Mab Robert Davies, Gorwydd, Llanddewi-brefi, a'i wraig Eleanor, merch John Price, Rhosybedw, Llanwrda. Bedyddiwyd David Davies yn eglwys Llanddewibrefi ar 5 Medi 1792.
Aeth yn gynnar ar ei yrfa i Lundain a cheir ef yn feddyg yn Hampton, Middlesex, yn cynorthwyo un o feddygon y frenhines Adelaide; yn ddiweddarach daeth ef ei hunan yn feddyg i'r brenin William IV ac Adelaide. Fe'i gwnaethpwyd yn farchog gan y frenhines Victoria yn gynnar ar ôl iddi esgyn yr orsedd.
Priododd, 8fed o Chwefror 1819, Letitia Maria, merch John Williams ('Yr Hen Syr'), ysgolfeistr ysgol Ystrad Meurig. Bu iddynt bedwar mab - (a) Samuel Price, (b) Syr Robert Henry, (c) Thomas, a (d) William. Bu'r meddyg farw yn Lucca yn yr Eidal, 2 Mai 1865, a chladdwyd ef yn Biarritz.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.