WILLIAMS, GRIFFITH JOHN (1854 - 1933), ysgolfeistr, daearegwr, a hynafiaethydd

Enw: Griffith John Williams
Dyddiad geni: 1854
Dyddiad marw: 1933
Priod: Mary Helena Williams (née Howell)
Plentyn: Enid Williams
Plentyn: Daniel Howell Williams
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr, daearegwr, a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: John William Jones

Ganwyd 16 Rhagfyr 1854 yn Hen Dy Capel, Rhiwbryfdir, Blaenau Ffestiniog (nid yn Tanygrisiau fel y dywed J. Lloyd Williams), un o bum plentyn John Williams, Rhiwbryfdir (brawd Griffith Williams, Talsarnau), a'i wraig. Wedi gadael yr ysgol bu G. J. Williams yn gweithio fel rybelwr bach ym Melin Holland, chwarel Oakeley, Blaenau Ffestiniog. Byr fu ei arhosiad yno gan iddo fynd i Goleg Normal Bangor. Bu wedyn yn athro ysgol yng Nghorwen (1876) ac yn Nhanygrisiau, ac yn brifathro'r ysgol Frutanaidd, Blaenau Ffestiniog, cyn cael ei ddewis yn 1883 yn brifathro 'r Higher Grade School yno. Yn ei oriau hamdden cymerai ddiddordeb mewn daeareg; yn 1891 cyhoeddodd bamffled yn cynnwys ffrwyth ei ymchwil i ddaeareg mynyddoedd Manod, Moelwyn Mawr, a Moelwyn Bach, a chafodd wobr o gronfa'r Geological Society; yn 1895 penodwyd ef yn arolygydd cynorthwyol mwyngloddiau yng Ngogledd Cymru ac Iwerddon (o dan y Dr. Le Neve Foster). Cyhoeddwyd ei Hanes Plwyf Ffestiniog, llyfr sydd yn parhau i fod yn ddefnyddiol, yn 1882. Priododd, Mai 1881, â Mary Helena (bu farw 1916), merch Daniel Howell, Melin Gellidywyll, Llanbrynmair; bu iddynt saith o blant. Bu farw 3 Chwefror 1933 a chladdwyd ym mynwent Glanadda, Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.