WILLIAMS, JOHN LLOYD (1854 - 1945), llysieuydd a cherddor

Enw: John Lloyd Williams
Dyddiad geni: 1854
Dyddiad marw: 1945
Priod: Elizabeth Williams (née Jones)
Rhiant: Jane Williams
Rhiant: Robert Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llysieuydd a cherddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Robert Alun Roberts

Ganwyd 10 Gorffennaf 1854 ym Mhlas Isa, Llanrwst (hen gartref William Salesbury), yr hynaf o saith plentyn Robert a Jane Williams. Am bum mlynedd, 1868-72, bu'n ddisgybl-athro yn ysgol Frytanaidd Llanrwst, cyn myned i'r coleg Normal ym Mangor. Yn 1875 penodwyd ef yn brifathro ysgol elfennol Garn Dolbenmaen, Sir Gaernarfon. Tua chanol nawdegau'r ganrif bu'n gweithio gyda'r Athro (Syr) John Bretland Farmer yn y Royal College of Science yn Llundain, lle yr oedd yn ysgolor Marshall. O 1897 hyd 1912 bu'n ddarlithydd cynorthwyol mewn llysieueg yng ngholeg y Brifysgol, Bangor, ac o 1912 hyd 1915 yn gynghorydd mewn llysieueg amaethyddol i'r Bwrdd Amaethyddiaeth ym Mangor. Yn 1915 penodwyd ef yn athro llysieueg yng ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, a bu yno hyd nes iddo ymddeol yn 1925. Tra yr oedd yn Llundain cychwynnodd ar ei waith ymchwil ar fathau arbennig o wymon, a chyhoeddwyd ffrwyth yr ymchwil hwn yn The Annals of Botany, 1896, a The Proceedings of the Royal Society, 1897. Ym Mangor y gorffennodd ei waith mwyaf adnabyddus sef ar y Dictyota, a chyhoeddwyd hwn yn 1904-5. Darllenasai bapurau ar algae i'r Gymdeithas Brydeinig yn Bradford yn 1900 ac yn Dundee yn 1912, ac yn 1921 cyhoeddodd ffrwyth ei ymchwil ynglŷn â'r pwnc yn The Annals of Botany. Gwnaeth rai darganfyddiadau arbennig yn y maes hwn yr un adeg â Sauvageau. Ef oedd llywydd adran K (Llysieueg) o gynhadledd y Gymdeithas Brydeinig er hyrwyddo Gwyddoniaeth yn Southampton yn 1925. Cyfrifid ef y prif arbenigwr ar fflora arctig alpaidd ardal Eryri. Er yn blentyn buasai'n hoff o gerddoriaeth, a phan oedd yng Ngarn Dolbenmaen ysgrifennodd operetau bychain. ' Aelwyd Angharad ' a ' Cadifor ' oedd cynhyrchion mwyaf adnabyddus ei gyfnod diweddarach. Llew Tegid a ysgrifennodd y geiriau i'r ddau waith hyn. Yr oedd yn adnabyddus fel beirniad cerdd, arweinydd corau ac arweinydd cymanfaoedd. Bu iddo ran bwysig yn sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn 1906, a bu'n olygydd cylchgrawn y gymdeithas. Bu hefyd yn olygydd Y Cerddor. Casglodd ef ac Arthur Somerville ddwy gyfrol o alawon Cymreig (Boosey & Co.). Enillodd radd D.Sc. (Cymru) am ei waith ar 'marine algae' yn 1908, a chafodd radd anrhydeddus D.Mus. (Cymru) yn 1936.

Wedi iddo ymddeol ysgrifennodd ei atgofion mewn pedair cyfrol dan y teitl Adgofion Tri Chwarter Canrif. Cyhoeddwyd tair o'r cyfrolau gan y Gymdeithas Lyfrau Cymraeg, a'r bedwaredd, wedi ei farw, gan Gwmni Cyhoeddi Foyle, Llundain, a gyhoeddodd hefyd ei gyfrol Y Tri Thelynor. Ysgrifennodd hefyd Byd y Blodau a gyhoeddwyd gan y Meistri Morris a Jones, Lerpwl. Parhaodd hyd ddiwedd ei oes i ymchwilio i wreiddiau a datblygiad cynnar cerddoriaeth Gymraeg.

Priodasai Elizabeth Jones, merch Emanuel ac Ann Jones, Tŷ Lawr, Cricieth, a bu iddynt ddau fab, Idwal a Geraint. Bu farw 15 Tachwedd 1945 yn Peacedown St. John, Bath, Somerset, a chladdwyd ef yng Nghricieth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.