Ganwyd 11 Chwefror 1797. Ni bydd a fynnom yma â'r gŵr enwog a'r ysgolhaig mawr hwn ond yn ei gyswllt â Chymru; y mae ysgrif lawn arno yn y D.N.B. Penodwyd ef yn esgob Tyddewi yn 1840, a bu gwrthwynebiad mawr i'r penodiad: yn Lloegr, yn herwydd ehangrwydd ei syniadau diwinyddol a gwleidyddol; yng Nghymru, am nad oedd yn Gymro - ymosodwyd yn Yr Haul ar y penodiad, a sgrifennodd ' Dewi o Ddyfed ' (David James, 1803 - 1871) lythyr cryf at Thirlwall yn erfyn arno wrthod yr esgobaeth, ar y tir na ddylid bod yn esgob yng Nghymru heb fedru Cymraeg - gweler y llythyr yng nghofiant James, 32-9. Eithr nid yn unig ni ddaliodd Thirlwall unrhyw ddig at David James (cynigiodd archddiaconiaeth iddo yn 1860), ond aeth ati i ddysgu Cymraeg, ac ymhen blwyddyn gallai bregethu yn Gymraeg; cyhoeddwyd cyfrol o'i bregethau Cymraeg, dan olygyddiaeth E. O. Phillips yn 1877 - gwir mai Cymraeg anystwyth ac annealladwy i'r werin a oedd ganddo. Yr oedd yn esgob egnïol a hael. Dywedir iddo rannu £40,000 mewn elusennau, gan gynnwys chwanegu at gyflogau ei bersoniaid tlotaf; symbylodd godi ysgolion, a sefydlu'r coleg hyfforddi yng Nghaerfyrddin; atgyweiriwyd dros 180 o eglwysi'r esgobaeth; ac ymwelodd â phob rhan o esgobaeth eang afrosgo Tyddewi. Eto, ni ddaeth byth yn boblogaidd; gŵr oeraidd, academaidd, llym oedd ef, ac ni lwyddodd ef na'i glerigwyr o Gymry i glosio at ei gilydd. Ar y llaw arall, a chofio tueddiadau rhyddfrydig Thirlwall, siomedig fu ei agwedd pan ddaeth Rowland Williams (1817 - 1870) i drybini - gweler Life of Rowland Williams, i, 333-7. Rhwng popeth, ymbellhaodd yn raddol oddi wrth ei glerigwyr, a dibynnai'n gynyddol ar ei archddiaconiaid. Collodd ei olygon, a pharlyswyd ef; ymddeolodd o'i esgobaeth yn 1874, a bu farw yn Bath, 27 Gorffennaf 1875; claddwyd yn abaty Westminster.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.