LLOYD (TEULU), Rhiwaedog (Rhiwedog), plwyf Llanfor, Sir Feirionnydd.

Er mai yn ail hanner y 17eg ganrif y cymerth Plas Rhiwaedog y ffurf y gwelir ef ynddo heddiw (1664?; gweler y plan yn Merioneth Inventory o dan rif 364; dangosir ei safle o dan yr enw ' Ruedok ' ym map John Speed, 1610), y mae tystiolaeth bod teulu'r Llwydiaid yn y fangre honno rai canrifoedd cyn hynny. Dywed J. Y. W. Lloyd (Archæologia Cambrensis, IV, v, 198) i'r teulu ddyfod i feddiant o Riwaedog trwy briodas eu cyndad MEREDYDD AB IEUAN AP MEREDYDD gyda MARGARET, merch hynaf a chyd-aeres EINION AB ITHEL, o Riwaedog, ' Esquire of the Body of John of Gaunt,' dug Lancaster, yn 1395 a siryf Meirionnydd. Mab oedd Einion (medd Lloyd) i ITHEL AP GWRGENEU FYCHAN AP GWRGENEU AP MADOG AP RHIRYD FLAIDD.

Pan aeth Lewys Dwnn i Riwaedog ar 1 Awst 1592, yn rhinwedd ei swydd fel dirprwy-herodr, rhoddwyd copi o ach y teulu iddo gan ELISE ap WILLIAM LLOYD, a fu'n siryf Meirionnydd yn 1565. Y mae'r ach honno (Visitations, ii, 225-6; gweler hefyd y nodiadau gan W. W. E. Wynne) yn olrhain y teulu trwy Owain Gwynedd a Llywarch Hen hyd at Goel Godebog. Rhydd J. E. Griffith (Pedigrees, 234) ddisgyniadau'r teulu o Owain Gwynedd hyd y flwyddyn 1832; dengys hefyd (ibid., 383) y cysylltiad rhwng disgynyddion Simon Lloyd, Plasyndre, Bala (brawd y John Lloyd, Rhiwaedog, a fu farw yn 1724), a phrif gangen y teulu. Darfu'r brif gangen honno yn hanner cyntaf y 19eg ganrif pan fu tri aer (yn olynol) farw yn ddiblant, sef (a) WILLIAM LLOYD DOLBEN, a ddilynwyd gan ddwy chwaer a oedd yn gyfnitherod iddo, sef (b) MARTHA ILES (bu farw 1825) a (c) ANN SOPHIA MARIA ILES, a adawodd yr eiddo, pan fu farw yn 1832, i Frances (Lloyd), merch John Lloyd, Berth a Rhagad, a gwraig Richard Watkin Price, Rhiwlas, plwyf Llanfor (gweler Price, Rhiwlas).

Yn ystod y canrifoedd bu amryw o'r Llwydlaid yn siryfion Meirionnydd. Y cyntaf i lanw'r swydd, efallai, oedd EINION (EIGNION) AB ITHEL AP GWRGENEU (uchod), un o wasanaethyddion personol John of Gaunt; bu ef farw yn ystod 1399-1400 pan oedd yn dal y swydd o siryf. Y nesaf, y mae'n debyg, ydyw ELISE AP WILLIAM LLOYD (uchod), a fu'n siryf yn 1564-5. Bu JOHN LLOYD yn siryf yn 1615-6; efallai mai'r un ydoedd ef â'r JOHN LLOYD a lanwodd y swydd yn 1636. LEWIS LLOYD oedd siryf 1652-3; yr un ydoedd yntau, efallai, â LEWIS LLOYD, siryf 1665-6. Bu JOHN LLOYD yn siryf 1704-5 a JOHN LLOYD arall (yr un a'r unrhyw?) yn 1715-6. JOHN LLOYD, Fachddeiliog, oedd siryf 1738, eithr WILLIAM LLOYD, Rhiwaedog, oedd siryf tymor 1764-5; bu'r olaf farw yn 1774 a'i ddilyn yn Rhiwaedog gan ei nai, WILLIAM LLOYD DOLBEN, mab ei chwaer (Susan Dolben). Dywed W. W. E. Wynne (E. Breese, Kalendars of Gwynedd) fod siryf 1831-2, sef Hugh Lloyd, Caer a Chefnbodig, yn disgyn yn uniongyrchol o hen deulu Rhiwaedog. Nai i Hugh Lloyd, sef George Price Lloyd, Plasyndre, Bala, oedd siryf 1840-1 a nai iddo yntau oedd siryf 1887-8, sef Edward Evans-Lloyd, Moelygarnedd, gerllaw'r Bala. Siryf 1939-40 oedd Arthur Campbell Jones-Lloyd, Moelygarnedd a Chaer.

