Ganwyd yn Ystradmeurig ym mis Mawrth 1714. Enw ei dad oedd Tomos Richard, teiliwr a thafarnwr, a Gwenllian ('Modryb Gwen' fel y gelwid hi yn gyffredin) oedd enw ei fam. Cafodd Edward wersi mewn Groeg a Lladin gan ei frawd, Abraham; aeth i ysgol ramadeg y frenhines Elisabeth, Caerfyrddin, ac oddi yno i Bontygido, dan ofal clerigwr o'r enw Pugh, ysgolhaig enwog mewn Groeg. Tua 1735 neu 1736 aeth yn ei ôl i Ystradmeurig i gadw ysgol, a daeth ei ysgol yn enwog, a rhai o'i ddisgyblion yn bwysig mewn llawer cylch. Bu farw 4 Mawrth 1777.
Dangosodd Edward Richard ei fugeilgerdd gyntaf i 'Ieuan Brydydd Hir,' Lewis Morris, a Richard Morris, a chyhoeddwyd hi am y tro cyntaf yn Almanac Gwilym Howel, 1767. Yn 1776 argraffwyd yn Amwythig gan J. Eddowes, Bugeilgerdd. Yr Ail yn y Iaith Gymraeg gan Edward Richard. Awdwr y Gyntaf. Ar ddiwedd hwn, yn un o'r 'Amryw' yn y Llyfrgell Genedlaethol, ceir y fugeilgerdd gyntaf mewn llawysgrif, ond nid llawysgrif Edward Richard ydyw. Cyfieithwyd y fugeilgerdd hon yn Saesneg gan 'Ieuan Brydydd Hir,' a cheir ei gyfieithiad yn Panton MS. 2 (193-200). Yn Gwaith Dafydd Ionawr, a olygwyd gan Morris Williams ('Nicander'), tadogwyd un o englynion Edward Richard arno. Edward Richard yw awdur yr englyn sydd gan Saunders Lewis yn ei lyfr, A School of Welsh Augustans, ac y mae NLW MS 5487B , sef 'Diaries of the Rev. Timothy Davies' (mab David Davis, Castellhywel), yn profi ei fod yn gywir. Gweler y ddau englyn yn Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif, 35. Argraffwyd gwaith Edward Richard yn 1803, 1811, 1813, 1851, 1856, a Chyfres y Fil, 1912; ac amryw o'i lythyrau yn Additional Morris Letters.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.