JAMES, DAVID ('Dewi o Ddyfed '; 1803 - 1871), clerigwr ac awdur

Enw: David James
Ffugenw: Dewi O Ddyfed
Dyddiad geni: 1803
Dyddiad marw: 1871
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 6 Ionawr 1803 ym Maenor Deifi, Sir Benfro, mab Abraham ac Ann James. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Aberteifi ac yn Ystrad Meurig. Ordeiniwyd ef yn ddiacon, 19 Tachwedd 1826, a phenodwyd ef i guradaeth Granston, Sir Benfro. Urddwyd ef yn offeiriad, 2 Medi 1827. Trwyddedwyd ef i guradaeth Jordanston, Sir Benfro, 31 Gorffennaf 1828, a bu'n gurad yn Almondbury, sir Efrog, 1829-36. Tra yn Almondbury priododd ddwy waith. Ei wraig gyntaf oedd Margaret Batty o Fenay Hall, a'r ail Emma Armitage o Milnsbridge House. Yr oedd dau o blant o'r briodas gyntaf, a thri o'r ail. Yn 1836 cafodd fywoliaeth Kirkdale, Lerpwl. Rhoddwyd gradd M.A. iddo gan archesgob Caergaint yn 1849, a gradd Ph.D. gan Brifysgol Heidelberg yn 1853. Yn Chwefror 1853 apwyntiwyd ef yn warden Coleg Llanymddyfri, ond yn 1854 derbyniodd fywoliaeth Marsden, sir Efrog. Oddi yno daeth i eglwys Panteg, sir Fynwy, 11 Tachwedd 1856, a bu yno hyd ei farw ar 2 Awst 1871.

Yr oedd yn Gymro brwd ac yn wr adnabyddus ar lwyfan yr eisteddfod. Gwrthwynebai yn gyndyn apwyntio esgobion ac offeiriaid di- Gymraeg i esgobaethau ac eglwysi yng Nghymru. Tra yn Lloegr daeth yn aelod diwyd o'r gymdeithas a elwid ' Association of Welsh Clergy in the West Riding of the County of York,' cymdeithas a gymerai ddiddordeb mawr ym mhwnc y clerigwyr di- Gymraeg. Cyfarfu'r gymdeithas yn 1856 yn ficerdy Marsden, sef plwyf David James.

Ymhlith ei weithiau cyhoeddedig ceir, The Patriarchal Religion of Britain; or a Complete Manual of Ancient British Druidism, 1836; darlith, The Doctrine of the Trinity, 1839; pamffled, The Pope's Supremacy Disproved and the Apostolic Origin and National Independence of the British Church Demonstrated, 1849; darlith, Purgatory, 1851; pregeth, Peter without a Primacy and the Pope a Usurper, 1851; darlith, The Siege of Derry, 1851; The Apostolic Origin and Scriptural Character of the Rite of Confirmation (ail arg. 1851). Brawd iddo oedd Thomas James ('Llallawg'), a mab iddo oedd H. A. James.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.