Mab hynaf Morris ap Rhisiart Morris (Morris Prichard), a brawd i Richard, William, a John Morris (gweler yr ysgrifau arnynt); ganwyd yn 1701 (bedyddiwyd 2 Mawrth 1700/1) ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r Beirdd. Fel ei frodyr, dysgodd grefft ei dad; gellid tybied wrth ei eiriau ef ei hunan na chafodd nemor ysgol, ond gellir hefyd amau a oedd hyn yn llythrennol wir, o gofio ei gyraeddiadau. Yn ei ugeiniau, ac yntau eto'n byw gyda'i rieni ym Mhentrerianell, yr oedd ganddo fusnes mesurwr tir, a chafodd waith gan deulu Bodorgan (gweler yr ysgrif ar Meyrick o Fodorgan) - bu'r cyswllt hwn yn fanteisiol iawn iddo ef ac i'w frodyr. Yn 1729, penodwyd ef yn 'chwiliwr' i'r dollfa ym mhorthladdoedd Biwmares a Chaergybi, a daliodd y swydd honno hyd 1743, eto heb ollwng ei fusnes fel mesurwr tir. Trwy ddylanwad teulu Bodorgan ar Thomas Corbett, o swyddfa'r llynges, cyflogwyd ef, mor gynnar â 1737, i wneuthur 'survey' o rai o borthladdoedd Cymru, a serch i'r cynllun hwn gael ei roi o'r neilltu am ysbaid, ailgydiwyd ynddo yn 1741 - yn 1748 y cyhoeddwyd y Plans of Harbours, Bays and Roads in St. George's and the Bristol Channels (cyhoeddodd ei fab William, a nodir isod, ail argraffiad yn 1801). Yn y cyfamser yr oedd Lewis Morris wedi symud (erbyn 1742, meddai William ei frawd) i Geredigion, i chwilio am blwm, ac ni ddychwelodd i Fôn mwyach. Yn 1746, pan benodwyd William Corbett (brawd y Thomas Corbett uchod) yn stiward maenorydd y Goron yng Ngheredigion - yr oedd Lewis Morris eisoes yn 1744 wedi gwneuthur 'survey' o gwmwd Perfedd, un o'r maenorydd hyn - penodwyd Lewis Morris yntau'n ddirprwy-stiward, ac ar yr un pryd yn gasglydd y doll yn Aberdyfi. Ni chafodd heddwch o hynny hyd ei fedd. Heriai ysweiniaid Ceredigion hawl y Goron ar y mwyn plwm, ac wrth raid, ar Lewis Morris, swyddog lleol y Goron, y disgynnai eu llid - unwaith (1753) llwyddasant am amser byr i'w fwrw i'r carchar yn Aberteifi. Cynnil iawn hefyd oedd y cymorth a gafodd gan yr awdurdodau yn Llundain, yn herwydd croesddylanwadau gwleidyddol ar y rheini; yr oedd yntau'n eu tramgwyddo gan ohirio anfon ei gyfrifon i mewn yn brydlon, a hawlient ei fod felly'n drwm yn eu dyled. Ar ben hyn, yr oedd â'i fys mewn anturion preifat yn y gwaith plwm - hollol gyfreithlon, ond eto'n ymyrryd i raddau â'i waith swyddogol. Rhwng popeth, yr oedd beunydd mewn helbulon. Bu'n rhaid iddo fynd bedair gwaith (1753, 1754, 1755, 1756-8) i Lundain i achub ei gam; collodd ei swydd yn Aberdyfi (1756); a bu mewn perygl mawr o orfod 'ad-dalu' symiau mawrion. Gwastatawyd yr ymryson yn 1760, a gwnaethpwyd yntau'n ustus heddwch yng Ngheredigion, ond yn ddiddadl fe gollodd lawer iawn o arian, ac nid rhy lwyddiannus fu ei ymdrechion o hynny ymlaen i'w ddigolledu ei hunan drwy gloddio am blwm ar ei gyfrifoldeb personol, serch iddo wario llawer o arian ei wraig yn yr ymdrechion hynny. Honnir weithiau iddo farw'n dlawd; ond yn ei eiriau ef ei hunan 'nid oedd mewn angen, nac ychwaith mewn esmwythyd' yn niwedd ei oes - gwir mai rhyw £66 oedd yr amcangyfrif o'i eiddo personol pan fu farw, ond yr oedd gan ei wraig stad fechan, a gall hefyd fod rhyw gymaint o elw i'w ddisgwyl oddi wrth ei anturiaethau yn y plwm. Eto i gyd, ni ddeil hyn ar y gorau mo'i gymharu â'r dyddiau pan oedd ef (chwedl ei frawd Richard) 'yn rhowlio mewn arian, fesur sacheidiau o filoedd o bunnoedd.' Bu farw 11 Ebrill 1765, o'r parlys ac anhwylderau eraill, a chladdwyd yn eglwys ei blwyf, Llanbadarn-fawr. Dyn tywyll ei bryd (fel yr awgryma ei lysenw) oedd 'Llewelyn Ddu' - dyn tal, lysti, gwritgoch, heini i'r olwg allanol, ond er hynny'n cwyno beunydd (fel ei frodyr) dan yr asthma a'r gowt a'r pruddglwyf. Ni ellir chwaith mo'i alw'n ddyn dymunol - yr oedd yn falch, yn sgornllyd, yn ymffrostgar, yn oriog, ac yn afrywiog ei dymer.
