DAVIES, Syr ROBERT HENRY (1824 - 1902), swyddog yn y gwasanaeth gwladol yn yr India

Enw: Robert Henry Davies
Dyddiad geni: 1824
Dyddiad marw: 1902
Rhiant: Letitia Maria Davies (née Williams)
Rhiant: David Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog yn y gwasanaeth gwladol yn yr India
Maes gweithgaredd: Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil; Teithio
Awdur: William Llewelyn Davies

mab Syr David Davies, meddyg. Addysgwyd ef yn ysgolion Charterhouse a Haileybury (1841-3) ac aeth i'r gwasanaeth gwladol yn yr India, gan wasanaethu yn Sutlej, Lahore, etc. Yn 1859 fe'i dewiswyd yn ysgrifennydd i lywodraeth y Punjab ac o 1871 hyd 1877 efe oedd pen-llywodraethwr y Punjab. Gwnaethpwyd ef yn K.C.I.E. yn 1874 a chafodd anrhydeddau eraill hefyd. Bu farw 23 Awst 1902 yn Halebourne, Chobham, a chladdwyd ef yn Thorney, Peterborough.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.