JONES, LEWIS (1793 - 1866), clerigwr

Enw: Lewis Jones
Dyddiad geni: 1793
Dyddiad marw: 1866
Rhiant: Mary Jones
Rhiant: William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Daniel Williams

a phennaeth yr ' Association of Welsh Clergy in the West Riding of Yorkshire '; ganwyd 14 Chwefror 1793, mab William a Mary Jones, Penpontbren, Llanfihangel-genau'r-glyn, Sir Aberteifi. Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig yn nyddiau John Williams ('Yr Hen Syr'). Wedi hynny bu'n athro yn ysgol ramadeg Clitheroe, sir Lancaster. Cafodd ei benodi i fywoliaeth Almondbury, ger Huddersfield, 1822; yr oedd hefyd yn ' gurad parhaol ' Llandevaud, Mynwy (1822-52). Manteisiodd ar ' Offrwm Diolch ' (Million Act) y Llywodraeth i adeiladu 18 o eglwysi newydd, ysgolion, a phersondai, a daeth i'w adnabod gan y Saeson fel ' The Church building parson.' Fel nawddogwr ei blwyf mawr, a'i sêl dros Gymru, penododd glerigwyr Cymreig i'r holl fywiolaethau newydd. Ail-luniodd ' Gymdeithas y Clerigwyr Cymreig ' (1835) a gychwynasid yn 1821, a bu'n llywydd iddi am 30 mlynedd i'r diwedd. Bu farw 26 Awst 1866.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.