Ganwyd ym Manordeifi, Sir Benfro, 21 Awst 1817. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1840 ac yn offeiriad yn 1841; yn siroedd Amwythig (Much Wenlock) a Derby yr oedd ei guradiaethau cyntaf. Ar berswâd Lewis Jones, Almondbury, aeth i swydd Efrog yn 1846 a bu'n ficer All Saints, Netherthong, am 33 mlynedd. Bu'n ŵr sengl hyd 1870 pryd y priododd Jane, merch William Hammett, Appledore Court, Dyfnaint; bu hi farw yn 1872. Cywirodd waith llyfryddol 'Gwilym Lleyn' droeon. Yr oedd yn F.S.A. ac yn un o sylfaenwyr y Cambrian Archaeological Association (Archæologia Cambrensis, 1846, 463-5). Yr oedd yn un o bileri yr ' Association of Welsh Clergy in the West Riding of the County of York.' Heblaw ysgrifennu cofiant i Joseph Hughes ('Carn Ingli') a Lewis Jones, Almondbury, anfonai ysgrifau i'r Haul a'r Bye-Gones. Mynychai'r eisteddfod a bu'n feirniad droeon. Efe a dau arall a fu'n cloriannu ' Barddas ' John Williams ('Ab Ithel') a gyhoeddwyd yn 1862 gan y Welsh MSS. Society. Lluniwyd ' Cerdd Goffa ' i ' ddau wladgarwr ' yn eisteddfod 1880 - ' Llallawg ' ydyw un ohonynt. Brawd iddo oedd David James ('Dewi o Ddyfed'). Bu farw 3 Awst 1879 a chladdwyd ym mynwent Netherthong.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.