedd yn eiddo Ormsby-Gore, a oedd o dras Seisnig a Gwyddelig, ni thorrwyd mo'r hen gysylltiad â Chymru, oblegid ceir y teulu weithiau'n cynrychioli etholaethau yn Sir Amwythig ac weithiau etholaethau Cymreig yn y Senedd hyd nes aeth i'r bendefigaeth yn 1876 o dan yr enw tiriogaethol Cymreig ' Harlech.'

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.