Ganwyd yng ngwanwyn 1745/6, mab hynaf David Williams Swyddffynnon, Sir Aberteifi (gof wrth ei alwedigaeth, ac un o gynghorwyr cynnar y Methodistiaid). Brawd iddo oedd Evan Williams 1749 - 1835.
Bu'n ddisgybl i Edward Richard yn Ystrad Meurig, ac yn 1765 aeth yn athro ar ysgol a gynhelid yng nghapel Woodstock, plwyf Treamlod, Sir Benfro. Yn nechrau 1766 aeth yn athro i Aberteifi, ac ordeiniwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Moss o Dyddewi, 26 Rhagfyr 1768. Cafodd urddau offeiriad 19 Awst 1770; yn Ionawr 1771 aeth i Ross yn Swydd Henffordd yn gurad ac yn athro. Bu yno hyd Hydref 1776, pryd y torrodd ei iechyd, ond dychwelodd i'w hen gynefin a throes ar wella. Ar ôl marw Edward Richard yn 1777, penodwyd John Williams yn athro ar ei hen ysgol yn ei le, 19 Awst, a dechreuodd ar ei waith yn Medi. Bu yno hyd ddiwedd ei oes, 20 Mawrth 1818, a chladdwyd ef ym mynwent Ystrad Meurig.
Yn ystod ei dymor maith yn brifathro Ystrad Meurig llwyddodd i osod safonau ysgolheictod uchel ger bron ei ddisgyblion; derbyniwyd llawer ohonynt ar gyfer urddau sanctaidd heb unrhyw baratoad ond a gawsent yn Ystrad Meurig. Daeth nifer ohonynt yn enwog ym mywyd yr Eglwys (gweler y rhestr yn D. G. Osborne-Jones, Edward Richard of Ystrad Meurig, 60-2). Priododd â Jane, merch Lewis Rogers (siryf sir Aberteifi yn 1753), a bu iddynt dri mab ac un ferch, Letitia Maria a fu'n briod â David Davies'.
Ar ôl mynd i Ystrad Meurig, bu John Willliams yn gurad yn Lledrod ac yn Llanafan; yn Ebrill, 1793, cafodd reithoraeth Llanfair Orllwyn; yn 1795, guradiaeth barhaus Blaenporth; ym Mehefin 1799, guradiaeth Ystrad Meurig; ym Mai, 1804, ficeriaeth Nantmel ger Rhaeadr Gwy, a'r un pryd ganoniaeth yng Ngholeg Crist yn Aberhonddu. Adwaenid ef fel ' Yr Hen Syr,' a rhwng 1810 a 1815 cododd adeilad newydd ar gyfer yr ysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.