MAURICE, Syr WILLIAM (1542 - 1622), gwleidyddwr

Enw: William Maurice
Dyddiad geni: 1542
Dyddiad marw: 1622
Priod: Margaret Maurice (née Lacon)
Plentyn: William Wynn Maurice
Plentyn: Ellis Maurice
Rhiant: Ellen Puleston
Rhiant: Maurice ap Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidyddwr
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Arthur Herbert Dodd

mab hynaf Moris ap Elise (bu farw 1575), Clenennau, aelod o hen deulu yn Sir Gaernarfon a lwyddasai, yn ystod y ganrif flaenorol, i gasglu ynghyd y stad rydd-ddeiliadol ehangaf a mwyaf cryno yn ne Sir Gaernarfon - wedi ei chanoli yn nhy maenol Clenennau (a adeiladwyd c. 1550) ac yn ymestyn i sir Fôn a Sir Feirionnydd. Maurice oedd y cyntaf o'r teulu i fabwysiadu'r dull Seisnig o gymryd cyfenw. Treuliodd ef lawer iawn o'i oes yn yr ymdrech i ymestyn a chrynhoi a chadarnhau'r stad, a golygodd hyn iddo orfod cyfreithio yn fynych a'i gael ei hun mewn cythrwfl yn aml. Bu ei dair priodas o gymorth iddo yn y gwaith arbennig hwn. Daeth ei briodas gyntaf gyda Margaret Wyn Lacon (Lakyn, neu Lake) merch 14 oed ac aeres stad Porkington (Brogyntyn yn awr), â'r stad honno yn Sir Amwythig at yr un oedd ganddo eisoes. Yn ystod blynyddoedd diwethaf y frenhines Elisabeth yr oedd gweinyddiad gwladol a milwrol Sir Gaernarfon bron yn gyfan gwbl yn cael ei rannu rhwng teulu Gwydir a theulu Clenennau. Heblaw bod yn ddirprwy-raglaw, bu Maurice yn siryf sir Gaernarfon yn 1581-2 a Sir Feirionnydd yn 1605-6. Bu'n cynrychioli sir Gaernarfon yn Senedd 1593 a Biwmares yn Senedd 1601. Eithr ni wnaeth yr un argraff yno cyn Senedd gyntaf Iago I; yn honno bu'n siarad ac yn dadlau heb flino ac yn llefaru dros y blaid a oedd yn ffafrio uno â Sgotland o dan yr enw cyfunol - ' Teyrnas Prydain Fawr ', enw a apeliai ato ef fel Cymro gwladgarol. Yr oedd yn hawlio mai efe a awgrymodd i Iago fabwysiadu'r teitl cyn i'r Senedd gyfarfod (efallai pan wnaethpwyd ef yn farchog, fel ' Sir William Morris ' - ar 23 Gorffennaf 1603); y mae cyfeiriad chwareus ei chwaer ato fel ' tad bedydd y brenin ' wedi cael ei gymryd yn rhy lythrennol, gan nad oes dim tystiolaeth ei fod yn mwynhau cyfeillgarwch y brenin. Yr oedd yn wrthwynebus i'r monopoli a oedd gan y ' Shrewsbury Drapers ' yng ngwerthu brethynnau a wneid yng Nghymru, eithr yr oedd o blaid hawliau'r confocasiwn, awdurdod cyfreithiol cyngor y goror yn Llwydlo, a hawl y brenin i gael rhoddion o fwyd a'i groesawu'n ddigost ac i gael rhoddion ariannol hael gan y Senedd. Er mai ychydig addysg ffurfiol a gawsai yr oedd wedi darllen llawer o weithiau ar ddiwinyddiaeth, y gyfraith, a gwleidyddiaeth - fel y gwelir oddi wrth y cyfrolau a fu yn ei lyfrgell. Yr oedd yn Eglwyswr Anglicanaidd pybyr ac yn Frenhinwr; credai ef y gellid sicrhau delfrydau cenedlaethol Cymru trwy bartneriaeth â phobl eraill Prydain; sonia'r bardd Richard Owen yn ddeheuig amdano wrth ei alw yn ' penn plaid brytaniaid.' Coffeir ei farw (ar 10 Awst 1622) ar garreg fedd yn eglwys Penmorfa, ond bod yr arysgrif arni bron wedi diflannu erbyn hyn. Yr aeres a oroesodd oedd Elin, Lady (Francis) Eure (1578 - 1626), merch ei fab hynaf, William Wyn Maurice, a gweddw John Owen, Bodsilin, sir Fôn, ysgrifennydd Syr Francis Walsingham; hyhi oedd mam Syr John Owen (1600 - 1666), aer Clenennau, a William Owen (1607 - 1670), aer Porkington. Ceir yng ngyrfa y ddeufrawd enghreifftiau o draddodiadau gwleiddydol eu hendaid.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.