WILLIAMS, ROWLAND (1779 - 1854), clerigwr

Enw: Rowland Williams
Dyddiad geni: 1779
Dyddiad marw: 1854
Priod: Jane Wynne Williams (née Jones)
Plentyn: Emily Pryce (née Williams)
Plentyn: Rowland Williams
Rhiant: Catherine Williams
Rhiant: Richard Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yn Nhy'nypwll, Mallwyd, Meirionnydd, a'i fedyddio 27 Mawrth 1779, mab Richard Williams a Catherine ei wraig. Cafodd ei addysg mewn ysgol a gynhelid yn eglwys Mallwyd, yna ym Metws-yn-Rhos gyda Peter Williams, ficer y plwyf, ac yna yn ysgol Rhuthyn. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu, 24 Mai 1798, a graddio'n B.A. yn 1802 ac M.A. yn 1805. Cafodd urddau diacon yn 1802 ac offeiriad yn 1803 gan yr esgob Randolph o Rydychen, ac yna aeth yn athro i Ysgol Friars, Bangor, ac yn gurad Llandygai. Cafodd ddylanwad dwfn ar yr ardal rhag blaen. Yn 1807 penodwyd ef yn ficer Cilcain, ger yr Wyddgrug; yn 1809 yn ficer Helygain; yn 1819 yn ficer Meifod. Yn 1830 dychwelodd i Sir y Fflint, i Ysgeifiog, a bu yno hyd ei farwolaeth, 28 Rhagfyr 1854. Claddwyd ef yn Ysgeifiog, ac y mae iddo ffenestr goffa ym mhen gorllewinol eglwys gadeiriol Llanelwy. Priododd a Jane Wynne Jones o Dre-iorwerth, ger Bodedern, sir Fôn, a bu iddynt dri mab a phum merch. Un o'i feibion oedd Rowland Williams (1817 - 1870). Dechreuodd ymddiddori mewn pethau llenyddol Cymreig o'r amser yr aeth i Fangor, ac yn 1805 penodwyd ef yn ysgrifennydd Cymdeithas Traethodau Bangor. Yr oedd yn un o'r ' offeiriaid llengar' a oedd yn weithgar iawn yn nauddegau a thridegau y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chyfrifid ef yn awdurdod ar y Gymraeg. Yr oedd yn un o'r pedwar gŵr a benodwyd i adolygu y Llyfr Gweddi Gyffredin Cymraeg (cyhoeddwyd ffrwyth eu llafur yn 1841); credai'n gryf ym mhosibiliadau'r Wasg Eglwysig Gymraeg, a gwnaeth lawer iawn i hyrwyddo cyhoeddi gwahanol gylchgronau. Ysgrifennodd gryn lawer ei hun i'r cylchgronau hyn, a chyhoeddodd hefyd amryw bregethau. Cymerodd ef a'i fab ran yn y frwydr yn 1843-6 yn erbyn uno esgobaethau Bangor a Llanelwy er darparu ar gyfer esgobaeth newydd Manceinion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.