Ymdrinir â Sŷr William Maurice a'r cyrnol Syr John Owen ar wahân; yma cymerir brasolwg ar y teulu yn gyffredinol. Medd Syr John Wynn, yn ei The history of the Gwydir family , 'You are to understand, that in Evioneth there were two sects or kindred, the one lineally decended of Owen Gwynedd, Prince of Wales, consisting then and now of four houses, viz. Keselgyfarch, y Llys ynghefn y fann, now called Ystymkegid, Clenenny, and Brynkir, Glasfryn or Cwmstrallyn; the other sect descended of Collwyn [ap Tangno], wherof are five houses or more, viz Whelog, Berkin, Bron y foel, Gwnfryn, Talhenbont, and the house of Hugh Gwyn ap John Wynne ap William, called Pennardd, all descended of their common ancestor, Ievan ap Einion ap Griffith.'
Priododd MORRIS (neu MAURICE), mab hynaf JOHN AP MEREDYDD, Eifionydd, Angharad, ferch Ellis ap Griffith ab Einion, a chael ohoni wyth o blant; yn eu plith yr oedd William Lloyd ap Maurice, cyndad teulu Lloyd, Rhiwedog, gerllaw y Bala, Ellis ap Maurice (isod), Margaret, gwraig Meredydd ab Ievan ap Robert, Gwydir, ac Ellen, a ddaeth yn wraig John Wynn ap Meredydd, Gwydir, siryf sir Gaernarfon yn 1544-5. Gwraig gyntaf ELLIS AP MAURICE, neu ELISA MORRIS (bu farw 1571 yn 78 oed) oedd Catherine, ferch Piers Stanley, siryf Meirionnydd o 1485 hyd 1509; hyhi oedd mam MAURICE AP ELLIS (bu farw 18 Hydref 1575, yn 58 oed). Trwy ei ail wraig, Jonet, ferch Syr James Owen, Pentre Evan, Sir Benfro, cafodd Ellis ap Maurice (1) fab o'r enw James Maurice (yn fyw yn 1595), rheithor Llandwrog, Sir Gaernarfon, a Llanfwrog, sir Ddinbych, a changhellor Peterborough; (2) merch o'r enw Catherine, a briododd Robert Wynn ap John, Glyn(cywarch), Sir Feirionnydd; a (3) Mary, gwraig Morris ap Robert, Llangedwyn.
Mab hynaf Maurice ap Ellis a'i wraig (Ellen, ferch Syr John Puleston) oedd Syr William Maurice (1542 - 1622), a gymerodd yn wraig gyntaf, Margaret, ferch ac aeres John Wynn Lacon, Porkington (a elwir Brogyntyn yn awr), a Llanddyn, ac un o blant y briodas honno oedd y capten ELLIS MAURICE (1568 - ?), a fu'n ymladd dros y frenhines Elisabeth yn Iwerddon; aeres Ellis Maurice oedd Margaret, a briododd (1) John Jones, Wern, Penmorfa - gweler teulu Wynne, Peniarth, a (2) Ellis Anwyl, Parkie, Sir Gaernarfon.
Dilynwyd Sir William Maurice yng Nghlenennau gan ei ŵyres, ELLIN MAURICE (1578 - 1626), aeres Clenennau, Porkington, a Llanddyn, merch William Wynn Maurice (a fu farw yn 1568, sef o flaen ei dad, Sir William Maurice; gwraig W. W. Maurice oedd Mary, ferch John Lewis, Chwaen, sir Fôn). Bu Ellin yn briod ddwywaith - (1) â John Owen, ysgrifennydd Syr Francis Walsingham a mab Owen ap Robert, Bodsilin, Sir Gaernarfon, a (2), â Sir Francis Eure (bu farw 1621), prif farnwr cylchdaith gogledd Cymru. Trwy ei gŵr cyntaf, yr oedd yn fam i dri mab a phum merch. Y tri mab oedd y cyrnol Syr John Owen (bu farw 1666), y cyrnol WILLIAM OWEN (bu farw Hydref 1670, claddwyd yn Sylatyn, 11 Hydref 1670), Porkington, a fu'n amddiffyn castell Harlech dros y brenin Siarl I, a Maurice Owen, a gafodd diroedd yn sir Fôn gan ei fam. Aer y cyrnol John Owen oedd WILLIAM OWEN (claddwyd 30 Ionawr 1667/8), a briododd Catherine, unig blentyn Lewis Anwyl, Park, Llanfrothen, a gadael Syr ROBERT OWEN (1658 - 1698), Clenennau, Porkington, a Llanddyn, yn aer. Bu Syr Robert Owen yn aelod seneddol Meirionnydd o 1681 hyd 1685 ac yr oedd yn aelod dros sir Gaernarfon adeg ei farw. Ei wraig ef oedd MARGARET, merch hynaf ac aeres Owen Wynne, Glyn (Cywarch), Sir Feirionnydd. Am fraslun o hanes aelodau diweddarach y teulu, sef disgynyddion Syr Robert a Lady Owen, gweler yr erthygl ar Wynne ac Owen (Teuluoedd), Glyn (Cywarch) a Brogyntyn. Eglurir yn y gwaith gan T. Jones Pierce a enwir isod sut y tyfodd stad a theulu Clenennau i bwysigrwydd mawr yn Sir Gaernarfon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.