Fel y dywedwyd, yr oedd Llywarch Hen yn un o gyndadau'r Llwydiaid yn ôl yr achau (ac fel yr edrydd y traddodiad lleol). I'r achwyr a'r beirdd a oedd yn clera - a dylid cofio bod y rhan fwyaf o'r beirdd yn achyddion - bardd oedd Llywarch Hen. Bellach dangosodd Syr Ifor Williams (Canu Llywarch Hen, 1935) nad bardd mohono eithr pennaeth a ddaeth yn destun 'saga' - amdano ef a'i hanes y gwewyd y canu a briodolid iddo gynt. Eithr i'r beirdd a'r achwyr a enwir isod yr oedd Llywarch Hen yn fardd. Ai tybed fod hyn yn cyfrif i raddau helaeth, er nad yn gyfan gwbl wrth gwrs, am y noddi eithriadol a fu ar feirdd yn Rhiwaedog am tua thri chan mlynedd - yn arbennig yn y 16eg a'r 17eg ganrif ? Rhydd Griffith Roberts ('Gwrtheyrn') yn nwy o'i lawysgrifau (NLW MS 7411C a NLW MS 7421B ) enwau llawer o'r beirdd a gyrchai i Riwaedog - Gruffudd Hiraethog, Tudur Aled, Sion Ceri, Bedo Hafhesp, Siôn Phylip, Richard Phylip, Richard Cynwal, Wiliam Cynwal, Rhys Cain - y mae rhôl achau Rhiwaedog a luniodd Rhys Cain yn 1610 yn cael ei chadw yn Rhiwlas yn awr - Wiliam Llŷn, Siôn Tudur, Simwnt Fychan, Tomos Prys, Huw Arwystli, Lewis Dwnn, Lewis Môn, Lewis Menai, ac Owain Gwynedd - heblaw beirdd llai adnabyddus. (Gweler yn yr erthygl ar ' Phylipiaid Ardudwy ' yn Cymm. xlii gyfeiriad at yr 'ymryson' rhwng Richard Phylip a Richard Cynwal ar fater ' bardd teulu ' Rhiwaedog.) Er nad oedd y Dr. John Davies o Fallwyd yn glerwr, bu iddo yntau hefyd ganu i'r teulu. Ac ni ddarfu mo'r traddodiad yn llwyr hyd yn oed yn y 18fed ganrif, oblegid pan fu farw William Lloyd, Rhiwaedog, yn 1774, canodd ei gymydog, Robert William, Pandy Rhiwaedog, farwnad ar ei ôl (NLW MS 595D ).

Ni enwyd Rowland Vaughan, Caergai, gyda'r beirdd uchod, serch iddo yntau ganu i un aelod o'r teulu. Eithr ffaith bwysicach o lawer ydyw i Rowland Vaughan gyflwyno ei waith mwyaf adnabyddus, Yr Ymarfer o Dduwioldeb - sef cyfieithiad o The Practice of Piety gan Lewes Bayly, esgob Bangor - ' I'r Annwyl Vrddasol Wraig: Margred, vnig etifeddes Syr John Lloyd marchog a Sersiant or gyfraith a chywely John Lloyd o Riwaedog.' Yn 1630 y cyhoeddwyd argraffiad cyntaf Yr Ymarfer o Dduwioldeb, gwaith y cafwyd chwech argraffiad ohono wedi hynny - a'r diwethaf oll yn 1930. A mwy diddorol hyd yn oed na'r cyflwyniad ydyw'r ffaith mai ar gais Margaret Lloyd y gwnaeth Rowland Vaughan y cyfieithiad; yn nechrau ei gyflwyniad dywaid Vaughan : ' …ni allwn lai na gwneuthur fy ngorau ar gyflawni eich dymuniad: sef, cyfieithu y llyfr hwn yn y dafodiaith arferedig i ni ym mro wynedd … i dalu diolch i chwi am eich aml ddaioni ach boneddigeidd-dra tu ag attaf fi am heiddo.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.