JONES, LEWIS DAVIES ('Llew Tegid'; 1851 - 1928), eisteddfodwr

Enw: Lewis Davies Jones
Ffugenw: Llew Tegid
Dyddiad geni: 1851
Dyddiad marw: 1928
Priod: Elisabeth Jones (née Thomas)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yn Ffriddgymen, ger y Bala, 3 Tachwedd 1851. Aeth i Ysgol Frutanaidd y Bala yn 1862, ac ar ôl tymor fel disgybl-athro, derbyniwyd ef i'r Coleg Normal ym Mangor. Bu yno yn 1872 ac 1873, ac ar ôl blwyddyn a hanner yn athro yn ysgol y Cefnfaes, Bethesda, dewiswyd ef, Mehefin 1875, yn athro ysgol y Garth, Bangor. Ar ôl 27 mlynedd yno, cymhellwyd ef i adael yr ysgol a dechrau ar y gwaith o gasglu tuag at adeiladau newydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor, a bu'n gwneuthur hynny hyd 1916. Priododd, 1881, Elisabeth, merch John Thomas o Blas Madog, y Parc, ger y Bala, a chyfnither T. E. Ellis; bu iddynt ddau fab a thair merch. Bu farw ym Mangor, 4 Awst 1928, a'i gladdu ym mynwent Glan Adda.

Cynhyrchodd ' Llew Tegid ' gryn dipyn o waith llenyddol; cydweithiodd â John Lloyd Williams yng Nghymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ac ysgrifennodd eiriau Cymraeg ar lawer o'r alawon hynny a ddarganfuwyd. Ond fel arweinydd eisteddfod y cofir yn bennaf amdano. Ym Mangor yn 1902 y cafodd arwain gyntaf mewn eisteddfod genedlaethol, a gwnaeth hynny bob blwyddyn (ag un eithriad) hyd 1925. Yr oedd ganddo fedr arbennig i drin tyrfa fawr; meddai ar lais soniarus, treiddgar, arabedd parod, a phersonoliaeth hoffus.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.