Serch hyn oll, yr oedd yn Gymro eithriadol wlatgar, ac yn un o gymwynaswyr pennaf ei genedl. Er inni gofio ei eiriau bustlaidd am Oronwy Owen (a sgrifennwyd mewn fflam o ddicter nad oedd yn gwbl ddi-achos), bu mewn gwirionedd yn gefn ymroddgar i lenorion yng Nghymru ar hyd ei oes, pa faint bynnag a laddai arnynt - dengys ei lythyrau atynt y gofal (a'r amynedd yn wir) a wariodd ar eu cynghori ac ar ddiwygio eu gwaith. Dywedir yn fynych ei fod ef a'i frodyr yn dirmygu'r 'canu rhydd,' ond camddeall yw hynny - gwir fod y Morysiaid yn ystyried y canu hwnnw'n is ei radd na'r 'canu caeth,' ond ynddo'i hunan yr oedd yn hollol gymeradwy ganddynt. Yn wir, yr oedd Lewis Morris o flaen ei oes yn ei werthfawrogiad o'r 'penillion telyn,' ac yn ddigri ddigon, y darn o'i waith ef ei hunan sy'n fwyaf adnabyddus heddiw yw ' Caniad y Gog i Feirionydd.' Serch hynny, yr hen ganu cynganeddol oedd agosaf at ei galon (mor fore â 1720 yr oedd yn cywydda), a'i ymdrech lwyddiannus ef a'i 'ysgol' i roi bywyd newydd i hwnnw fu ei gyfraniad pennaf i'n llenyddiaeth fel y cyfryw. A chyda'r diddordeb hwn yn yr hen brydyddiaeth, cydredai diddordeb yn yr iaith ei hunan, ac yn hynafiaethau'r genedl. Ei ddau arwr ym maes gramadeg a geirfa'r Gymraeg oedd John Davies o Fallwyd ac Edward Lhuyd a'i freuddwyd oedd helaethu a diwygio gwaith John Davies, a orffwysai (fel y dywedodd Lewis Morris yn hollol gyfiawn yn 1761) ar sylfaen ry gyfyng o adnabyddiaeth o'r hen farddoniaeth, am na allai'r Dr. Davies gael hyd i ddigon o lawysgrifau. Casgler llawysgrifau, felly (neu wneud copïau ohonynt), a thynner y geiriau a'u hystyron, y ffurfiau a'r cystrawennau, allan o'r rheini. Gyda'i ddirmyg plwyfol o Ddeheuwyr, ni roes Lewis Morris gwbl chwarae teg i ymdrechion Moses Williams a William Gambold a Thomas Richards (gweler yr ysgrifau arnynt) - dylid er hynny nodi iddo ef a'i frodyr roi pob help i Richards i ddwyn allan ei eiriadur. Y mae'n berffaith sicr mai Lewis Morris, erbyn canol y 18fed ganrif, oedd yr awdurdod pennaf ar yr iaith Gymraeg, a chydnabyddid hynny gan bawb, yng Nghymru ac o'r tu allan iddi.
