Ganwyd yn Helygain, Sir y Fflint, 16 Awst 1817, ail fab y Parch. Rowland Williams (1779 - 1854), a Jane ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol Eton a Choleg y Brenin, Caergrawnt; daeth yn gymrawd o'i goleg yn 1839, yn B.A. yn 1841, ac M.A. yn 1844. Ar ôl cyfnod byr yn athro yn Eton, urddwyd ef yn ddiacon (1842) ac yn offeiriad (1843) gan yr esgob Kaye o Lincoln. Am wyth mlynedd (1842-50) bu'n athro yn y clasuron yn ei goleg, ac yn 1850 aeth yn is-brif athro ac yn athro Hebraeg i Goleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Yn ystod ei 12 mlynedd yno, ymroes i ddiwygio trefniadau a chynllun gwaith y coleg, a llwyddodd i raddau mawr yn hyn; bu'n fawr ei barch hefyd gan y myfyrwyr. Tybiai rhai ei fod ar ei ffordd i'r fainc esgobol yng Nghymru. Ond ar ôl iddo draddodi pregeth o flaen Prifysgol Caergrawnt (penodasid ef yn bregethwr arbennig yno, Rhagfyr 1854) newidiodd pethau'n llwyr. Testun ei bregeth oedd 'Duwioldeb Rhesymol,' a barnai llawer fod ei syniadau'n sawru o anuniongrededd. Ni bu trai ar y gwrthwynebiad iddo pan ymddangosodd ei gyfraniad i Essays and Reviews yn 1860; disgrifiai yno ganlyniadau diweddaraf beirniadaeth Feiblaidd. Felly, yn 1862, ymddeolodd o Lanbedr Pont Steffan, a mynd i fyw i Broad Chalke, ger Salisbury; derbyniasai'r fywoliaeth hon yn 1858. Bu yno hyd ei farwolaeth, 18 Ionawr 1870, a'i gladdu yno; ceir yn yr eglwys honno ffenestr goffa iddo, ac y mae tabled bres iddo yng nghapel Coleg Dewi Sant. Priododd ag Ellen Cotesworth, Lerpwl, yn 1859. Ysgrifennodd yn helaeth; llyfr ar Gristnogaeth a Hindŵaeth, a gyhoeddwyd yn 1856, yw ei waith pwysicaf. Ysgrifennodd hefyd Owen Glendower, a Dramatic Biography, 1870, a nifer o draethodau clasurol a diwinyddol (gweler y rhestr yn D.N.B.).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.