O Ryd-yr-eirin ym mhlwyf Llansannan yn sir Ddinbych. Yn ôl Owen Williams, Awduron Sir Ddinbych, fe'i ganwyd yn 1731. Dywedir ei fod yn glochydd hefyd. Yr oedd yn un o gyfeillion agosaf Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir') pan oedd hwnnw'n gurad yn Llanfair Talhaearn, ac edrychai arno fel athro. Ceir casgliad o'i waith yn ' Y Piser Hir ' (Swansea MS. 1, yn Ll.G.C.), sef 10 cywydd ac un awdl. Ymhlith y rhain ceir cywydd ar ddioddefaint Crist, cywydd yn cwyno oherwydd na châi gweithiau'r hen feirdd ymgeledd priodol yn ei amser, cywydd marwnad i filgi, cywyddau i Siôn ap Rhisiart o Fryniog, Ieuan Owain o Ddyffryn Aur, Rhobert Burchinshaw, dau gywydd i ' Ieuan Brydydd Hir ' ac un i Dafydd Jones o Drefriw i erchi copi o'i lyfr, Y Cydymaith Diddan. Cyhoeddwyd y cywydd olaf hwn a'r llythyr a ddanfonwyd gydag ef (13 Hydref 1766) yn Llythyrau at Ddafydd Jones o Drefriw (gol. G. J. Williams. Ceir cywyddau eraill o'i waith yn N.L.W. MS. 562 a chân rydd yn Cwrtmawr MS. 230. Nid oes unrhyw fanylion ar gael am ei fywyd, ond gwyddys iddo gael ei gladdu ym mynwent eglwys Llansannan ar 7 Mai 1767. Canodd 'Ieuan Brydydd Hir' farwnad iddo, a cheir copi ohoni yn llaw'r bardd yn Panton MS. 2; [gweler hefyd dan D. Jones, 1732 - 1782? ].
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.