Boddwyd geiriadur arfaethedig Lewis Morris ym môr ei helbulon. Felly hefyd am waith arall o'i eiddo, sef geiriadur o enwau lleoedd yng Nghymru, a alwai ef yn Celtic Remains. Fe orffennwyd hwn, mae'n wir, yn 1757, ond nid oedd gan y Cymmrodorion ddigon o arian i'w gyhoeddi; ni chyhoeddwyd mo'r rhan gyntaf ohono cyn 1878, gan D. Silvan Evans, ac erys yr ail ran mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol - ar y mater hwn, gweler G. J. Williams yn atodiad 1943 i Gylchgrawn y Llyfrgell, 30-2. Methiant, drachefn, fu antur fore ganddo i gyhoeddi o'i wasg breifat (arni hi, gweler Ifano Jones, Printing and Printers in Wales) ddetholion o'r hen bethau - ni ddaeth ond un rhifyn allan, Tlysau o'r Hen Oesoedd , 1735. Pan sefydlodd ei frawd Richard yn 1751 Gymdeithas y Cymmrodorion, tybiai Lewis y datblygai'r gymdeithas honno'n 'academi' Gymreig, debyg i'r 'Academi Ffrengig' neu'r 'Royal Society,' a lluniodd restr faith (a welir yng Ngosodedigaethau'r Gymdeithas) o bynciau ymchwil i'r Cymmrodorion weithio arnynt. Ar waethaf y siom a gafodd yng nghyfarfoydd y gymdeithas (yn ystod yr ymweliadau â Llundain y cyfeiriwyd atynt), daliodd i anfon cynhyrchion dysgedig i Richard, i'w darllen yn y cyfarfodydd. Ond nid ar y llinellau uchelgeisiol hyn y datblygodd gweithgareddau'r Cymmrodorion. Rhwng popeth, ar wahân i'r Tlysau, y Plans, a'r Short History of the Manor of Creuthyn [sic] yn 1756, ni chyhoeddwyd yn ystod bywyd Lewis Morris ddim o'i waith ond y brydyddiaeth ganddo sydd yn Diddanwch teuluaidd 1763, Hugh Jones o Langwm. Y mae cyfrolau lawer o'i lawysgrifau yn yr Amgueddfa Brydeinig ac yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Bu Lewis Morris yn briod ddwywaith. Yn 1729 priododd eneth ifanc o'r enw Elizabeth Griffiths o Dy-wriddyn, Rhoscolyn, a fu farw cyn 1741. O'u tri plentyn, bu'r ddwy ferch fyw ar ôl 1745, sef Margaret (1731 - 1761), a briododd yn annosbarthus ac a fu farw'n adfydus, ac Ellen (1732 - 1823), a briododd ddwywaith ac a gafodd wyth o blant o'i phriodas gyntaf a phedwar o'r ail. Ar 20 Hydref 1749 cymerth Lewis Morris (a oedd ar y pryd yn byw yng Ngallt Fadog gerllaw Aberystwyth) ail wraig, Anne Lloyd, aeres stad fechan Penbryn yn nyffryn Melindwr (Goginan); yn 1757 symudasant i Benbryn, ac yno y bu ef farw. Y mae gwahanol farnau ynghylch Anne Morris; dygymyddai'n dda â Richard a William Morris, ond y mae beirniadaeth eu nai John Owen arni'n ddeifiol - a bu raid iddo ef fyw dan yr unto â hi. Ganed 10 o blant o'r ail briodas (bu chwech ohonynt fyw ar ôl eu tad), ac wrth raid nid ysgafnodd hyn feichiau Lewis Morris yn ei flynyddoedd diwethaf. Yr unig un o'r plant y mae'n rhaid ei enwi yw'r pedwerydd mab, WILLIAM MORRIS (1758 - 1808), a briododd aeres Blaen-nant, Llanfeigan, Brycheiniog, ac a gladdwyd yno (Theophilus Jones, History of the County of Brecknock (3ydd arg.), iv, 31) - hwn a ailgyhoeddodd Plans of Harbours ei dad. Mab iddo ef oedd Lewis Edward William Morris (1797 - 1872), cyfreithiwr yng Nghaerfyrddin; a mab i hwnnw oedd y bardd Syr Lewis Morris. Yn 1772, daeth gweddw Lewis Morris yn ail wraig i William Jones o'r Gwynfryn yn Llancynfelin - disgynnydd o'i briodas gyntaf ef oedd yr hynafiaethydd William Basil Jones, esgob Tyddewi. Bu hi farw yn 1785.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.