Ganwyd 20 Mai 1731, yn ffermdy'r Gynhawdref, plwyf Lledrod, Ceredigion, mab Jenkin a Catherine Evans.
Addysgwyd ef gan Edward Richard yn ysgol Ystrad Meurig, ond ni ellir rhoddi dyddiadau pendant i ddangos yn ystod pa flynyddoedd y bu yno. Ar 8 Rhagfyr 1750 ymaelododd yng Ngholeg Merton, Rhydychen; niwlog hefyd yw'r dystiolaeth am ei arhosiad yno - yr oedd yn bresennol yn ystod 1751, ac eto yn 1753, ond ymadawodd heb gymryd gradd. Cyn mynd i Rydychen, daeth i adnabod Lewis Morris, a roddodd gyfeiriad i'w fywyd trwy ei gyfarwyddo yng nghelfyddyd cerdd dafod, ennyn ei ddiddordeb mewn dysg Gymraeg, a dod ag ef i gysylltiad â'r rhai eraill a hyrwyddai adfywiad llenyddol a hynafiaethol Cymreig y 18fed ganrif, sef Richard a William Morris, William Wynn, Llangynhafal, a Goronwy Owen.
Urddwyd ef yn ddiacon yn Llanelwy 4 Awst 1754, ac yn offeiriad 3 Awst 1755, a thrwyddedwyd ef i wasnaethu fel curad ym Manafon, Sir Drefaldwyn. Ymadawodd oddi yno rywbryd yn ystod hanner cyntaf 1756, a threuliodd hanner olaf y flwyddyn yn gurad yn Lyminge, Kent. Yn nechrau 1757 bu am dri mis yn Rhydychen yn copïo barddoniaeth Gymraeg allan o ' Lyfr Coch Hergest,' ac am ddeufis yn gaplan yn y llynges. Dychwelodd wedyn i Gymru, a threuliodd 10 mis fel cynorthwywr i Samuel Griffiths, ficer Llanafan Fawr, sir Frycheiniog. O Hydref 1758 hyd Hydref 1766, trigai yng ngogledd Cymru, gan wasnaethu fel curad yn Llanllechid am flwyddyn, yn Nhrefriw a Llanrhychwyn am ddwy flynedd, ac o 1761 hyd 1766 yn Llanfair Talhaearn.
Yn ystod y blynyddoedd hyn bu wrthi'n ddyfal yn casglu a chopïo llawysgrifau 'n ymwneuthur â hanes a llenyddiaeth Cymru, a dod i gysylltiad â rhai eraill a ymddiddorai yn yr un gwaith, gwŷr megis David Jones o Drefriw; John Thomas, awdur A History of the Island of Anglesey, 1775; Rhys Jones o'r Blaenau; Richard Roberts, cyfieithydd Y Credadyn Bucheddol, 1768; Robert Thomas, clochydd Llanfair Talhaearn; a Siôn Powel, y bardd o Lansannan.
Daeth hefyd i adnabod hynafiaethwyr o Saeson a ymddiddorai yn hanes a llenyddiaeth Cymru, e.e. Daines Barrington, yr hwn a'i cymhellodd i ddechrau cyfieithu barddoniaeth Gymraeg ac a âi ag enghreifftiau i'w dangos i Thomas Gray a Thomas Percy, a fu'n gohebu ag ef am flynyddoedd. Y Saeson hyn yn bennaf hefyd a symbylodd Ieuan i gyhoeddi'r gwaith a ddug iddo enwogrwydd fel ysgolhaig Cymraeg, sef Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards , 1764. Yn y gyfrol hon cafwyd ymgais drefnus a hynod lwyddiannus i ddehongli gwaith beirdd cyfnod y Tywysogion ac i roi syniad am hanes barddoniaeth Gymraeg o'r 6ed ganrif hyd y 16eg. Bodlonodd hefyd ryw gymaint ar awch hynafiaethwyr Lloegr am wybodaeth ynglŷn â llenyddiaeth Gymraeg, a darparu'n ogystal ddeunydd newydd i lenorion y mudiad Celtaidd yn llenyddiaeth Saesneg diwedd y 18fed ganrif.
Ymadawodd â Llanfair Talhaearn yn ystod Hydref 1766, ac o Dachwedd 1766 hyd Fai 1767 bu'n gwasnaethu fel curad yng nghymdogaeth ei gartref, sef yn eglwysi Lledrod, Llanwnnws, a Chapel Ieuan (Ystrad Meurig). Yna, trodd tua Lloegr, a bu'n gurad am fis yn Appledore, Kent, ac o Orffennaf 1767 hyd ddechrau 1768 yn Newick, Sussex. Yn nechrau Ebrill 1768 ymunodd â'r fyddin, ond ymhen pedwar diwrnod, wedi darganfod mai gŵr eglwysig ydoedd, rhyddhaodd awdurdodau'r fyddin ef gan dystio ei fod yn dangos arwyddion amhwylledd. Wedi bod gartref am dro, aeth yn gurad eto, y tro hwn i Lanfihangel Crucornau ger Abergafenni, ac yno y bu hyd ddechrau 1769. Dychwelodd wedyn i Ogledd Cymru, gan wasnaethu fel curad yn Llanystumdwy (1769-70), Llandecwyn a Llanfihangel y Traethau (1770-1), Llanberis (1771-2), a Thywyn, Meirionnydd o ddiwedd 1772 hyd ddechrau 1777. O 1771 hyd 1778 noddwyd ef gan Syr Watkin Williams Wynn, a châi swm o arian yn gyson a phob cyfle i ddefnyddio llyfrgell gyfoethog Wynnstay. Yn 1772 cyhoeddodd The Love of our Country, cerdd Saesneg; yn 1773, Rhybudd Cyfr-drist i'r Diofal a'r Difraw, llyfryn yn cynnwys anerchiad byr a Phregeth; yn 1776, Casgliad o Bregethau, dwy gyfrol sy'n cynnwys 28 o bregethau wedi eu cyfiethu o'r Saesneg. Oherwydd ei gysylltiad â Syr Watkin a'i agosrwydd at Hengwrt a Pheniarth, copïodd ac astudiodd lawer iawn o lawysgrifau hefyd, ac yr oedd ganddo ddefnyddiau pwysig yn barod i'w cyhoeddi. Eithr ni ddaeth dim o'i fwriadau yn y cyfeiriad hwn, ac ar ôl ei weld yn treulio dros hanner blwyddyn yng Nghaerfyrddin yn 1777-8 yn derbyn hyfforddiant mewn Hebraeg ac Arabeg gan athrawon y Coleg Presbyteraidd yn hytrach nag ymroi ati i gyhoeddi ffrwyth ei ymchwiliadau ysgolheigaidd, ffromodd Syr Watkin wrtho, a gwrthododd ei noddi ymhellach.
