Mab William Tilsley Jones o'r Gwynfryn, Llangynfelyn, Sir Aberteifi, a Jane ei wraig; ganwyd yn Cheltenham, 2 Ionawr 1822. Cafodd ei addysg yn ysgol Amwythig a Choleg y Drindod, Rhydychen, lle y bu'n ysgolor, 1840-5; enillodd un o brif wobrau clasurol y brifysgol a graddio'n B.A. yn 1844 â chlod yn yr ail ddosbarth yn y clasuron. Cymerodd ei M.A. yn 1847, bu'n gymrawd o Goleg y Frenhines ac yna o Goleg University, a chwarae rhan amlwg yng ngwaith academig y brifysgol.
Urddwyd ef yn ddiacon yn 1848 ac yn offeiriad yn 1853; dilynodd ei gyfaill yr archesgob William Thomson i esgobaeth Caer Efrog yn 1865, a bu ganddo amryw swyddi eglwysig yno. Ar ôl treulio saith mlynedd (1867-74) yn archddiacon Caer Efrog, dyrchafwyd ef yn esgob Tyddewi yn 1874, a daliodd y swydd hyd ei farwolaeth yn Abergwili, 14 Ionawr 1897. Priododd, (1), 10 Medi 1856, Frances Charlotte, merch y Parch. Samuel Holworthy; bu hi farw'n ddiblant 21 Medi 1881; (2), 2 Rhagfyr 1886, Anne, merch G. H. Loxdale, Aigburth, ger Lerpwl. Gadawodd hi'n weddw a mab a dwy ferch. Claddwyd ef ym meddrod y teulu yn Llangynfelyn.
Parhaodd yn Nhyddewi y gwaith a gychwynnwyd gan ei ddau ragflaenydd, Thomas Burgess a Connop Thirlwall, a'i ddatblygu. Dyrchafodd safon gwaith yr esgobaeth, yn ysbrydol, yn fugeiliol, ac yn addysgol, ac ad-drefnu ei pheirianwaith. Medrai siarad Cymraeg, ond nid yn rhugl; eithr ni faliai lawer am genedligrwydd arbennig Cymru. Yr oedd yn gryn ysgolhaig, fel y dengys ei lyfrau, megis The Vestiges of the Gael in Gwynedd, 1851; The History and Antiquities of S. David's (gydag E. A. Freeman), 1852-7; argraffiadau o ddrama Sophocles, Oidipws y Brenin, ac amryw bregethau ac areithiau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.