Mab hynaf Dr. Elis Prys, Plas Iolyn, sir Ddinbych. Ni wyddys pa flwyddyn y ganed ef, ond claddwyd ef yn Ysbyty Ifan, 23 Awst 1634, ac yn ôl ei gywyddau yr oedd yn hen ŵr pan fu farw. Ganwyd ef yn nechrau teyrnasiad Elisabeth, a chymerth ran yn rhyfeloedd ac anturiaethau ei hoes hi. Bu'n briod ddwy waith; ei wraig gyntaf ydoedd Margaret, merch William Gruffydd o Gaernarfon, a'i ail wraig oedd Jane, merch Hugh Gwynn, o'r Berth-ddu a Bodysgallen. Bu iddo dri o blant o'r wraig gyntaf a 10 o'r ail wraig.
Wedi marw ei dad daliai Thomas Prys faenor Ysbyty Ifan, sir Ddinbych, a'r bywiolaethau a gawsai gan ei dad, Elis Prys; bu yn siryf sir Ddinbych yn 1599. Bu'n ymladd yn rhyfeloedd yr Iseldiroedd yn niwedd yr 16eg ganrif o dan Syr Robert Dudley, iarll Leicester. Yr oedd gyda'r iarll hefyd yn Tilbury yn y fyddin a wrthwynebai'r Armada yn 1588. Bu'n ymladd lawer o amser ar y môr fel môr-leidr, a rhywbryd tua diwedd y 16eg ganrif prynodd long ac aeth i ysbeilio ar arfordir Ysbaen, a dyry'r hanes mewn ' Cywydd i ddangos yr hildring a fu i ŵr pan oedd ar y môr. ' Yma edrydd yn ddoniol yr helynt a ddigwyddodd iddo ar ei hynt i'r Ysbaen, ac ar ei ddiwedd addunedodd nad âi byth mwy ar y fath hynt: ' Before I will, pill or part, Buy a ship I'll be a shepart.' Ceir hanes ei fordeithiau yn ei gywyddau at Pyrs Gruffydd o'r Penrhyn, ger Bangor, a fu ar yr un gwaith. Rywbryd tua diwedd oes Elizabeth, bu Thomas Prys yn aros yn Enlli er mwyn hwyluso'i waith fel môr-leidr; ond wedi marw ei dad, cartrefodd ym Mhlas Iolyn. Treuliai lawer o amser yn Llundain, a cheir disgrifiadau byw o fywyd y brifddinas yn ei gywyddau, e.e. ' Cywydd i ddangos mai Uffern yw Llundain.' Gwariodd lawer yno ar ymgyfreithio a bywyd ofer.
Yn ei oes, yr oedd yn fardd o fri, a cheir ei weithiau yn B.M. Add. MS. 14872 (yn ei lawysgrifen ei hun, efallai); ceir llawer hefyd yn MSS. Peniarth, Mostyn, a Cefn Coch. Ar destunau traddodiadol y beirdd y canai; a cheir ganddo lawer o ganu serch a natur. Canodd lawer o gywyddau i ' Eiddig,' a bu ymryson brwd rhyngddo ef ac Edmwnd Prys a phrydyddion eraill 'ynghylch Eiddig.' Bu ymryson rhyngddo â dau fardd arall hefyd, sef ei gyfyrder Rhys Wyn o'r Giler a Rhys Cain. Nid oes fawr o werth llenyddol yn y rhain, ond ceir peth goleuni ynddynt ar ei fywyd ac ar dueddiadau a nodweddiadau ei oes. Yn ei farwnadau y ceir ei farddoniaeth orau. Ymysg y goreuon, y mae marwnadau i'w ddau fab Elis a Hanibol Prys, a hefyd i'w hen gyfaill Pyrs Gruffydd o'r Penrhyn. Yn rheswm dros ei iaith wallus a'i ddefnydd o gymaint o eiriau Saesneg dywed Lewis Morris : ' His uncorrectness and carelessness in writing must be attributed to his military and wandering life in his younger years.'
Yn ôl ei ewyllys, gan i'w fab hynaf, Thomas, briodi heb ganiatâd ei dad, dietifeddodd ef, a rhoddodd faenor Ysbyty Ifan i Robert, ei fab hynaf o'r ail wraig; rhannodd weddill ei stad rhwng ei dri mab arall o'r ail wraig, sef Peter, John, a William.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.