Am 10 mlynedd olaf ei oes ni bu llawer o drefn ar ei fywyd; ac eithrio trigo am ysbeidiau yn Aberystwyth a Chaerfyrddin, a chrwydro ar hyd a lled y wlad gan fyw ar garedigrwydd cyfeillion, treuliodd y rhan fwyaf o'i amser gartref gyda'i fam yn y Gynhawdref. Ceisiodd agor ysgol yn Aberystwyth, ond ni bu'n llwyddiant; a dywedir iddo wasnaethu fel curad ym Masaleg, sir Fynwy, am ychydig amser tua 1780, pryd y cyfansoddodd ' Englynion i Lys Ifor Hael,' ei gyfansoddiad barddonol enwocaf a gorau. Ac ar hyd yr amser apeliai'n gyson am gefnogaeth boneddigion Cymru a chymdeithasau dysgedig y cyfnod i gyhoeddi cynnwys rhai o'r llawysgrifau pwysicaf a gopïodd yn ystod ei fywyd. Eithr ofer fu pob apêl a wnaeth. Gellir dal ei fod ef ei hun i raddau'n gyfrifol na chafodd gefnogaeth, oherwydd ar hyd ei oes dioddefai oddi wrth wendid a oedd yn gyffredin yn y 18fed ganrif, sef ei fod yn rhy hoff o'r ddiod. Parodd hyn iddo golli ymddiriedaeth pobl a allai fod o gynhorthwy iddo, a diau mai'r un gwendid a fu'n rhwystr iddo gael dyrchafiad yn yr Eglwys. Ond ynglŷn â'i berthynas â'r Eglwys, dylid cofio hefyd nad edrychai awdurdodau Eglwys Loegr yng Nghymru yn ffafriol ar y rheini a ymroddai o ddifrif i hyrwyddo astudiaethau Cymraeg. Dyna gyfnod yr 'Esgyb-Eingl,' sef canrif a hanner pryd na bu'r un esgob yng Nghymru a fedrai'r iaith Gymraeg; a thuedd yr esgobion Seisnig hyn oedd trwyddedu cydwladwyr iddynt i fywiolaethau a oedd yn uniaith Gymraeg. Ffyrnigai Ieuan at yr anghyfiawnder hwn, ac ysgrifennodd draethawd hir a llym yn ei gondemnio. Ni chyhoeddwyd y traethawd, ond y mae'n sicr i Ieuan ddioddef oherwydd ei syniadau.
Bu Paul Panton a Thomas Pennant yn garedig iawn wrtho yn ei dlodi a'i siom yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd, a threfnasant i gasglu tanysgrifiadau blynyddol yng Ngogledd Cymru tuag at ei gynnal. Yn 1787, gwelodd fod ei iechyd yn gwaethygu ac na allai astuidio o ddifrif bellach; gwerthodd ei lawysgrifau i Paul Panton a throsglwyddwyd hwy i'r Plasgwyn yn sir Fôn yn niwedd Rhagfyr 1787, ac yn ddiweddarach gwnaethpwyd defnydd helaeth ohonynt gan olygyddion y The Myvyrian Archaiology of Wales , 1801-7. Bu Ieuan farw yn y Gynhawdref 4 Awst 1788.
Y mae'n ddiamau mai Ieuan Fardd ydoedd ysgolhaig Cymraeg mwyaf ei gyfnod: gwyddai fwy na neb o'i gyfoeswyr am gynnwys y llawysgrifau Cymraeg a geid mewn gwahanol lyfrgelloedd preifat, ac ymgydnabu hefyd â gwaith ac amcanion yr ysgolheigion Cymraeg mawr o gyfnod y Dadeni ymlaen. Sylweddolai mai prif angen ysgolheictod Cymraeg ei ddydd ef oedd argraffu testunau o'r prif lawysgrifau a oedd yn ymwneud â hanes a llenyddiaeth Cymru. Dymunai ef wneuthur hynny, ac yr oedd ganddo'r gallu a gwyddai'n iawn am ddyletswyddau golygydd gwaith o'r fath. Eithr ni chafodd gefnogaeth i gyflawni ei fwriadau. Er hynny, o dan anfanteision mawr cyflawnodd waith disglair a sicrhaodd iddo le diamheuol bwysig yn hanes ysgolheictod Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.