Y mae Anwyliaid y Parc, Llanfrothen, yn disgyn o Robert ap Morris, Park (bu farw 1576), pedwerydd mab y Morris ap John ap Meredydd, Rhiwaedog, y ceir ei hanes yn llyfr Syr John Wynn, The history of the Gwydir family . Cymerodd meibion iau Robert ap Morris y cyfenw Roberts, e.e. John Roberts, Vaner, gerllaw Dolgellau, oedd tad David Roberts, rheithor Llanbedrog, caplan i iarll Warwick, eithr glynodd disgynyddion Lewis Anwyl (bu farw 1605) wrth y cyfenw teuluol.
Yr oedd WILLIAM LEWIS ANWYL (bu farw 1642) yn ynad heddwch ac yn ddirprwy raglaw ei sir; bu'n siryf Meirionnydd yn 1610, ac yr oedd yn flaenllaw mewn materion cyhoeddus. Prynodd Llwyn, Dolgellau, ailadeiladodd Parc, ac ychwanegodd yn ddirfawr at ei ystad trwy briodi Elizabeth Herbert, aeres o Sir Drefaldwyn, ac at ei ddylanwad ei hun trwy drefnu i'r rhan fwyaf o'i blant briodi aerod neu aeresau teuluoedd cymdogion iddo. Bu LEWIS ANWYL, mab hynaf y briodas, farw yn 1641 yn ystod y flwyddyn yr oedd yn siryf gan adael unig ferch, CATHERINE, a briododd William Owen, Brogyntyn, gerllaw Croesoswallt.
Parhawyd gwaith y tad gan RICHARD ANWYL, y mab ieuengaf. Bu ef yn siryf Meirionnydd yn 1658 a 1659; enwyd ef yn un o'r rhai a oedd i gael eu gwneuthur yn 'Knights of the Royal Oak'; bu'n ddirprwy raglaw sir Feirionnydd, eithr bu farw yn ddi-blant yn Llwyn yn 1685. Bu ROBERT ANWYL, ail fab Lewis Anwyl, yn arwain Prynne ar fordaith beryglus o Gaernarfon i ynys Jersey yn 1637; dirwywyd ef i'r swm o £1,200 am ei deyrngarwch yn rhoddi benthyg £300 i Siarl I yn ystod y Rhyfel Cartrefol; bu'n siryf Meirionnydd yn 1650. Pan fu farw yn 1653 gadawodd ddau fab ieuanc - LEWIS ac OWEN, a oroeswyd gan eu mam, KATHERINE ANWYL, gwraig o gymeriad cryf a noddwr i lenyddiaeth Cymru. Bu LEWIS farw yn 1678 ac OWEN yn 1695; yr oedd Owen yn ynad heddwch ac yn byw yn Plasnewydd, plwyf Llanfrothen. Bu ei mam farw yn Marl yn 1700.
Unig fab Lewis Anwyl, a fu farw yn 1678 (yr olaf o'r llinach), oedd WILLIAM LEWIS ANWYL, Cemmes Bychan, Sir Drefaldwyn. Yr oedd yn siryf Meirionnydd; bu farw yn King Street, Westmister, ym mis Chwefror 1700/1, yn ddi-blant, a chladdwyd ef yn abaty Westminster. Ychydig ddyddiau cyn marw newidiodd atodiad a ychwanegasai yn ei ewyllys; trwy'r atodiad hwn yr oedd wedi trefnu i'w ystad yn Sir Drefaldwyn fyned i Catherine, merch Owen Anwyl a gweddw Syr Griffith Williams, barwnig, Marl, eithr yn ôl y trefniant newydd a wnaethpwyd gandd'o yr oedd i fyned i'w gefndyr, Oweniaid Porkington (Brogyntyn yn awr), a blwydd-dâl o £100 dros byth i'w dalu i Anwyliaid Bodtalog, Tywyn, Meirionnydd, ei etifeddion yn ôl y gyfraith. Bu'r ewyllys hon yn achos cyfreithio am flynyddoedd lawer; o'r diwedd daeth yr eiddo i feddiant teulu Williams y Marl a theulu Oweniaid Brogyntyn a Glyn. Buwyd yn codi arian ar Parc a Llwyn yn 1748, a gwerthwyd hwynt yn gynnar wedi 1761.
Gwisgai'r Anwyliaid arfbais Owain Gwynedd - 'Vent, three eagles displayed in fess Or.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.